Neidio i'r prif gynnwys

MYND AR DAITH O GWMPAS STADIWM PRINCIPALITY

Stadiwm Principality yw cartref Tîm Rygbi Cymru ac un o stadiymau mwyaf eiconig y byd ond does dim rhaid i chi fod yn Gymro neu’n ffan rygbi i fwynhau’r profiad hwn.

Cyn i’r daith ddechrau, mae ymwelwyr yn ymgynnull i fwynhau ffilm 4 munud fer sy’n rhoi’r cefndir. Mae’r ffilm yn cyfleu gwychder y lleoliad digwyddiadau amlbwrpas gyda ffilm ddeinamig a cherddoriaeth gyffrous sy’n gwefreiddio’r gwylwyr.

Ers agor ym 1999, mae’r Stadiwm wedi dod yn lleoliad o safon ryngwladol gan gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr ac artistiaid cerddoriaeth o fri. O Madonna ac U2 i gemau Cwpan Rygbi’r Byd, digwyddiadau Olympaidd ac, yn ddiweddar, rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn haf 2017.

Ar ôl y ffilm, wrth i’ch croen gŵydd ddechrau cilio, bydd tywysydd y daith yn ein hatgoffa na ddylid ychwanegu ‘y’ cyn Stadiwm Principality gan nad oes neb yn dweud ‘y Twickenham’, nac oes? A bod yn deg, mae’n bwynt da. Mae Stadiwm y Mileniwm gynt wedi cael ei adnabod wrth ei enw newydd ers mis Ionawr 2016 wedi i’r gymdeithas adeiladu ddod yn noddwr iddo ar ôl cytuno i gytundeb enwi 10 mlynedd.

Nid yw wedi ei enwi ar ôl ‘principality’, sef tywysogaeth, gwlad dan arweiniad tywysog. Mae’n werth tynnu sylw at hyn gan y gofynnir y cwestiwn hwn yn aml gan ffrindiau sy’n ymweld.

Pryd bynnag y defnyddir y gair tywysogaeth, mae’n cynhyrfu’r dyfroedd. Yn wir, yn 2008 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad am y mater penodol hwn: “Nid tywysogaeth yw Cymru. Er ein bod yn cael ein huno â Lloegr ar dir, ac rydym yn rhan o Brydain Fawr, mae Cymru yn wlad yn ei rhinwedd ei hun.”

Rwy’n mynd ar grwydr nawr, ond beth bynnag rydych yn ei galw, mae’r stadiwm hon yn anhygoel ac yn cyfleu angerdd cryf y byddwch yn ei deimlo eich hun wrth i’r daith fynd yn ei blaen.

Syr Tasker Watkins

Cyfanswm cost y stadiwm oedd £121 miliwn, a chafodd ei adeiladu ar amser ac o fewn y gyllideb. Yn allweddol i gyflawni hyn roedd un o Gymry mwyaf nodedig yr 20fed ganrif, Syr Tasker Watkins.

Mae cerflun Syr Tasker yn eich cyfarch wrth i chi gychwyn ar y daith o brif fynedfa Heol y Porth. Mae’r cerflun 9 troedfedd yn un trawiadol y tu allan yn croesawu cefnogwyr Cymru a ffrindiau sy’n ymweld â’r un parch, thema sydd wrth wraidd rygbi a phrifddinas Cymru.

Syr Tasker oedd llywydd Undeb Rygbi Cymru am 11 o flynyddoedd tan 2004. Ac yntau’n ddyn gwirioneddol nodedig, fe’i hanrhydeddwyd hefyd trwy roi Croes Fictoria iddo am weithredoedd o arwriaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Bydd y rhai a gafodd y pleser o gwrdd â’r dyn mawr yn adnabod ei ffordd o sefyll ar ogwydd ac os edrychwch yn ofalus, gallwch weld ei dei rygbi Glamorgan Wanderers.

Tu Ôl i’r Llenni

Mae’r daith yn mynd i mewn i’r stadiwm trwy fynedfa’r chwaraewyr ac mae’r cyffro o fod y ‘tu ôl i’r llenni’ yn cynyddu.

Mae ein tywysydd profiadol yn tynnu sylw at enwau holl chwaraewyr rhyngwladol Cymru o’r gorffennol hyd heddiw, gan rannu straeon a fydd yn troi’n rhan o chwedloniaeth rygbi.

