Neidio i'r prif gynnwys

DIGWYDDIADAU MWYAF CAERDYDD YN 2020

Mae Croeso Caerdydd wedi dewis rhai o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous a gynhelir yng Nghaerdydd eleni, na fyddwch chi eisiau eu colli yn ein barn. Dydy hwn ddim yn ganllaw cynhwysfawr o bell ffordd, felly cofiwch edrych ar ein tudalen digwyddiadau yn rheolaidd i sicrhau eich bod chi bob amser yn gwybod beth sy’n digwydd!

 

IONAWR 2020

Cefnogwch eich tîm chwaraeon lleol y mis Ionawr hwn.

Cychwynnwch 2020 trwy fynd i un o lawer o gemau chwaraeon lleol sydd yma yng Nghaerdydd.

Gemau Gleision Caerdydd

Parc yr Arfau, Caerdydd
3 a 17 Ionawr

Os mai rygbi sydd wrth eich dant chi, bydd Gleision Caerdydd yn croesawu’r Sgarlets ar y 3ydd a Patro Calvisano ar 17 Ionawr ym Mharc yr Arfau Caerdydd; prynwch eich tocynnau yma.

 

 

Gemau Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

Stadiwm Dinas Caerdydd
12 a 25 Ionawr

Os yw’n well gennych bêl-droed, bydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn croesawu Dinas Abertawe ar y 12fed ac West Bromwich Albion ar 25 Ionawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Prynwch eich tocynnau yma.

 

 

The King And I

Canolfan y Mileniwm
8 – 18 Ionawr

The King and I yw’r sioe gerdd fwyaf o oes aur y sioeau cerdd – y mae’r cyhoedd a beirniaid fel ei gilydd yn dwlu arni – ac mae ganddi un o’r sgorau gorau a ysgrifennwyd erioed. Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys cwmni o dros 50 o berfformwyr o safon fyd-eang a cherddorfa lawn.

 

 

Slipknot

Arena Motorpoint Caerdydd
22 Ionawr 

I’r rhai ohonoch sy’n hoffi eich cerddoriaeth ar ochr drymach y sbectrwm, pa ffordd well i roi hwb i 2020 yng Nghaerdydd na thrwy weld Slipknot yn Arena Motorpoint, Caerdydd?

 

CHWEFROR 2020

Miri Rygbi’r Chwe Gwlad

Stadiwm Principality
1-22 Chwefror

Mae hi bron yr adeg honno o’r flwyddyn eto – bydd y Chwe Gwlad yn cychwyn yn Stadiwm y Principality gyda DWY gêm gartref gan Gymru y mis hwn!

Byddwch yn barod i ddilyn miri’r rygbi a chefnogi’r bois a fydd yn croesawu’r Eidal ar y 1af a Ffrainc ar yr 22 Chwefror. Cadwch lygad ar ein gwefan i gael cyngor teithio a chynigion arbennig ar thema’r chwe gwlad.

 

The 1975

Arena Motorpoint Caerdydd
23 Chwefror

Albwm ddiweddaraf y band, ‘A Brief Inquiry Into Online Relationships’ oedd eu trydydd record rhif 1 yn olynol yn y DU gan gadarnhau eu statws fel un o’r bandiau mwyaf a mwyaf cyffrous yn y byd.

 

 

MAWRTH 2020

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi ym Mhrifddinas Cymru

Caerdydd
01 Mawrth

Ar 1 Mawrth, bydd Caerdydd yn croesawu nifer o ddathliadau y cewch gymryd rhan ynddynt i ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth.

Beth am fynd draw i Neuadd Dewi Sant, lleoliad celfyddydau llwyfan mwyaf Cymru i glywed Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio? Bydd y grŵp gwerin, Calan yn ymuno â BBC NOW i nodi Dydd Gŵyl Dewi gyda pherfformiad cyntaf y DU o Cân Cnawd y Pridd – cyfres o bum cyfansoddiad wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau o ganeuon ac alawon traddodiadol Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

 

Lewis Capaldi

Arena Motorpoint Caerdydd
11 Mawrth

Un o’r artistiaid cyntaf mewn hanes i gyhoeddi cyfnod mewn arenâu cyn rhyddhau albwm gyntaf!  Mae Lewis wedi llwyddo i gael traciau ar y Prif Restr yn olynol ar gyfer Radio 1 ac wedi cael ei chwarae dros 600,000,000 o weithiau ar draws gwasanaethau ffrydio.  Mae Lewis wedi gwerthu allan heb fod yn llai na phump o brif deithiau cefn-wrth-gefn – sef mae wedi gwerthu mwy na 150,000 o docynnau i brif sioe.

