Neidio i'r prif gynnwys

Dod â Hwyl yr Ŵyl i Gaerdydd

Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu atyniadau ‘Castell Caerdydd dros y Nadolig’ yng nghanol y ddinas wrth i Sayers Events a Chyngor Caerdydd greu rhywfaint o hwyl yr ŵyl y mae mawr ei hangen. O ddydd Iau, 12 Tachwedd, i ddydd Sul, 3 Ionawr, mae Castell Caerdydd dros y Nadolig yn cael ei reoli yn unol â safonau diogelwch trwyadl a gynlluniwyd i ganiatáu i ymwelwyr fwynhau eu hunain mewn amgylchedd sy’n ddiogel yng nghyd-destun COVID, ac yn cadw pellter gymdeithasol.

Mae Sayers Events, gweithredwr Gŵyl y Gaeaf enwog Caerdydd, unwaith eto’n gwneud i’r ddinas ddisgleirio gydag amrywiaeth o nodweddion Nadoligaidd awyr agored yng Nghastell Caerdydd ac o’i amgylch a fydd yn gwella gweithgareddau arfaethedig y Castell fel Teithiau Siôn Corn Fictoraidd, Bistro’r Gorthwr a’r Lone Stag Bar – gan roi rhywbeth i bobl Caerdydd edrych ymlaen ato go iawn yn yr adeg heriol hon.

Y tu mewn i Gastell Caerdydd dros y Nadolig bydd y Llwybr Iâ awyr agored, yn debyg i’r un a gyflwynwyd yng Ngŵyl y Gaeaf y llynedd, ond gyda llwybr ehangach, i ganiatáu mwy o ymbellhau cymdeithasol a chyda chapasiti cyfyngedig, a fydd yn rhoi cyfle i bobl o bob oedran wisgo’u sglefrau (rhaid archebu sesiynau o flaen llaw ar https://cardiffcastle.ticketsrv.co.uk). Bydd digon o seddau awyr agored hefyd i ymwelwyr fwynhau’r bwyd a diod sydd ar gael o amgylch y rhew, fel danteithion melys a rhoi malws melys ar y tân. Bydd ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal drwyddi draw, a bydd y gweithredwr yn cynnal cyfundrefnau glanhau a hylendid llym bob amser.

Yn ffos y Castell ychydig y tu allan i’r fynedfa, bydd Olwyn Fawr 33m o uchder yn cynnig golygfeydd syfrdanol ar draws y ddinas, a bydd ychydig o reidiau a gemau i’r teulu ar thema’r Nadolig hefyd yn yr ardal honno. Yn y ffos ar ochr arall y fynedfa bydd man eistedd bwyd a diod ar ffurf ‘Cwt Sgïo’ ar thema’r Alpau, gyda golau a gwres.  Bydd system archebu drwy app Yoello yn gweithredu ar gyfer gwasanaeth bwrdd yn yr ardal hon.

Dywedodd Norman George Sayers o Sayers Events: “Yn amlwg, ni allwn ddod â graddfa arferol Gŵyl y Gaeaf i Gaerdydd eleni, ond roeddem yn benderfynol o ddod â gwên i wyneb y ddinas adeg y Nadolig, felly rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd ac Iechyd yr Amgylchedd i ddod â chasgliad o atyniadau awyr agored yn y Castell ac o’i amgylch. Mae’r baich wedi bod yn drwm ar deuluoedd yn 2020, felly gallwn roi sicrwydd iddynt ein bod yn gweithio’n ddiflino i wneud Castell Caerdydd adeg y Nadolig mor ddiogel a phleserus ag sy’n bosibl. Gobeithiwn y bydd hyn hefyd yn annog pobl yn ôl i ganol y ddinas lle  gallant wneud eu holl siopa Nadolig a mwynhau’r Farchnad Nadolig draddodiadol.”

Bydd Castell Caerdydd dros y Nadolig yn gweithio gyda busnesau a chyflenwyr lleol, ac mae hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth y mae mawr eu hangen i bobl leol sy’n ymwneud â’r diwydiant.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant: “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i’r ddinas gyfan, ond mae’r gwaith y mae’r Cyngor wedi bod yn ei wneud gyda Sayers Events a phartneriaid yng Nghastell Caerdydd yn sicr o helpu i ddod â rhywfaint o hwyl yr ŵyl mawr ei hangen i’r ddinas. Mae cael pobl yn ôl i ganol y ddinas dros gyfnod y Nadolig yn amlwg yn bwysig i’r economi, ond mae cyfyngu ar drosglwyddo Covid-19 yn brif flaenoriaeth, felly mae gwaith helaeth wedi’i wneud i sicrhau y gall ymwelwyr fwynhau’r atyniadau hyn, a dathlu tymor yr Ŵyl yng Nghaerdydd yn ddiogel.

“Mae’r Coronafeirws wedi newid llawer o bethau, ond pan fo oleuadau’r Nadolig disgleirio ar y 12fed o Dachwedd, y Farchnad Nadolig flynyddol yn agor, Siôn Corn yn dod i Gastell Caerdydd, a phobl yn dechrau gwisgo eu sglefrau i fwynhau y Llwybr Iâ o amgylch tir trawiadol y Castell, gobeithio y bydd unrhyw un sy’n ymweld â Chaerdydd gallu dweud nad yw un peth wedi newid – faint roedden nhw’n mwynhau’r Nadolig yng Nghaerdydd.”

Bydd ymwelwyr yn talu am bob atyniad yn unigol, a dim ond ar gyfer y Llwybr Iâ y bydd angen archebu o flaen llaw. Gweithredir gan A2H Ice, bydd archebion Llwybr Iâ ar gael ar https://cardiffcastle.ticketsrv.co.uk er mwyn gallu tracio ac olrhain ymwelwyr. Dim ond yn y babell llogi sglefrau y bydd mygydau wyneb yn orfodol, gan fod yr holl gyfleusterau eraill yn yr awyr agored.

Bydd yr atyniadau ar agor o hanner dydd bob dydd, gyda’r Llwybr Iâ yn cau am 9pm ar ddyddiau’r wythnos, a 10pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Bydd atyniadau’r ffos ar agor tan 10pm bob nos. Gyda 53 diwrnod i fwynhau’r dathliadau, cynghorir ymwelwyr i osgoi’r cyfnodau prysur tebygol, megis nosweithiau’r penwythnos, fel bod modd cynnal pellter cymdeithasol.

Mae digon i’w fwynhau hefyd yng Nghastell Caerdydd dros y Nadolig – gydag addurniadau Nadolig, mae’n un o adegau gorau’r flwyddyn i brynu tocyn ac archwilio ystafelloedd gwych y Castell. Gall ymwelwyr archebu lle ar y teithiau Siôn Corn preifat newydd gyda phobl o’u cartref eu hunain, gallant fachu diod a thamaid i’w fwyta yn y Profiad Bwyta yn y Gorthwr, lle cânt ymlacio a gweld un o’r golygfeydd gorau yn y ddinas, a chânt hyd yn oed wneud rhywfaint o siopa Nadolig am anrhegion Cymreig unigryw yn y siop anrhegion.

Bydd Castell Caerdydd dros y Nadolig yn cydymffurfio’n llawn â holl gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.