Neidio i'r prif gynnwys

Datgelu cynlluniau Caerdydd i ddod allan o’r cyfnod cloi fel un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel’ y DG

Creu systemau cerdded unffordd i ddiogelu’r cyhoedd, gosod mannau croesawu i esbonio sut bydd symud o amgylch canol y ddinas yn gweithio ac agor tiroedd Castell Caerdydd i greu sgwâr cyhoeddus ‘newydd’ i fusnesau lleol ei ddefnyddio – yw dim ond rhai o’r cynlluniau mae Cyngor Caerdydd yn eu hystyried wrth iddo baratoi i adael cyfnod y cloi.

Mae’r cyngor wedi cyhoeddi cynllun gweithredu manwl sy’n amlinellu cyfres o fesurau arloesol sydd â’r nod o droi Caerdydd yn un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel’ y DG wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i’r hyn sy’n ‘normal’.

Mae’r cynllun wedi ei ddatblygu ar y cyd ag Arup, arbenigwyr technegol cydnabyddedig ar ailgynllunio dinasoedd. Caiff ei ddefnyddio i ymgynghori â thrigolion, busnesau a chynghorwyr ar sut fydd y Cyngor yn:

  • Ailagor prifddinas Cymru’n ddiogel gan ei gwneud yn hygyrch i bawb;
  • Cefnogi busnesau wrth iddyn nhw ailddechrau masnachu;
  • Ailgyflwyno ymwelwyr yng nghanol y ddinas wrth gydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol;
  • Helpu pobl i gyrraedd canol y ddinas er bod llai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus; a hyrwyddo Caerdydd er mwyn creu enw da fel lle diogel, croesawgar, cyffrous a blaengar i ymweld ag ef ar ôl y cyfnod cloi.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae’r cynlluniau hyn yn dechrau amlinellu i ryw raddau sut y gall bywyd ailddechrau a sut y gall Caerdydd ffynnu er gwaethaf COVID-19. Rydym eisiau ailgychwyn, adfer ac adnewyddu prifddinas Cymru a phan fydd y cyfyngiadau yn dod i ben, rwy’n benderfynol y bydd ein dinas yn ailagor mewn ffordd a fydd yn gwneud popeth sy’n bosib i ddiogelu miloedd o swyddi; ac mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn groesawgar ac yn hyderus ynghylch dyfodol Caerdydd.

“Rydym yn gweithio drwy fanylion y cynlluniau hyn gyda busnesau, trigolion a Chynghorwyr lleol i gael eu barn ac rwy’n ffyddiog os byddwn yn mabwysiadu yr un agwedd ‘un ddinas’ a welwyd y sector cyhoeddus, cymunedau a busnesau yn ddod at ei gilydd drwy gyfnod y pandemig, yna gallwn droi’r cyd-ddyhead cyffredinol i ‘ail-godi’n well’ yn realiti gwirioneddol.

“Un peth sy’n hynod gyffrous i mi yn benodol yw’n cynlluniau i agor tiroedd Castell Caerdydd fel sgwâr ‘cyhoeddus’ newydd i’r bobl leol ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Mae tiroedd y castell yn ogoneddus. Gallai gynnig bwytai a chaffis ag ardaloedd cysgodol i’w defnyddio, gan roi cyfle iddynt wneud i fyny am y gofod llawr a chleientiaid y byddent yn eu colli fel arall oherwydd bod rhaid dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu heiddo.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni technoleg lleol i ddatblygu App a allai olygu y gwelwn bobl yn archebu eu bwyd o’r castell a gaiff wedyn ei ddanfon atynt yno fel y gallant ei fwynhau yn y lleoliad gorau sydd gan y ddinas i’w gynnig. Rwy’ hefyd yn awyddus ein bod yn gweithio gyda’r bwrdd cerddoriaeth i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i’r ddinas cyn gynted ag y gallwn. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio mannau cyhoeddus i greu lleoedd diogel ar gyfer digwyddiadau lle gall pobl fwynhau cerddoriaeth ac adloniant ar y stryd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.”

