Llety en-suite rhad yng Nghaerdydd

Dilynwch:

Archebu llety ar-lein yma

Os ydych yn chwilio am lety rhad o safon uchel neu ddewis arall i hostel, tai llety neu westy, yna gall Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fod yn ddelfrydol i chi. O ddiwedd mis Mehefin i ddechrau mis Medi, mae llety ar gael i deuluoedd, grwpiau a theithwyr unigol.

Mae ystafelloedd gwely en-suite sengl ar gael ar gampws Plas Gwyn a Chyncoed, y ddau wedi’u lleoli yn agos at ganol y ddinas ac mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a llefydd parcio ar y safle. Ceir dillad gwely a thywel ym mhob ystafell a gallwch ddefnyddio’r gegin a rennir sydd â theledu Freeview ac ardal eistedd. Mae Wi-Fi ar gael am ddim i bob gwestai.

Mae Campws Plas Gwyn wedi’i leoli ym mhentref cadeiriol Llandaf ger siopau, bwytai a thafarndai. Gyda’r Daith Taf ond tafliad carreg i ffwrdd, gallwch fwynhau mynd am dro yn hamddenol ar hyd glannau’r afon i gyrraedd canol dinas Caerdydd neu gallwch fynd am jog neu ar gefn beic i ymweld â Chastell Coch.

O Gampws Cyncoed, taith gerdded fer yn unig sydd i lyn hyfryd Parc y Rhath yng ngogledd y ddinas ac i ganolfan siopa Albany Road. Mae nifer o ystafelloedd sengl uwchraddol a gwely maint 3/4 sy’n addas i ddau berson. Mae Campws Cyncoed yn cynnwys pwll nofio a champfa hefyd.

Mae’r ystafelloedd yn rhoi gwerth gwych am arian – dim ond £30 (gan gynnwys TAW) y noson! Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni drwy ffonio +44(0)29 2041 6181/2 neu gallwch edrych i weld pa ystafelloedd sydd ar gael a’u harchebu ar-lein.

Archebu llety ar-lein yma

Gwefan

http://cardiffmet.ac.uk/about/conferenceservices/Pages/Summer-Accommodation%20in%20Cardiff.aspx

Ffôn

+44 (0)29 2041 6181/2

E-bost

conferenceservices@cardiffmet.ac.uk

Cyfeiriad

Plas Gwyn Campus
Llantrisant Road
Cardiff
CF5 2XJ

Cyncoed Campus
Cyncoed Road
Cardiff
CF23 6XD