 

 

The Who

Arena Motorpoint Caerdydd
30 Mawrth

Yn dilyn eu dychweliad syfrdanol i Stadiwm Wembley ym mis Gorffennaf, mae’r band roc chwedlonol yn ôl i gyhoeddi taith arena lawn yn y DU ar gyfer 2020, ynghyd ag albwm stiwdio newydd sbon o’r enw ‘WHO’ – eu cyntaf mewn tair blynedd ar ddeg.

 

 

Rhod Gilbert: The Book of John

Canolfan y Mileniwm
21-22 Mawrth

Mae wedi bod yn sbel, ond mae’r digrifwr Cymreig sydd wedi ennill sawl gwobr yn ôl, gyda sioe fyw newydd sbon. Mewn seibiant o saith mlynedd o gomedi stand-yp, mae llawer wedi digwydd i Rhod. “Almost all of it s**t.”

 

 

Jimmy Carr:Terribly Funny

Canolfan y Mileniwm
04 Mawrth

Mae sioe newydd sbon gan Jimmy yn cynnwys jôcs am bob math o bethau ofnadwy. Pethau ofnadwy a allai fod wedi effeithio arnoch chi neu bobl yr ydych yn eu hadnabod a’u caru. Ond peidiwch â phoeni – dim ond jôcs ydyn nhw – nid y pethau ofnadwy ydynt.

 

 

EBRILL 2020

Sioe Flodau’r RHS

Parc Bute
17 – 19 Ebrill

Ym Mharc Bute ar 17 – 19 Ebrill, bydd lliwiau ac arogleuon y gwanwyn ar daen, digon i’ch ysbrydoli ar gyfer gweddill eich blwyddyn arddio! Ewch draw i’r Pentref Planhigion a’r Babell Flodau i gyfarfod a chael cyngor gan yr arbenigwyr. Dylech ddisgwyl gweld arddangosiadau blodau trawiadol, siopa am bethau hyfryd a gwneud gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan. Cadwch eich llygaid ar agor am enwogion!

 

 

Gwyl Llên Plant Caerdydd

Neuadd y Ddinas Caerdydd
20-26 Ebrill

Yn galw ar bob llyfrbryf! Mae Gŵyl llên plant Caerdydd yn dychwelyd, y tro hwn mae’r cyfan o dan un to gyda rhai pethau annisgwyl ar y gweill. Cadwch lygad ar y wefan swyddogol am fwy o wybodaeth.

 

 

MAI 2020

Gemau Nitro’r Byd Cymru 2020

Stadiwm Principality, Caerdydd
23-24 Mai

Mae gennym y digwyddiad perffaith ar gyfer penwythnos gŵyl y banc – bydd mwy na 100 o’r athletwyr gorau yn nisgyblaethau mwyaf eithafol chwaraeon yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar 23 a 24 Mai pan fydd Gemau Nitro’r Byd yn digwydd y tu allan i’r UDA am y tro cyntaf! Ewch i Wefan Gemau Nitro’r Byd i gael tocynnau a dilynwch eu cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol am newyddion.

 

 

RuPaul’s Drag Race: Werq the World Tour 2020

Canolfan y Mileniwm
10 Mai

Mae arbrawf sydd wedi mynd o’i le wedi anfon Michelle Visage i syrthio trwy amser heb unrhyw ffordd o ddychwelyd adref. Ymunwch ag Asia O’Hara, Detox, Kameron Michaels, Plastique Tiara, Shea Couleé, Vanessa Vanjie Mateo, Yvie Oddly ac enillydd RuPaul’s Drag Race UK a gaiff ei gyhoeddi’n fuan, wrth iddynt deithio trwy gyfnodau amser eiconig gan obeithio y byddant yn dod o hyd i’r ffordd yn ôl i 2020.

 

 

Nick Cave & The Bad Seeds

Arena Motorpoint Caerdydd
03 Mai

Mae Nick Cave and the Bad Seeds wedi dod yn un o fandiau mwyaf enwog cyfnod ôl-pync yr  ’80au. Mae eu cerddoriaeth yn cyfuno naratifau aml-haenog geiriau Cave gyda synau emosiynol bwerus sy’n creu drama ac ymdeimlad o ddrwgargoel. Gydag albwm newydd sbon Ghosteen allan a 16 arall yn ei gatalog, maen nhw’n ôl gyda thaith lawn yn y DU ym mis Mai 2020.

