Neidio i'r prif gynnwys

YR IVY CAERDYDD I AGOR GAEAF 2019

The Ivy Cardiff

Daw’r Ivy i Gaerdydd wrth i’r bwyty cyntaf yng Nghymru agor.

Mae’n bleser gan yr Ivy Collection gyhoeddi agoriad ei bwyty cwrw cyntaf yng Nghymru y gaeaf hwn. Wedi’i leoli yng nghanol dinas Caerdydd ar Yr Ais yng nghanolfan Dewi Sant Caerdydd, mae The Ivy Caerdydd yn croesawu mwy 260 o westeion dros ddau lawr trawiadol, gan gynnig lle bwyta soffistigedig ond cyfeillgar drwy’r dydd mewn lleoliad prydferth.

Bydd y bwyty cwrw ar agor saith diwrnod yr wythnos o fore tan hwyr, gan gynnig lleoliad delfrydol beth bynnag fo’r achlysur. Yn ogystal â’r prif fwyty a’r bar canolog ar y llawr gwaelod, mae gan The Ivy Caerdydd far ysblennydd ar y llawr cyntaf gydag addurniadau mewnol trawiadol a lliwgar, coctels blasus, a man ciniawa preifat i hyd at 24 o westeion.

Bydd bwydlenni bwyty cwrw The Ivy Caerdydd yn cynnwys popeth, yn gweini prydau Prydeinig clasurol, gan gynnwys brecwast, coffi, paned canol bore, breciniau penwythnos, cinio, te prynhawn, cinio hwyr a choctels. Bydd prydau blasus sy’n cynnwys casgliad o gynhwysion a blasau tymhorol yn cynnwys pethau fel pastai’r bugail eiconig yr Ivy, cawl nionod gwyn cynnes gyda chloron mascarpone a brioche wedi’i grasu, a lleden lefn ar yr asgwrn gyda noisette Beurre, lemwn, caprys a phersli. Ochr yn ochr â’r bwydlenni bwyd fydd cyfres gyffrous o ddiodydd wedi’u hysbrydoli’n lleol a rhestr helaeth o Champagne a gwin i’r rhai bwriadu mwynhau coctels yn hwyr y nos.

Yn ogystal â’r bwydlenni bwyd a diod eclectig, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau ystafelloedd prydferth, gyda nodweddion nodedig gan gynnwys gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan hanes Cymru a Chaerdydd, y ddaearyddiaeth a’r dreftadaeth leol, printiau beiddgar a lliwgar a meinciau lledr cyfforddus a llenni a deunyddiau.

Meddai Baton Berisha, Rheolwr Gyfarwyddwr The Ivy Collection: “Rydym wedi cyffroi yn fawr i agor ein bwyty cyntaf yng Nghymru y gaeaf hwn, gan ddod â rhywfaint o hud yr Ivy i Gaerdydd. Mae’r tîm – dan arweiniad y Rheolwr Cyffredinol Josh Butler a’r Prif Gogydd Bartek Byba – yn wych a bydd y bwyty ei hun yn cynnig cyrchfan hardd ar gyfer pob achlysur.”

Wrth siarad ar ran Partneriaeth Dewi Sant, menter ar y cyd rhwng Landsec ac Intu, dywedodd Russell Loveland, Uwch Gyfarwyddwr Portffolio Landsec: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Ivy Collection i Gaerdydd ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru. Mae’r bwyty eiconig hwn yn ychwanegiad gwych i ganolfan Dewi Sant, wrth i’w gynnig bwyta cain a’i awyrgylch unigryw ddarparu rhywbeth newydd a chyffrous i’r cyrchfan.  Rydym yn disgwyl y bydd y brecinio a’r arlwy fwyta drwy’r dydd o fri rhyngwladol yn ffefryn mawr gyda chwsmeriaid craff Caerdydd.”

Mae’r Ivy Collection yn grŵp o fwytai, bwytai cwrw a chaffis, a sefydlwyd yn Llundain ac sydd bellach yn tyfu’n rhanbarthol ledled y DU, gan gynnig ciniawa hygyrch drwy’r dydd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae pob lleoliad yn cael ei ddewis yn arbennig i werthfawrogi, adlewyrchu ac ychwanegu at yr ardal leol.

Anogir gwesteion i ddilyn @theivycardiff a chofrestru am newyddion yn theivycardiff.com i gael y diweddaraf am ddyddiad agor a manylion archebu’r bwyty cwrw.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.