Neidio i'r prif gynnwys

Mae rhywbeth RHU-FEDDOL wedi cyrraedd Bae Caerdydd

Dyma Cei-Rex – bydd T-Rex animatronig mwyaf y DU yn cael ei arddangos yng Nghei’r Fôr-forwyn tan ddydd Sul 23 Chwefror 2020.

Mae Cei-Rex yn 18 metr o hyd a 5 metr o daldra ac mae’n cynnwys pen, cynffon, llygaid a breichiau sy’n symud yn ogystal â rhuad arswydus.

Gyda’r holl fwytai, caffis a barrau yng Nghei’r Fôr-Forwyn i’w mwynhau yn ogystal â Techniquest a Chanolfan Mileniwm Cymru gerllaw – mae’r cyfan yn rhoi diwrnod allan sydd fel deino-meit

Ac yn ogystal â Chei-Rex mae:

 

REID T-REX
Mae’r Reid T-Rex yn addas i blant hyd at tua 14 oed (sy’n pwyso dim mwy na 70kg). £3 y tro.   Prynwch eich tocyn o’r Siop Dino.
Ar agor dydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Chwefror ac yna dydd Sadwrn 15 – dydd Sul 23 Chwefror, 10am – 5pm.

 

Y SIOP DINO
Codwch eich nwyddau dino o’n siop sbonc Dino yn Tacoma Square, ger Cei-Rex.  O fagnetau 3D, llyfrau nodiadau a beiros i hetiau ‘beanie’ a phethau da eraill, yn ogystal â photeli dŵr, wyau deinosor a phecynnau fforio.
Ar agor dydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Chwefror ac yna dydd Sadwrn 15 – dydd Sul 23 Chwefror, 10am – 5pm.

 

HWYL A GEMAU
Hefyd, mae pethau hwyliog i’w gwneud AM DDIM:

CYSTADLEUAETH HUNLUN – Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw snapio llun ohonoch chi a/neu eich anwyliaid gyda Cei-Rex a’i rannu ar un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol @MermaidQuay ac #SelfieRex i gael cyfle i ennill £30 i’w wario yn Cosy Club yng Nghei’r Fôr-forwyn.  8-23 Chwefror
HELFA DRYSOR – Codwch eich map helfa drysor o’r Siop Dino a hela’r dinos sy’n crwydro o gwmpas Cei’r Fôr-forwyn i gael cyfle i ennill hufen iâ AM DDIM am flwyddyn gan Cadwalader’s yng Nghei’r Fôr-forwyn.  10am – 5pm, 15 – 23 Chwefror.
CYSTADLEUAETH LLIWIO- i gymryd rhan, argraffwch y ffurflen cystadlu o wefan Cei’r fôr-forwyn, lliwiwch hi ac ychwanegwch eich manylion, a dewch â hi i Gei’r Fôr-forwyn a’i rhoi yn y blwch post arbennig yn siop Dino (10am – 5pm, 15 – 23 Chwefror) i gael cyfle i ennill Parti Gwneud Pitsas i Blant yn Pizza Express Cei’r Fôr-forwyn.
Manylion a Thelerau ac Amodau ar y wefan www.mermaidquay.co.uk

 

FFEITHIAU CYFLYM

 

Enw: Tyrannosaurus rex

Yr ystyr yw: Brenin y Madfallod Gormesgar

 

CYFNOD: Diwedd y Cyfnod Cretasaidd

BLE: Gogledd America Colorado, Montana, Mecsico Newydd, Wyoming, Alberta

 

Fel y cigysydd mawr olaf o’r cyfnod Cretasaidd, roedd Tyrannosaurus Rex yn lladdwr effeithlon yn stelcian ar dirwedd Gogledd America.

 

Gyda strwythur trwyn wedi’i gryfhau’n arbennig, gallai roi brathiadau sy’n cywasgu ac yn torri esgyrn yn deilchion,  i ysglyfaeth ac ymladdwyr, gan gynnwys eraill o’i rywogaeth ei hun. Gallai cryfder genau isaf Tyrannosaurus Rex ddarparu 10,000 newton o rym brathu – y pŵer cyfatebol sydd ei angen i godi semi-trelar.

 

Er ei fod yn edrych yn bitw, mae esgyrn breichiau’r T-Rex yn dangos esgyrn cortigol trwchus iawn, sy’n dangos eu bod wedi’u datblygu i wrthsefyll llwythi trwm.