Neidio i'r prif gynnwys

BYDD TECHNIQUEST NEWYDD SBON DANLLI YN AGOR YM MIS TACHWEDD

Gall ymwelwyr archebu tocynnau o flaen llaw nawr i fynd i ganolfan darganfod a gwyddoniaeth fwyaf Cymru pan fo’n ailagor

Bydd mis Tachwedd yn fis cyffrous i Techniquest gan y datgelwyd heddiw y bydd y ganolfan yn ailagor yn nhymor yr hydref. Ar ôl pedair blynedd o gynllunio a datblygu, mae’r project ‘Prifddinas Wyddoniaeth’ y bu mawr ei ddisgwyl bron wedi’i gwblhau ac mae dyddiad agor wedi’i gadarnhau, sef dydd Sadwrn 14 Tachwedd.  Mae tocynnau bellach ar gael i’w harchebu o flaen llaw.

Er mwyn trawsnewid y ganolfan darganfod a gwyddoniaeth ac amrywio ei chynulleidfa, mae’r project Prifddinas Wyddoniaeth yn cynnwys estyniad mawr, sy’n estyn y gofod llawr gan 60% ac yn cyflwyno 52 o arddangosfeydd newydd sbon. Dyma’r project mwyaf y mae Techniquest wedi’i gyflawni ers iddi gael ei sefydlu 34 o flynyddoedd yn ôl, a bydd yn cynnig profiad cwbl newydd i ymwelwyr.

Gall ymwelwyr ddisgwyl ystod eang o arddangosfeydd arloesol wedi eu gwneud yn arbennig – gan gynnwys efelychydd daeargryn, bwrdd llawdriniaeth rhithwir a cherbyd a yrrir o bell. Bydd yr holl arddangosfeydd yn Techniquest yn ymdrin â phum thema allweddol – gwyddoniaeth fiofeddygol, yr amgylchedd, materion y byd, cemeg a’r gofod.

Bydd y project hwn yn helpu’r elusen gyda’i nod o wreiddio gwyddoniaeth yn niwylliant Cymru a gwneud Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg yn hygyrch i bawb.

Mae’r dyddiad ailagor yn hwyrach na’r disgwyl gan fod COVID-19 (y Coronafeirws) wedi atal y gwaith adeiladu ac wedi gorfodi’r ganolfan i gau.  Er gwaethaf hyn, mae Techniquest yn barod i agor i’r cyhoedd ac mae’r gweithdrefnau diogelwch cywir ar waith i gadw pawb yn ddiogel yn ystod eu hymweliad.  Am y rheswm hwn, rhaid i’r rhai sydd am fynd i Techniquest ar ei newydd wedd archebu eu tocynnau o flaen llaw ar wefan Techniquest. Ni chaniateir i unrhyw un sydd heb docyn yn barod fynd i mewn er mwyn i ymwelwyr gael mwynhau eu hamser yn Techniquest gyda phellter diogel rhyngddynt.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Techniquest, Lesley Kirkpatrick:

“Bydd y project Prifddinas Wyddoniaeth yn adfywio ein canolfan ac yn cynnig profiadau newydd sbon i’r rhai sy’n ymweld â hi.

Fel elusen addysgol, mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn anodd, oherwydd gorfod cau dros dro a cholli llawer o incwm. Nid oedd dewis ond gohirio’r dyddiad lansio, ond rydyn ni eisiau dweud diolch wrth bawb am eu cefnogaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd system docynnau newydd ar waith i sicrhau’r lefelau uchaf o ddiogelwch i’n staff a’r rhai sy’n ymweld â’r ganolfan, felly cofiwch archebu eich tocynnau o flaen llaw cyn dod. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at agor i’r cyhoedd o’r diwedd o ddydd Sadwrn 14 Tachwedd ac yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd cyn bo hir.”

Bydd Techniquest yn aros ar gau tan 14 Tachwedd 2020 er mwyn cwblhau’r gwaith ac felly ni chaniateir i’r cyhoedd fynd i mewn i’r adeilad yn ystod yr amser hwn. Bydd profiad newydd i ymwelwyr yn unol â chanllawiau cyfredol y Llywodraeth ac mae manylion llawn ar gael ar wefan Techniquest. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw cyn dod i’r ganolfan. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, ewch i www.techniquest.org