Mae Arcêd y Frenhines yn cynnwys rhai o fwticau, siopau, gemyddion a chaffis mwyaf cyffrous a ffasiynol Caerdydd ar Heol-y-Frenhines, yng nghanol dinas Caerdydd.

P’un a ydych yn chwilio am anrhegion, dillad gwych ar gyfer noson mas neu emwaith prydferth neu mae gennych awydd i bori’n unig, mae Arcêd y Frenhines yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Ac ar ôl blino o’r holl siopa ‘na, gallwch ymlacio dros goffi neu damaid bach yn un o’n caffis. Mae swyddfa bost ar gael hefyd rhag ofn bod angen un arnoch. Yr oriau agor yw 9.00am i 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac 11.00am i 5.00pm ar ddydd Sul. Ar ddydd Iau, mae’r ganolfan ar agor ar gyfer siopa gyda’r hwyr tan 7.00pm.

Gwefan

http://www.queensarcade.info

Ffôn

+44(0)29 2022 3581

Cyfeiriad

Queen Street
Cardiff City Centre
CF10 2BY
Wales