Nid nepell o Gastell Caerdydd - Arcêd y Castell, Arcêd y Stryd Fawr ac Arcêd Heol y Dug

Dilynwch:

Mae Cwr y Castell yn cynnwys 3 arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd ragorol, heb i’r un fod yn bell o Gastell Caerdydd – Arcêd y Castell, Arcêd y Stryd Fawr ac Arcêd Heol y Dug.

Yn wreiddiol yn gartref i lawer o siopau arbenigol y cyfnod – siopau ar gyfer dillad, apothecarïaid, teilwyr, gemyddion a gwragedd dweud ffortiwn – mae Cwr y Castell wedi tyfu ac addasu i anghenion amgylchedd siopa a gweithio bywiog heb golli dim o’i gyfaredd oes a fu.

Gyda siopau artistiaid, bwticau priodasol, barbwyr, teilwyr clasurol, tatŵwyr, dylunwyr graffig, cynllunwyr tai, siopau feganaidd, salonau harddwch, dylunwyr ewinedd, siopau gemwaith llaw, salonau gwallt, gwerthwyr bwyd stryd Indiaidd, siopau bwydydd Americanaidd, tai coffi, ystafelloedd te, siopau hufen iâ, siopau cerddoriaeth, siopau llyfrau, trefnwyr gwyliau, stiwdios actorion a dewis anhygoel o fwytai arbenigol, mae bob amser rywbeth i’w ddarganfod yng Nghwr y Castell.

Gwefan

http://www.castlequarterarcades.co.uk/

E-bost

info@castlequarterarcades.co.uk 

Cyfeiriad

Castle Arcade,
Cardiff,
CF10 1BW

High Street & Duke Street Arcade
Cardiff,
CF10 1BB