Er enghraifft y stori y tu ôl i dîm rhyngwladol cyntaf Cymru i wynebu Lloegr ym 1881. Nid oedd llawer o’r tîm wedi chwarae gyda’i gilydd cyn hynny ac roedd prinder dynion; cafodd dau ddyn eu tynnu o’r dorf – yn wahanol iawn i’r gêm broffesiynol heddiw!

Mae tro annisgwyl yn hanes y ddau a gafodd eu tynnu’n ddisymwth o’r dorf ond y ffordd orau o glywed am hyn yw mynd ar y daith – fyddwn ni ddim yn datgelu dim yma.

Mae ffeithiau a hanesion difyr yn parhau ar hyd y daith ac yn cael eu cyflwyno gan gymysgedd perffaith o wybodaeth a hiwmor.

Ystafell Gynadledda’r Wasg yw’r uchafbwynt nesaf lle mae byd rygbi a byd newyddiaduriaeth yn dod ynghyd, ac enw’r ystafell hon yw Ystafell Gynadleddau’r Wasg Ray Gravell ar ôl y cyn-chwaraewr rhyngwladol a’r cyn-ddarlledwr unigryw. Peidiwch â bod yn swil, ewch i eistedd yn sedd Gatland, cymryd hunluniau, gofyn cwestiynau. Heb fwriadu swnio fel sgwrs â’r tîm cyn gêm – cewch allan o’r profiad gymaint ag y byddwch yn barod ei roi iddo!  

Yna, byddwch yn mynd ymlaen i ystafell newid y garfan genedlaethol – Ffau’r Ddraig. Yn y fan hon y dewch i wir ddeall mai profiad llawn yw hwn, nid taith syml yn unig. Ar ôl dysgu pam i’r tîm cartref symud i ystafell newid y De, mae recordiad o lais Cymreig byddarol yn rhoi sgwrs i’r tîm wedi’i golygu ynghyd o sgyrsiau go iawn cyn gemau. Os na chewch chi groen gŵydd neu os na fydd deigryn yn cronni yn eich llygaid rhaid i chi ofyn os ydych hyd yn oed yn fyw?

Yna, cewch gyfle i redeg allan o dwnnel y chwaraewyr i gyfeiliant effeithiau effaith sain torf o 74,000 yn rhuo. Unwaith eto, peidiwch â bod yn swil –  rhedwch allan ar y tyweirch sanctaidd fel pe baech ar fin mynd i’r afael â’ch gelyn pennaf neu’n seren roc sydd ar fin perfformio i filoedd o gefnogwyr edmygus. Cymerwch eich amser, trysorwch yr eiliad, a chymerwch hunluniau ar ôl i chi gael profiad llawn o’r cyfle unwaith yn unig hwn (oni bai eich bod yn archebu taith arall, wrth gwrs!).

Pwy fyddai’n credu y gallai to symudol fod mor hynod o ddifyr? Pa mor hir mae’n ei gymryd i’w gau? Faint mae’n gostio i’w gau? Pwy sy’n penderfynu a ddylai fod ar agor neu ar gau?

Mae’r tywysydd yn ateb pob un o’r cwestiynau hyn wrth i ni edrych ar y llain o Flwch y Llywydd, sef ardal sydd wedi ei chadw fel arfer ar gyfer aelodau o’r teulu brenhinol. Mae rhywbeth hynod o ryfedd am eistedd yn yr un sedd y mae’r Frenhines wedi eistedd ynddi (yn y rhes flaen, yr ail gadair o’r pen, rhag ofn eich bod am gael gwybod).

Mae’r daith yn cymryd rhyw awr ac mae’n ffordd wych o ddechrau unrhyw ddiwrnod o ymweld â golygfeydd Caerdydd. Mae teithiau o amgylch Stadiwm Principality ar gael trwy gydol yr wythnos ac maent yn costio £12.50 i’w harchebu ar gyfer oedolion a £9.00 ar gyfer plant 5-16 oed. Cliciwch yma

Beth am roi’r profiad hwn fel anrheg Nadolig?  E-dalebau Teithiau Stadiwm Principality yw’r anrheg berffaith i aelodau’r teulu neu ffrindiau a gellir eu defnyddio ar gyfer archebu teithiau o amgylch y stadiwm yn y dyfodol.

Dinas gryno iawn yw Caerdydd ac mae modd crwydro’n hawdd drwyddi ar droed, gyda’r mwyafrif o atyniadau, siopau, bwytai a gwestyau oll o fewn pellter ychydig funudau i’w gilydd. Ewch i croesocaerdydd.com i gael mwy o syniadau.