Neidio i'r prif gynnwys

PARK PLAZA CAERDYDD

Mae Park Plaza Caerdydd yng nghanol y ddinas a bydd gwesteion yn teimlo’n gartrefol ym moethusrwydd cain y gwesty pedair seren soffistigedig hwn.

Park Plaza Cardiff Park Plaza Cardiff Park Plaza Cardiff Park Plaza Cardiff Park Plaza Cardiff Park Plaza Cardiff

Mae Park Plaza Caerdydd yng nghanol y ddinas a bydd gwesteion yn teimlo’n gartrefol ym moethusrwydd cain y gwesty pedair seren soffistigedig hwn.

Mae Gwesty’r Park Plaza mewn man ddelfrydol yng nghanol y ddinas ger Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Neuadd y Ddinas, ac o fewn pellter cerdded hawdd o’r holl atyniadau poblogaidd eraill a Chanolfan Siopa Dewi Sant. Mae’r gwesty 4 seren moethus a thrawiadol hwn yn cynnig 129 o ystafelloedd modern wedi’u haerdymheru, cyfleusterau sba â phwll nofio a champfa a defnydd o ryngrwyd cyflym ym mhob rhan o’r gwesty.

Ar y teras preifat yng nghanol golygfeydd o’r rhodfa â choed bob ochr iddi gallwch fwynhau pryd o fwyd yn y bwyty Laguna Kitchen & Bar penigamp, sydd wedi ennill gwobr Bwyty’r Flwyddyn yng ngwobrau bwyd a diod South Wales Echo. Gallwch flasu bwydlenni creadigol wedi’u cynllunio o amgylch cynnyrch tymhorol ffres a lleol.

Cyn swper gallwch fwynhau coctêl neu glased o win yn y Laguna Bar, enillydd y Bar Coctêl Gorau yng ngwobrau’r cylchgrawn Cardiff Life. Yn yr haf gallwch fwynhau te prynhawn clasurol ar y teras gan edrych dros Amgueddfa Genedlaethol Cymru a lawntiau Neuadd y Ddinas.

Gall pob gwestai fwynhau defnydd am ddim o’r pwll nofio dur gwrthstaen 20 metr cynnes, yr ystafell stêm a’r bath sba, neu fanteisio ar y gampfa dau lawr gwych llawn offer ymarfer corff. Mae hefyd wyth ystafell therapi a lolfa ymlacio er mwyn i chi allu mwynhau un o driniaethau harddwch Elemis. Mae’r Laguna Spa wedi ennill teitl ‘Sba Harddwch Gorau’ yng ngwobrau Cardiff Life 2016 a’r ‘Gorau yn y Diwydiant Hamdden’ yng Ngwobrau Rhanbarthol 2016.

Mae’r gwesty’n cynnig 129 o ystafelloedd deniadol a modern iawn, sy’n amrywio o Ystafelloedd Uwch safonol i Swîts. Mae system aerdymheru a rheolyddion gwres ym mhob ystafell, yn ogystal â rhyngrwyd diwifr cyflym am ddim, sgrîn deledu plasma, bar mini, desg, haearn a bwrdd smwddio, cyfleusterau paratoi te a choffi a choffor sy’n addas ar gyfer gliniaduron. Ceir llechi llwyd ym mhob ystafell ymolchi ynghyd â sychwr gwallt sydd wedi’i leoli’n gyfleus ger drych enfawr.

Mae’r ystafelloedd Uwchraddol, ein Swîts a’n Swîts Iau yn addas ar gyfer teuluoedd ac yn cynnig gwelyau enfawr, pecyn mwy eang o bethau ymolchi, defnydd o wn gwisgo, sliperi a hambwrdd croeso arbennig wrth gyrraedd.

Ffôn

029 2011 1101

E-bost

reservations@parkplazacardiff.com

Cyfeiriad

Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd CF10 3AL