Neidio i'r prif gynnwys

CAERDYDD: DINAS YR ARCEDAU

Caerdydd – dinas cestyll a diwylliant, lle mae saith arcêd o oes Fictoria ac Edward yn swatio ymhlith rhai o enwau mawr y stryd fawr. Yn gartref i dros 100 o gaffis, bariau a siopau annibynnol yng nghanol y ddinas, mae’r arcêdau’n brofiad siopa gwirioneddol unigryw.

Ym muriau arcedau Caerdydd ceir drysfa o siopau annibynnol. Gyda thros 100 o fwytai a manwerthwyr lleol, mae’r arcedau’n darparu profiad siopa sydd heb ei debyg. Mae 150 o flynyddoedd o hanes manwerthu Cymru yn cael eu dwyn ynghyd o dan doeau sy’n enghraifft o bensaernïaeth Fictoraidd ac Edwardaidd glasurol. Mae’r busnesau annibynnol hyn, sydd bellach wedi cael eu moderneiddio i adlewyrchu bywiogrwydd bywyd yn y ddinas, yn ganolog i Gaerdydd, Dinas yr Arcedau.

Ewch i’r wefan swyddogol lle byddwch yn gweld newyddion, blogiau, map rhyngweithiol Dinas yr Arcedau, a’r 10 busnes gorau yn ôl pleidlais gan y bobl sy’n gwybod orau, sef trigolion Caerdydd.

 

DIWRNOD DINAS YR ARCEDAU

Ar 16 Tachwedd 2019, dathlodd Caerdydd Ddiwrnod Dinas yr Arcedau am y tro cyntaf.

Gwnaeth mwy na 80 o fusnesau annibynnol roi cynigion arbennig ar waith neu gynnal digwyddiadau.

Hefyd roedd cerddoriaeth fyw a pherfformiadau ar draws y saith arcêd hanesyddol drwy gydol y dydd a chyda’r hwyr.

Disgwylir i Ddiwrnod Dinas yr Arcedau fod hyd yn oed yn fwy ac yn well na’r un diwethaf!. I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Ddinas yr Arcedau ar gyfryngau cymdeithasol a chadwch lygad ar y wefan swyddogol.