Neidio i'r prif gynnwys

BYDD CANOLFAN DARGANFOD GWYDDONIAETH FWYAF CYMRU YN CYNNAL DIGWYDDIAD LANSIO GŴYL WYDDONIAETH CAERDYDD 2020

Bydd y digwyddiad yn agor yn swyddogol ddigwyddiad cyntaf amserlen wythnos o hyd.

Bydd Techniquest yn cynnal digwyddiad agoriadol Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd eleni – dathliad wythnos o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae Techniquest yn lleoliad eiconig yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd; mae wedi bod yn ganolog i ymgysylltu â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yng Nghymru ac mae wedi croesawu miliynau o gwsmeriaid ers ei hagor.

Ddydd Iau 13 Chwefror, gall ymwelwyr ryngweithio gyda 2-lawr o arddangosion sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, gwylio sioeau unigryw yma ac acw a chael rhagflas o beth arall i’w ddisgwyl gan yr ŵyl sy’n wythnos o hyd.

Dywedodd Lloyd Williams, Rheolwr Cynnwys Techniquest:
“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i fudiadau tebyg yn y ddinas i gydweithio fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd. Ein nod yn Techniquest yw rhoi Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg o fewn cyrraedd i bawb a gwreiddio gwyddoniaeth yn niwylliant Cymru, felly mae’n bwysig gennym fod yn rhan o ddigwyddiad o’r fath. Bydd ein lleoliad ar agor rhwng 5pm a 7pm ar gyfer noson o wyddoniaeth ryngweithiol, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu wynebau newydd a chyfarwydd drwy ein drysau ar y 13eg.”

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn cynnwys 45 o ddigwyddiadau a gweithdai mewn lleoliadau allweddol ledled Caerdydd, sydd i gyd yn rhedeg fel rhan o’r ŵyl wythnos o hyd, rhwng 13-18 Chwefror.

Bydd Techniquest yn datgelu ei wedd newydd sbon yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan y bydd project ‘Prifddinas Wyddoniaeth’ wedi’i gwblhau cyn bo hir. Gall ymwelwyr ddisgwyl dros 50 o arddangosfeydd newydd a mwy o ofod llawr, sy’n golygu hyd yn oed mwy o le i archwilio, darganfod a rhyngweithio â chynnwys sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae’r Brifddinas Wyddoniaeth yn addo bod yn hygyrch i bawb a dod â chynnig cwbl newydd i bobl Cymru.

Mae tocynnau ar gyfer lansiad yr Ŵyl Wyddoniaeth ar werth nawr drwy weld tocynnau: https://www.seetickets.com/event/cardiff-science-festival-late-night-launch/techniquest/1485874
[DIWEDD]

Nodiadau’r Golygydd:
Gweler mai ar gyfer y sesiwn 5pm-7pm yn unig mae tocynnau ar werth.
Bydd Techniquest ar agor gydag oriau hwy ddydd Iau 13 Chwefror – 9.30am tan 7pm. Bydd cwsmeriaid sy’n cyrraedd yn gynharach yn y dydd yn gorfod talu’r pris mynediad cyffredinol, ond caniateir iddynt aros nes daw’r digwyddiad i ben am 7pm. Gall cwsmeriaid sy’n cyrraedd ar ôl 3pm gael pris mynediad cyffredinol gostyngedig o hyd yn ôl yr arfer, ac maent hefyd yn cael aros nes bod Techniquest yn cau am 7pm.

I gael rhagor o wybodaeth am y project Prifddinas Gwyddoniaeth: https://www.techniquest.org/about-us/the-science-capital/
I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd: http://www.cardiffsciencefestival.co.uk/

Am bob ymholiad cyffredinol Techniquest, cysylltwch â Jennie French yn jennie@techniquest.org
Ymholiadau Cysylltiadau Cyhoeddus – bryony.ranson@thinkorchard.com