Mae’r cynllun yn amlinellu cyfres o fesurau sydd wedi eu creu i agor y ddinas yn ddiogel ac mewn ffordd a fydd yn annog pobl i ddychwelyd i’r gwaith, i siopa, cynnal eu busnes a mwynhau’r amrywiaeth eang o fwytai, caffis a bariau sydd yma.

Mae’r mesurau yn cynnwys:

Canolfannau Croesawu – yn y prif bwyntiau mynediad i gerddwyr i’r ddinas. Bydd y Mannau Croeso yn cynnig gwybodaeth i’r ymwelydd/siopwr/gweithiwr ar sut mae canol y ddinas yn gweithio, sut i ymweld mewn modd diogel, sut i gyrraedd cyrchfannau penodol, cynllun cerdded, cyfleusterau golchi dwylo, cyfleusterau parcio beiciau ac aelod o staff i gynorthwyo. Bydd arwyddion a llysgenhadon stryd hefyd ar gael drwy ganol y ddinas i gynorthwyo ymwelwyr ac i atgyfnerthu’r wybodaeth a ddarperir yn y mannau croeso.

Symudiad unffordd i gerddwyr – Bydd angen i gerddwyr (siopwyr/gweithwyr/ymwelwyr) yng nghanol y ddinas ddilyn llwybrau wedi eu harwyddo/marcio i sicrhau y glynir at gadw pellter cymdeithasol. Bydd cyfres o symudiadau unffordd gyda mannau wedi’u clustnodi i wrthdroi’r cyfeiriad teithio (man tro pedol). Mae mannau cyfyng wedi eu nodi lle bydd angen cyfyngu symudiadau cerddwyr i un cyfeiriad yn unig, neu i symud mewn un rhes er mwyn sicrhau y gellir cynnal pellter cymdeithasol digonol. Mae cyfres o lwybrau o amgylch canol y ddinas yn cael eu datblygu gan roi ystyriaeth i’r siopau, hybiau trafnidiaeth (safleoedd bysiau, safleoedd tacsis, gorsafoedd a meysydd parcio). Datblygir cynllun i gynnwys holl strydoedd canol y ddinas, gan ystyried niferoedd ac a oes gofod cerdded diogel (i gynnal pellter cymdeithasol) ar gael.

Ciwiau – Gan y bydd pob uned fanwerthu / canolfan siopa / arcêd ond yn gallu gweithredu mewn modd diogel drwy gyfyngu ar nifer y defnyddwyr ar unrhyw adeg, mae’n anorfod y bydd hyn yn effeithio ar y strydoedd y tu allan i siopau. Nodir ardaloedd ciwio penodedig a chânt eu marcio ar y stryd. Bydd angen rhyw fath o amddiffyniad rhag y tywydd (poeth/oer/gwlyb) ar gyfer y bobl fydd yn ciwio y tu allan i unrhyw un o’r atyniadau.

Ardaloedd Cyhoeddus a Gorlifo – Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall nifer o fusnesau yn y sector lletygarwch (bwytai/caffis/bariau) ddioddef yn ddifrifol oherwydd yr angen i ddilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. O ystyried hynny, mae’r Cyngor yn cynnig agor ardaloedd gorlifo a rhoi gofod yn yr ardaloedd cyhoeddus i fusnesau ei ddefnyddio am ddim. Mae’n hollbwysig bod prif strydoedd, mannau cyhoeddus ac ardaloedd gorlifo newydd yn caniatáu cadw pellter cymdeithasol, yn ddiogel, wedi’u cysylltu’n dda ac yn cynnig amgylchedd gwyrdd deniadol sy’n briodol ar gyfer amgylchedd prifddinas. Mae’r cynllun yn nodi nifer o ‘fannau gorlifo’ lle gellir rheoli gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau diogel yn well. Mae’r rhain yn cynnwys y tiroedd y tu mewn ac o amgylch prif furiau Castell Caerdydd, pen gogleddol Ffordd Churchill, yr Aes a Lôn y Felin.