 

 

MEHEFIN 2020

Gêm Derfynol PRO14 Guinness

Stadiwm Dinas Caerdydd
20 Mehefin

Cewch yr awyrgylch gorau bosibl yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan ddaw gêm derfynol PRO14 Guinness 2020 i’r ddinas yr haf nesaf. Mae’r gêm wedi magu enw fel un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous ar y calendr rygbi clwb. Yn rhyfeddol, dyma fydd y tro cyntaf y bydd Caerdydd yn cynnal y digwyddiad yng nghyfnod y ‘Gemau Terfynol mewn Cyrchfannau’ – peidiwch â cholli’r digwyddiad mawr hwn! Cofiwch brynu eich tocynnau yma.

 

 

Rammstein

Stadiwm Principality
14 Mehefin

Bydd y band yn tarannu i mewn i Stadiwm Principality, Caerdydd, ddydd Sul 14 Mehefin 2020 – digwyddiad a fydd unwaith eto yn torri recordiau, gan olynu Stadiwm MK ac Arena Ricoh (Coventry) a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel y cyngerdd pennawd mwyaf erioed yn y DU.

 

 

Tafwyl

Parc Bute
19 – 21 Mehefin

Tafwyl yw gŵyl flynyddol celfyddydau a diwylliant Cymraeg y brifddinas ac mae’n barti Cymraeg i bawb, a ddaw ag enwau mwyaf celfyddydau, diwylliant a chwaraeon Cymraeg i Gaerdydd yn ogystal ag ardal fwyd stryd ardderchog. Eleni, bydd yn digwydd ym Mharc Bute o 19 tan 21 Mehefin. Cewch ragor o wybodaeth yma.

 

 

MEHEFIN 2020

The Lion King

Canolfan Mileniwm Cymru
9 Gorffennaf— 29 Awst

Wedi’i osod yn erbyn gogoniant Gwastatiroedd y Serengeti a chyda rhythmau atgofus Affrica, mae The Lion King Disney yn ffenomen theatraidd fyd-eang. Mae 100 miliwn o bobl ledled y byd wedi mwynhau’r sioe ac mae’n dal i ddenu torfeydd gwerthu allan yn theatr y Lyceum yn Llundain yn ei 20fed flwyddyn.

 

 

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd

Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd
10 – 12 Gorffennaf

Ar benwythnos 10 – 12 Gorffennaf, caiff Roald Dahl Plass ym Mae Caerdydd ei drawsnewid eto yn ddathliad o gynnyrch cartref, bwyd stryd hyfryd a fydd yn tynnu dŵr i ddannedd y rhai sy’n dwlu ar fwyd. Eisteddwch, ymlaciwch a blaswch gynnyrch gan rai o’r enwau mwyaf ymhlith cynhyrchwyr bwyd stryd y DU wrth wrando ar gerddoriaeth fyw ar y stand bandiau. Cadwch lygad ar y Canllawiau Haf sydd ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.

 

 

Grand Prix Speedway Prydain Adrian Flux yr FIM 2020

Stadiwm Principality
18 Gorffennaf

Bydd digwyddiad mwyaf calendr speedway’r byd yn digwydd ar 18 Gorffennaf yn Stadiwm y Principality. Bydd y digwyddiad gwefreiddiol, sy’n berffaith ar gyfer y teulu cyfan, yn dod â reidwyr speedway gorau’r byd i rasio yn erbyn ei gilydd ar gyflymderau a all fod dros 120 cilometr yr awr ar feics 500cc gydag un gêr sefydlog a dim brêc. Am ragor o wybodaeth am #SpeedwayGB ac i brynu tocynnau, ewch i’r wefan.

 

 

AWST 2020

Clwb Criced Morgannwg

Gerddi Sophia
1-31 Awst

Gwnewch yn fawr o’r tywydd braf Cymreig (gobeithio) ac ewch draw i Erddi Sophia, cartref yr unig griced o’r safon orau yng Nghymru i fwynhau pedair gêm griced gyffrous!

Gallwch ddal Cricket M100 Welsh Fire v Northern Superchargers ar y cyntaf a Cricket IT20: Lloegr v Pacistan ar 31 Awst. A bydd tîm cartref Sophia Gardens, Morgannwg yn chwarae yn erbyn Notts Outlaws ar yr 2il a Warwickshire ar 6ed Awst. Bydd tocynnau ar gael yn fuan i’w prynu yma. #GoGlam!

