Image

Diwylliant

Mae Caerdydd yn gartref i sefydliadau cenedlaethol.

Theatr Genedlaethol Cymru, NoFit State Circus, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Ffotogallery, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Llenyddiaeth Cymru.

Yr Amgueddfa Genedlaethol yw cartref y casgliad mwyaf o baentiadau Argraffiadwyr Ffrainc y tu allan i Lundain. Ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o gelf Fodern a Chyfoes, gwaith arian a cherameg. Bob dwy flynedd dyma gartref arddangosfa a gwobr ryngwladol Artes Mundi.

Canolfan Gelfyddydau’r Chapter, sydd ag enw rhyngwladol yn cynhyrchu perfformiadau, celf a sinema o bob cwr o’r byd.

Treftadaeth

Mae diwylliant Caerdydd yn parhau i esblygu a gallwch ddysgu mwy am ei wreiddiau yn Stori Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol, neu Archifau Morgannwg.

Neu darganfyddwch y tirweddau a’r bensaernïaeth – dros 60 o barciau, y tu mewn i adeiladau anhygoel William Burgess yng Nghastell Caerdydd a llu o adeiladau newydd ac sydd wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar – ar hyd a lled y ddinas.

#CaerdyddYw dinas creu

Mae olion y cwmnïau sy’n cynhyrchu ffilm, animeiddio, dylunio a theledu i’w gweld ym mhob man.

Mae Caerdydd wedi datblygu’n ganolbwynt sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd darlledu a chynhyrchu teledu a ffilm. Caiff nifer sylweddol o gwmnïau creadigol eu denu i Gaerdydd oherwydd presenoldeb prif ddarlledwyr fel y BBC, S4C ac ITV ac oherwydd ei rhagoriaeth academaidd.

Y BBC

Mae Pentref Drama’r BBC ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, yn gyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr, yn cynnwys 9 stiwdio ac yn cyfateb o ran hyd i dri chae pêl-droed,  sydd erbyn hyn yn gartref parhaol a phwrpasol i bedair o brif gyfresi drama craidd y BBC – Casualty, Pobl y Cwm, Doctor Who a Wizards vs Aliens. Nod y stiwdio yw bod yn ganolbwynt cynaliadwyedd creadigol, gan ddwyn talent ynghyd a chaniatáu i wybodaeth ac arbenigedd gael ei rannu.

Mae BBC Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer eu cartref rhanbarthol newydd yn Sgwâr Canolog ac a fydd yn ganolbwynt cyrchfan newydd ar gyfer y sector creadigol yng nghanol y ddinas. Mae’r ddinas hefyd yn derbyn cefnogaeth gan amrywiaeth eang o ofodau deori ar gyfer y diwydiannau creadigol, o ganolfan y diwydiannau creadigol a ddatblygwyd yng nghanol Porth Teigr, Bae Caerdydd yn ddiweddar, Gloworks, yn ogystal â gofod sefydledig yng Nghanolfan Technoleg Busnes Caerdydd.

Dinas o Wyliau

Ceir hefyd nifer o leoliadau, gwyliau a digwyddiadau sy’n dathlu eu lleoliad megis gŵyl Gwnaeth yn y Rhath a Charnifal Butetown, i enwi ond dwy mewn dinas o wyliau.

Mae Caerdydd yn parhau i feithrin ac ysbrydoli artistiaid ac mae nifer ohonynt yn ymateb i’r ddinas arbennig hon bob dwy flynedd yn ystod gŵyl gelfyddydol Caerdydd Gyfoes sy’n fis o hyd.

Gadewch i Gaerdydd eich diddanu

Gall carwyr cerddoriaeth fwynhau cyngherddau, opera a sioeau cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Stadiwm Principality, Arena Motorpoint Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Neuadd Dewi Sant.

Ceir hefyd nifer o glybiau ar draws y ddinas i gael gweld mwy o setiau o gerddoriaeth fyw.

Theatr

Mae digon o ddewis i gefnogwyr y theatr gyda Sherman Cymru, Y Theatr Newydd, Chapter, a the Gate. Lleoliad theatr mwyaf clos diweddaraf Caerdydd, The Other Room yn Porter’s Bar.  Heb sôn am berfformiadau safle-benodol mewn lleoliadau anarferol.

Dawns

Gallwch ddod o hyd i ddawns, yn ei amrywiol ffurfiau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (balet a dawns gyfoes), Sherman Cymru, Chapter, Neuadd Dewi Sant ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Wyt ti’n barod am baróc

Ai celf yw’ch peth chi? Mae gan Gaerdydd nifer o orielau a gofod a gaiff ei redeg gan artistiaid ar hyd a lled y ddinas.

Canol Dinas Caerdydd

Oriel Martin Tinney, Oriel Albany, Oriel Ten, Arcêd Caerdydd, a Fountain Fine Art yw rhai o’r orielau yn unig sy’n canolbwyntio ar waith celf o Gymru; maent oll o fewn pellter cerdded rhwydd i’w gilydd yng nghanol y ddinas.

