Neidio i'r prif gynnwys

Lansio ymgyrch codi arian i achub 'Pumba' Parc Bute

Mae ymgyrch arloesol i godi arian wedi’i lansio i helpu i achub ‘Pumba’, nodwedd arddwriaethol boblogaidd iawn ym Mharc Bute.

Wedi’i hysbrydoli gan nodwedd ardd yng Ngerddi Coll Heligan yng Nghernyw, crëwyd ‘Pumba’ y baedd yn 2001 gan dîm garddio mewnol y parc. Dros y degawdau mae’r nodwedd wedi dirywio, ar ôl i’w ffens amddiffynnol gael ei thorri dro ar ôl tro. Erbyn hyn mae’r tîm ym Mharc Bute wedi lansio ymgyrch i godi’r arian sydd ei angen i adfer Pumba i’w hen ogoniant, gosod rheiliau amddiffynnol a chadw’r nodwedd mewn cyflwr da am flynyddoedd i ddod.

Mae’r gwaith i adfer Pumba yn broject peilot ar gyfer Cynllun Cyfrannu Project Gwella tymor hirach Parc Bute. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun cyfrannu’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr y parc ariannu gwelliannau i’r safle yn uniongyrchol yn ogystal â dylanwadu ar ddethol projectau yn y dyfodol.

Gellir gwneud cyfraniadau trwy ymweld â gwefan Parc Bute neu drwy sganio cod QR ar arwyddion, sticeri a phosteri’r ymgyrch ledled y parc. Gellir cyfrannu hefyd dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa’r parc. Caiff yr holl arian a godir ei neilltuo ar gyfer y cynllun.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae nifer yr archwiliwyr brwdfrydig sydd wedi dringo dros Pumba wedi cael effaith andwyol arno.

“O raid, mae adnoddau ym Mharc Bute yn canolbwyntio ar waith cynnal a chadw hanfodol. Felly, yn anffodus, heb gymorth gan y cyhoedd, bydd Pumba yn diflannu yn y pen draw.”

“Mae parciau ledled y DU yn defnyddio cyfleusterau cyfrannu digidol fwyfwy i greu cyllid ychwanegol ar gyfer projectau na fyddent yn bosibl fel arall. Gwyddom fod Parc Bute yn lle arbennig i lawer o drigolion ac ymwelwyr ac, os ydynt â diddordeb mewn gwneud hynny, mae hyn yn gyfle i gyfrannu at nodwedd unigryw sy’n rhoi gwên fawr ar wynebau pobl.”

Mae Cynllun Cyfrannu Project Gwella Parc Bute wedi’i ddatblygu’n gwbl fewnol a’i nod yw bod yn gwbl hunangyllidol.

Y targed codi arian ar gyfer yr ymgyrch i achub Pumba yw £6165.

Helpwch i adfer “Pumba”