Parcio – bydd angen i lawer o’r meysydd parcio yng nghanol y ddinas weithredu â chapasiti is er mwyn galluogi pobl i adael a dychwelyd i’w ceir yn ddiogel. Mae dull ar y cyd (cyhoeddus/preifat) wrthi’n cael ei ddatblygu ar gyfer y parcio sydd ar gael yng nghanol y ddinas. Er mwyn cefnogi hyn, mae angen datblygu rhwydwaith cynhwysfawr o gyfleusterau Parcio a Theithio/Parcio a Cherdded/Parcio a Beicio er mwyn rheoli mynediad gan geir i ffwrdd o’r canol, ond i ganiatáu mynediad rhwydd i gerddwyr/beicwyr/bysiau ar gyfer y ‘filltir olaf’.

Mynediad i Ganol y Ddinas – Bydd cynllun trafnidiaeth dinas integredig yn helpu pobl i gyrchu canol y ddinas mewn car, ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy deithio llesol (cerdded neu feicio). Gallai’r cynllun trafnidiaeth olygu y bydd canol y ddinas yn cael ei weithredu ar batrwm ‘digwyddiad’. Byddai hyn yn golygu cau ffyrdd fel y mesurau a roddir ar waith ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol mawr yn Stadiwm Principality. Byddai cau ffyrdd ar batrwm ‘digwyddiad’ yn ein galluogi i ddefnyddio ein mannau ‘canol dinas’ cyfyngedig yn y ffordd fwyaf effeithlon, gan hwyluso symudiadau diogel y cyhoedd gan gadw pellter cymdeithasol, mynediad i fusnesau a mannau gorlifo newydd. Byddai cylch rheoli yn cael ei osod o amgylch canol y ddinas i ganiatáu mynediad i geir a symudiad bysus/teithio llesol.

Diogelwch a Chardota Ymosodol – mae’r holl broblemau diogelwch stryd yn cael eu trafod/cytuno â’r heddlu sydd wedi cynnig cefnogaeth i reoli cerddwyr ac unrhyw broblemau cadw pellter cymdeithasol. Mae strategaeth hirdymor i helpu’r digartref wedi’r cyfnod cloi yn cael ei datblygu. Mae 140 o bobl ddigartref wedi cael lloches mewn llety newydd ers dechrau’r pandemig. Ymhlith y nifer hwn, bu 30 person yn cysgu ar y stryd a’r bwriad yw sicrhau nad yw’r bobl hynny yn dychwelyd i’r strydoedd. Mae’r diffyg cyfleoedd i gardota yng nghanol y ddinas wedi golygu bod cleientiaid, a adawyd heb fodd i ariannu dibyniaethau niweidiol, wedi ymateb yn fwy cadarnhaol i wasanaethau cymorth ac wedi dechrau rhaglenni triniaeth. Mae partneriaeth Digartref Caerdydd wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig i fanteisio ar y cyfle hwn i helpu pobl i ddechrau mynd i’r afael â’u dibyniaeth. Mae nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn y ddinas wedi gostwng i lai na deg ers y cyfnod cloi. Mae’r tîm Allgymorth yn parhau i weithio gyda’r unigolion ar y stryd i geisio’u hannog i fanteisio ar gynnig o lety a chymorth. Yn anffodus, gall arian a godir drwy gardota fod yn ddigon i alluogi pobl i ariannu eu dibyniaeth a gwrthod cynigion o gymorth.

Canolfannau Cymdogaeth

Lleol Mae hefyd yn bwysig cyflwyno mesurau i sicrhau y gall canolfannau cymdogaeth ailagor i fusnesau, wrth sicrhau mynediad diogel i’r cyhoedd. Mewn llawer o achosion, nid yw palmentydd yn ddigon llydan i alluogi cadw pellter cymdeithasol a gallai ciwio y tu allan i siopau ar balmentydd fod yn achos pryder. Byddwn yn cyflwyno amrywiaeth o gynlluniau cyn gynted ag y bydd yn ymarferol, gan gynnwys pecyn o fesurau diogelwch a rhai gwyrdd gan gynnwys lledu palmentydd, llwybrau beicio a chyfyngiadau cyflymder 20mya. Gallai mesurau a gaiff eu treialu yn Heol Wellfield yn ardal y Rhath gael eu cyflwyno mewn cymdogaethau eraill hefyd

