Neidio i'r prif gynnwys

PAM Y DYLECH CHI FYND I ŴYL VINTAGE FOR VICTORY

Gyda chwrs pin o’r cyfnod yn fy ngwallt, gwefusau coch llachar a gwisg yn null lifrai’r llynges, es i at Erddi’r Llyfrgell yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd ar gyfer gŵyl benwythnos ‘Vintage for Victory’ yn barod ar gyfer taith i’r gorffennol.

Mae’r digwyddiad yn ei drydedd flwyddyn ac yn dathlu popeth sy’n wych o’r 40au i’r 60au.  Yn ogystal â hynny, caiff 10% o’r holl docynnau a werthir ei roi i Ymchwil Canser Cymru – un o’r elusennau canser mwyaf blaenllaw yn y wlad sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty’r Eglwys Newydd y tu ôl i’r gerddi.

Rwy’n adnabod yr Eglwys Newydd yn dda am i mi fynychu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd a ro’n i’n byw o fewn pellter cerdded i’r gerddi tan bedair blynedd yn ôl.  Wrth i fi yrru yno, roedd hi’n wych gweld bod y pentref wedi cael ei addurno i adlewyrchu’r thema, gyda’r siopau lleol a’r gylchfan ganolog yn dangos baneri lliw llachar, gan gyfleu swyn a naws y cyfnod.  Roedd yno lu o ddandïaid, beicwyr modur ifanc, a môr o beisiau a gwallt mawr wrth gwrs.

Mae’n hawdd cyrraedd yr Eglwys Newydd ar fws o ganol y ddinas ac o’r ardaloedd cyfagos a chymoedd De Cymru.  Yr orsaf drên agosaf yw Coryton, taith gerdded ddeng munud o’r gerddi, ond nid yw’r trenau yn rhedeg ar y Sul. Mae digon o le parcio hefyd heb unrhyw gost ychwanegol yn Ysbyty’r Eglwys Newydd sy’n daith gerdded bum munud i ffwrdd.

Roedd y gwesteion a oedd yn cyrraedd wedi ymroi i’r thema drwy wisgo dillad y cyfnod.  Dychmygwch gapiau fflat a bresys neu wisgoedd milwrol ar gyfer y dynion, a ffrogiau pwdl neu sgertiau pensil ar gyfer y menywod.  I’r rhai nad oeddent wedi gwisgo felly, roedd digon o gyfle i wneud hynny.  Mewn un rhan o faes yr ŵyl roedd emporiwm dillad o’r oes a fu yn gwerthu dillad ac esgidiau yn null y cyfnod – roedd hyd yn oed stondinau lle y gallech gael eich gwallt a’ch colur wedi’u gwneud.

Roedd yr awyr yn llawn synau’r cyfnod.  Roedd cerddoriaeth fyw i’w chlywed o’r ddwy babell adloniant,  Seiniau llawn hiraeth o gyfnod y rhyfel a chlasuron roc a rôl y gallech ddawnsio iddynt hefyd.  Roedd y cyfan yn help i chi deithio’n ôl mewn amser yn rhwydd.

Yn benodol bues i’n mwynhau ‘Elle and the Pocket Belles’ gan fod eu canu’n cyd-fynd yn llwyr â thema’r digwyddiad.  Yn ogystal â chlasuron cyfnod y rhyfel, fe wnaethant berfformio gymysgedd o gerddoriaeth cenedlaethau diweddarach a’u deunydd eu hunain.  Roedd eu hegni uchel yn annog rhai i godi a dawnsio a’r rhai nad oeddent mor ddewr i dapio’u traed o ymyl y llawr dawnsio.

Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, drwy gydol y dydd roedd cyfleoedd i ddysgu’r jeif, y swing a’r lindy hop.  Dangosodd pob un o’r hyfforddwyr gamau sylfaenol i chi ymarfer gyda’ch partner cyn eich cael i gyfnewid a chyflwyno eich hun i’r dawnswyr eraill – gan greu naws gymunedol o gyfnod a fu.  Nid dyma’r unig adloniant; roedd perfformiadau rheolaidd gan arweinwyr hwyl a diddanwyr eraill.  Yn ogystal â hyn roedd llu o gymeriadau yn cerdded o gwmpas er mwyn i bobl allu cael tynnu eu lluniau gyda nhw.

