Neidio i'r prif gynnwys

DATHLU PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD YN THE IVY CARDIFF

I ddathlu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae The Ivy Cardiff wedi lansio cyfres arbennig o goctels am y cyfnod cyfyngedig, wedi eu hysbrydoli gan bob un o’r chwe gwlad sy’n cymryd rhan. Caiff gwesteion fwynhau’r coctels hyfryd yn The Ivy trawiadol yng Nghaerdydd.

Cennin Pedr Cymreig, cymysgedd blasus o jin Grawnffrwyth Pinc, sudd pîn-afal, surop siwgr, a chwrw Tropicana Tiny Rebel Club ydy’r coctel perffaith i godi gwydr i Alun Wyn Jones a’r tîm. Ymhlith y rhai eraill, mae coctels Iris Ffrengig, cyfuniad deniadol o jin Beefeater, Lillet Blanc, sudd lemon, surop siwgr a siampên Ivy.

Caiff gwesteion ymlacio yn The Ivy soffistigedig yng Nghaerdydd, a mwynhau’r coctels unigryw sydd ar gael drwy gydol y twrnamaint o ddydd Llun, 27 Ionawr tan ddydd Sul, 15 Mawrth.

Gyda dau lawr cain, bar mawr ar y ddau ac addurniadau godidog, mae The Ivy Cardiff yn lle perffaith i ddathlu un o ddathliadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yng Nghymru.

DIWEDD

English rose – 8.75

Jin Beefeater, Pimm’s, surop ysgawen, a lemonêd Fever Tree gyda brygyn o fintys i addurno.

Irish Clover – 9.75

Jameson, Lillet Rouge, Cointreau, sudd leim a joch o chwerw casgen wisgi.

French Iris – 11.75

Jin Beefeater, Lillet Blanc, sudd lemon, surop siwgr, a siampên Ivy.

Scottish Thistle – 9.75

Jin Plymouth, Chivas 12 blynedd, sudd sinsir, sudd lemon a mêl hylifog

Welsh Daffodil – 9.50

Jin Grawnffrwyth Pinc Malfy Rosa, sudd Pîn-afal, surop siwgr, a chwrw Tropicana Tiny Rebel Club

Italian Lily – 10.95

Jin Aranciata Malfy, Barolo Chinato, Campari a joch o chwerw casgen wisgi.

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at Grayling – 0117 910 6360 / ivycardiff@grayling.com
Cyfeiriad: 69/70 Canolfan Dewi Sant, Caerdydd CF10 1GA
Gwefan: https://theivycardiff.com/

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer E-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, cynigion arbennig, y cynnwys diweddaraf a mwy gan CroesoCaerdydd.com