Mynediad i Geir

Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi leihau ac wrth i bobl ddychwelyd i’r gwaith, mae’n bwysig rheoli’r system drafnidiaeth mewn ffordd sy’n galluogi cynnal pellter cymdeithasol a chadw pobl yn ddiogel. Mae’n debygol y bydd capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei gyfyngu am sawl mis a bydd effeithiau negyddol o ran ansawdd aer, tagfeydd ac allyriadau os bydd pawb yn dewis gyrru yn lle hynny. Nid oes defnydd o gar neu fan gan ryw 29% o gartrefi yng Nghaerdydd sy’n golygu ei bod yn hanfodol cynnig dewisiadau diogel a chynaliadwy yn lle trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn i raddau helaeth ar ffurf gwell seilwaith cerdded a beicio, ac annog preswylwyr sy’n gallu gwneud hynny i ystyried dulliau teithio llesol ar gyfer teithiau byrrach.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: “Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i alluogi pobl i barhau i feicio a cherdded wrth i gyfyngiadau’r cyfnod cloi lacio. Mae cyfle i ni i gyd nawr weld â’n llygaid ein hun sut fath o le y gallai Caerdydd wyrddach a mwy diogel fod. Bydd capasiti trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu gyfyngu am beth amser, a chredwn y bydd llawer o bobl yn parhau i weithio gartref, a ddylai leihau nifer y ceir yn y ddinas. Yr hyn nad ydym am ei weld yw tagfeydd a lefelau llygredd yn codi eto. Yn enwedig gyda’r mesurau hyn, bydd yn rhaid i ni gyflwyno palmentydd ehangach er mwyn sicrhau y gellir dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol.

“Er mwyn helpu rydym yn ystyried cynnig rhwydwaith beicio ‘dros dro’ i annog pobl sy’n gallu, i feicio i ganol y ddinas neu i’w canolfannau cymdogaeth yn hytrach na gyrru. Byddwn hefyd yn ystyried darparu lleoedd parcio ychwanegol i feics mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas ac yn ein canolfannau cymdogaeth. Byddwn yn adolygu’r posibilrwydd o greu safleoedd ‘parcio a phedlo’ a byddwn yn gosod mesurau blaenoriaethu bysus megis gatiau bysus er mwyn cynyddu capasiti’r bysus gan leihau’r amseroedd teithio a sicrhau gwasanaethau dibynadwy.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: “Bydd prif golledion economaidd yn sgil y feirws i’w teimlo yng nghanol dinas Caerdydd, sy’n gyfrifol am oddeutu traean o swyddi’r ddinas. Mae canol y ddinas yn gartref i nifer fawr o’r busnesau sydd eisoes wedi dioddef fwyaf ac a fydd yn parhau i ddioddef yn sgil y pandemig, oherwydd eu dibyniaeth ar niferoedd defnyddwyr. Mae’n bosibl bod 45,000 o swyddi yn y ddinas mewn perygl: rhagwelir y byddai gostyngiad o 20% yn unig yn yr economi yn arwain at golli 10,000 o swyddi ar draws y sectorau hyn. Felly, mae’n hollbwysig cael cynifer o fusnesau yn ôl i weithio’n ddiogel cyn gynted â phosibl. Bydd dinasoedd ledled y DG yn cystadlu am bobl. Mae angen i Gaerdydd adennill hyder pobl leol, ymwelwyr, myfyrwyr a buddsoddwyr.

“Mae’n amlwg bod angen gweithredu ar frys i ail-agor canol y ddinas fel cyrchfan groesawgar. Mae ein trafodaethau gyda chyflogwyr lleol a gweithredwyr busnes wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Mae pawb yn adnabod y ddinas ac mae angen i’r economi ddechrau symud cyn gynted ag y bo’n ddiogel. Rydym am agor mannau cyhoeddus am ddim, a gweithredu trefniadau trwyddedu hyblyg i gefnogi busnesau a allai weld eu niferoedd cwsmeriaid yn cael eu lleihau’n aruthrol yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol. Os gallwn agor mannau cyhoeddus dan do i rai busnesau, gall roi cyfle iddynt ddechrau arni eto a gall roi cyfle iddynt arbed swyddi.”