 

 

Penwythnos Mawr Pride Cymru

Lawntiau Neuadd y Ddinas
28 – 30 Awst

Dathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth yw Penwythnos Mawr Pride Cymru. Dylech chi ddisgwyl gorymdaith filltir o hyd, adloniant ar 4 llwyfan gan gynnwys cerddoriaeth fyw, troellwyr a cabaret, a llawer mwy!

 

 

Michael Buble

Castell Caerdydd
5 Awst

Bydd Michael Bublé yn perfformio yn un o leoliadau mwyaf eiconig Prifddinas Cymru, sef Castell Caerdydd. Bydd y mega-seren Bublé, a enillodd y wobr Grammy, yn chwarae yn yr hyn a ystyrir yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Prydain, gyda’r llwyfan yn cael ei osod ar lawntiau Castell Caerdydd, a bydd yn dilyn trywydd The Killers, Paul Weller, Manic Street Preachers, a Noel Gallagher.

 

Lionel Richie

Castell Caerdydd
2 Awst

Mae’r uwch-seren ryngwladol Lionel Richie wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Gaerdydd i chwarae Castell hanesyddol ac eiconig Caerdydd ddydd Sul 2 Awst. Mae gan Lionel Richie ddiscograffi o albymau a senglau sydd heb eu hail.

 

 

MEDI 2020

Stormzy: H.I.T.H – The World Tour

Arena Motorpoint Caerdydd
21 Medi

Yn un o’r teithiau mwyaf a ragwelwyd o 2020, mae Stormzy wedi cyhoeddi ei ‘H.I.T.H. World Tour’.

 

 

HYDREF 2020

Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd

Canol Dinas Caerdydd
04 Hydref

Os ydych chi’n hyfforddi ers misoedd yn eich esgidiau rhedeg newydd sbon neu’n bwriadu annog o’r ochrau, mae hwn yn un o ddigwyddiadau mwyaf ysbrydoledig Caerdydd, waeth sut rydych chi’n cymryd rhan!

Mae hon bellach yn un o rasys hanner marathon mwyaf Ewrop a’r  digwyddiad cyfranogiad eang a chodi arian at aml-elusen mwyaf yng Nghymru. Mae’r llwybr yn cynnwys rhai o dirnodau eiconig Caerdydd ac mae’n wastad ar y cyfan – sy’n ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a rhedwyr elît. Cynhelir y ras ddydd Sul 4 Hydref.

 

 

Sŵn

Caerdydd
16 – 18 Hydref

Bydd gŵyl aml-leoliad fwyaf Caerdydd yn dychwelyd yn 2020 gyda lein-yp anhygoel o’r talent gorau o Gaerdydd, Cymru, y DU a thu hwnt. Mae’r ŵyl yn enwog am ei lein-yp amrywiol gyda pherfformwyr o bob genre ac am sicrhau talent sy’n mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus iawn.  I gael rhagor o wybodaeth ewch ar y wefan.

 

 

TACHWEDD 2020

Marchnad Nadolig Caerdydd

Canol Dinas Caerdydd
I’w gadarnhau

Ydyn… rydym eisoes yn meddwl am siopa Nadolig y flwyddyn nesaf (sori!) Bydd ymweliad â Marchnad Nadolig Caerdydd yn rhoi profiad i chi sydd cystal os nad gwell nag unrhyw ddinas Ewropeaidd arall. Gosodir rhesi o stondinau pren wedi’u haddurno’n brydferth yng nghanol y ddinas ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

 

 

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Lawntiau Neuadd y Ddinas
I’w gadarnhau

Bydd Lawntiau Neuadd y Ddinas yn disgleirio gyda hud y Nadolig unwaith eto yn 2020. Bydd mis Tachwedd tan Ionawr yn siŵr o’ch croesawu yn y safle mwyaf a’r gorau eto fyth! Gyda llawr sglefrio dan do, gweithgareddau tymhorol, barrau a stondinau bwyd, a’r ganolfan ddinesig eiconig a goleuadau ysblennydd yn gefndir i’r cwbl; dyma ddiwrnod allan perffaith i’r teulu.

 

 

RHAGFYR 2020

Theatr Newydd

Aladdin

Y Theatr Newydd
5 Rhagfyr tan ddydd Sul 10 Ionawr

Yn llawn o’r holl gynhwysion pantomeim traddodiadol y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl, mae Aladdin yn cynnwys comedi i’ch peri i chwerthin yn uchel, golygfeydd godidog, gwisgoedd hardd a digon o ‘Bŵŵ!’ a ‘Sss’. Dilynwch Aladdin, ei frawd Wishee Washee, ac wrth gwrs ei fam y Widow Twankey, ar antur ysblennydd.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.