Mae Artres Mundi wedi hen ymwreiddio bellach ar y map celf gyfoes ryngwladol ac, ochr yn ochr â’r arddangosfa pedwar mis o hyd mae’n cynnig rhaglen o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau eraill.

Y Rhath

Ychydig oddi ar Heol y Plwca, mae g39 a gaiff ei redeg gan artistiaid mewn hen ffatri ddeintyddol, yn dwyn ynghyd artistiaid cyfoes newydd a rhai sydd wedi magu enw, o bob cwr o’r DU, yn ogystal wrth gwrs â Chymru, gyda rhaglen fywiog o arddangosfeydd a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Bae Caerdydd

Mae Crefft yn y Bae yn cynnig gwaith celf gymhwysol fforddiadwy a hardd, wedi ei greu gan aelodau Urdd Gwneuthurwyr Cymru gyda rhaglen atodol o arddangosfeydd sydd yn aml yn cynnig ffocws ar ffurf celf benodol.

Mae Adeilad y Pierhead – gwerth ymweld â’r lle oherwydd y bensaernïaeth yn unig – yn cynnal arddangosfeydd a noddwyd gan Aelodau Cynulliad ac mae’r Eglwys Norwyaidd hefyd yn cynnig celfyddyd a golygfeydd dros lannau Caerdydd o’i chaffi.

Celf Gyhoeddus

Allan ar y strydoedd fe welwch enghreifftiau o gelfyddyd gyhoeddus sy’n mynd nôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r Ganolfan Ddinesig yn cynnig llwyth o gerflunwaith a cherfiadau diddorol. Mae datblygiadau newydd, fel Canolfan Dewi Sant, yn cynnwys gwaith cyfoes o’r bach iawn i’r mawr iawn. Gallwch ddilyn taith gerfluniau o gylch Bae Caerdydd, yr holl ffordd ar draws y Morglawdd i Benarth.

Cadwch lygad am gelf stryd mewn lleoliadau anarferol wrth i chi symud o gylch y ddinas, lle mae artistiaid sy’n gweithio yng Nghaerdydd wedi paentio ymyriadau bywiog i oleuo gofodau gwag.

Llwybrau Diwylliannol Caerdydd

Mae cyfres o deithiau cerdded diwylliannol wedi eu cynnal ar hyd a lled y ddinas i alluogi staff blaen tŷ / sy’n cwrdd â chwsmeriaid ddangos eu gwybodaeth o’r hyn sydd gan ein lleoliadau diwylliannol ym mhob cwr o’r ddinas i’w cynnig.

Cawsom daith cefn llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru tra bod y Cwmni Opera Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer noson agoriadol Cavalleria Rusticana a Pagliacci, dangoswyd i ni Ystafell Ysmygu’r Gaeaf a’i addurnwaith afradlon gyda’i ffris ar y lle tân yn dangos golygfeydd o fywyd yn yr Oesoedd Canol yng Nghastell Caerdydd, rydym wedi gweld Glaw yn Auvers, un o weithiau mawr olaf Van Gough ychydig ddyddiau yn unig cyn iddo wneud amdano’i hun sydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Caerdydd ac rydym wedi ymbleseru yn y cerfluniau adnabyddus mewn marmor Pentelicon o Buddug a Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas.

 “Diolch i chi am drefnu’r daith ddiwylliannol Ddydd Gwener. Cafodd Pamela a finnau amser gwych, rydym yn bendant yn anghofio weithiau yr hyn sydd ar garreg y drws.”

Ceri Crummings,  Park Inn by Radisson, UK

 “Bore da ddydd Gwener gyda fy nai sydd ag anghenion arbennig a’m nith gan ymweld yn sgil hynny ag Amgueddfa Stori Caerdydd Ddydd Sul lle gwnaethon nhw wirioneddol fwynhau eu hunain. Diolch o galon am drefnu’r teithiau hyn. Bydda i’n bendant ar y teithiau sydd yn weddill!”

Elizabeth Anderson-Reed, Derbyniad yn Neuadd y Ddinas

 

Po fwyaf y gwyddoch chi am le, y mwyaf difyr y bydd yn ymddangos ac mae ein map diwylliannol o Gaerdydd sydd wedi ei ddarlunio mor gain yn gyfle perffaith i chi gael o dan groen y cynigion diwylliannol sydd ar gael yng Nghaerdydd.

Nid yw’n rhestr gynhwysfawr o bell ffordd ond fe rydd flas o’r hyn y gallwch ei weld yn ein dinas wych o’r lleoliadau mwy adnabyddus i rai o’r perlau cudd yn y corneli a’r cilfachau.

Cliciwch ar y map i wylio ffilm hysbys fer am bob lleoliad.

Gweld fersiwn fwy o’r map

Top