Roedd y plant yn cael eu diddanu’n hawdd.  Roedd Clwb Tenis yr Eglwys Newydd wedi sefydlu cwrt bach ar y lawnt er mwyn annog pobl o bob oed i gael tro.  Yn ogystal â hyn roedd rhan o gae’r ŵyl wedi’i neilltuo i hen reidiau ffair a stondinau carnifal gan gynnwys Neuadd y Drychau, Stondin Cnau Coco a’r siglenni tandem.  Roedd yn wych gweld plant yn chwarae gyda theganau o’r gorffennol hefyd, ac nid gyda’r teclynnau yr ydym wedi hen arfer â’u gweld yn eu dwylo erbyn hyn.  Gwelais fachgen bach yn chwarae mor hapus â chwyrligwgan a’i chwerthin i’w glywed dros y lle.

Ar ôl yr holl ganu a dawnsio, roedd llawer o werthwyr bwyd yn barod i roi lluniaeth i chi.  Roedd cŵn poeth gan y cigydd arobryn lleol, Martin Player, byrgers a wneir â llaw, bwyd stryd a chrempogau.  Gyda’r tymheredd yn yr ugeiniau uchel roedd lluniaeth yn hanfodol.  Roedd dŵr ar gael yn rhwydd neu rywbeth bach cryfach wrth gwrs.

Canolbwynt y digwyddiad oedd dwy awyren enfawr, sef copïau maint llawn o ‘Spitfire’ a ‘Hurricane’.  Roedd criw o’r Awyrlu Brenhinol wrth law i ddweud popeth wrthych am Frwydr Prydain, pobl y cyfnod ac, wrth gwrs, yr awyrennau.  Roedd cerbydau eraill yn cynnwys hen geir a beiciau o’r 40au, y 50au a’r 60au.

Yr uchafbwynt mwyaf i mi oedd yr RAF Dakota yn hedfan heibio.  Gellid clywed injan yr awyren yn rhuo dros y dorf a’r gerddoriaeth.  Roedd fy nhad-cu yn y Llu Awyr yn Nhremorfa yn ystod y cyfnod hwn, a byddai wedi bod wrth ei fodd yn gweld yr arddangosfa.  Daeth yr awyren yn un o awyrennau cludo milwrol enwocaf y byd, felly roedd yn drawiadol iawn ei gweld yn hedfan uwchben.

Roedd gadael y digwyddiad yn teimlo fel cerdded drwy borthol amser.  Ar ôl prynhawn yn y gorffennol, cymerodd beth amser i’m llygaid addasu i bobl yn cerdded heibio mewn dillad modern.  Roedd hyd yn oed bod yn y car a chlywed cerddoriaeth boblogaidd heddiw ar y radio yn teimlo’n od i’m clustiau.  Yn y pen draw, mae’r digwyddiad yn ddiwrnod allan gwych i bawb o bob oed.  Tybed a fydda i’n mynd â fy wyrion/wyresau i ŵyl dathlu’r 90au mewn hanner can mlynedd…


Mae Katrina Rohman yn Rheolwr Cynorthwyol Marchnata a Gwerthiannau yng Ngwesty Golff a Sba Bryn Meadows yn ogystal ag aelod bwrdd nifer o elusennau lleol. Gan ddechrau ar ei gyrfa ym maes radio cyn symud i waith digwyddiadau, mae’n arbenigo mewn hysbysebu, cyfathrebu, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus. Pan nad yw yn y gwaith, fe welwch hi’n bloeddio cefnogaeth i’r Gleision gyda’i phartner Michael, neu yn cefnogi Dinas Caerdydd gyda’i thad. Mae hefyd yn hoffi gwydraid o seidr neu ddau, ac yn dwlu ar fwyd. Mae’n mwynhau teithio, yn arbennig gwyliau mewn dinas, ac yn edrych ymlaen at y Nadolig o’r 1af o Ionawr. Gallwch ddod o hyd i’w blog yn realgirlswobble.blogspot.co.uk neu ar Twitter ac Instagram @RealGirlsWobble. 

 

Diolch yn arbennig i’r ffotograffwyr: Kurona Alleghenia Dargarth/Kamila J Photography/Luke Heslop

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.