Neidio i'r prif gynnwys

Eiliadau o hud yng Nghanolfan y Ddraig Goch y Nadolig hwn

Gyda’r Nadolig yn nesáu, mae’r tîm yng Nghanolfan y Ddraig Goch, prif gyrchfan adloniant Bae Caerdydd, wedi cwblhau ei pharatoadau ar gyfer yr ŵyl er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad hudolus y Nadolig hwn.

 

Ar ôl blwyddyn anodd i lawer, mae tîm Canolfan y Ddraig Goch yn gwybod bod angen dihangfa ar bobl nawr yn fwy nag erioed, ac maent yn mynd yr ail filltir i ddod â gwên i wyneb ymwelwyr â’r Ganolfan dros yr wythnosau nesaf.

 

Bydd yr hud yn dechrau o’r funud y bydd ymwelwyr yn cyrraedd; bydd cwsmeriaid yn cael eu cyfarch â cholonâd o oleuadau disglair sy’n rhedeg drwy’r maes parcio a phwdinau Nadolig enfawr wrth y brif fynedfa, cyn iddynt gamu i mewn i weld coeden Nadolig enwog y Ganolfan, tafluniadau tymhorol a’r tenant mwyaf newydd, Blizzard y Ddraig Eira.

 

Yn newydd ar gyfer 2020, mae Blizzard y Ddraig Eira yn greadigaeth realiti estynedig (AR) anhygoel a fydd yn weladwy i unrhyw un sydd â ffôn clyfar, gan eu galluogi i weld Blizzard a rhannu eu profiadau gyda’r ddraig ar y cyfryngau cymdeithasol. Er bod AR wedi bod o gwmpas ers tro, dyma’r tro cyntaf i’r dechnoleg fod mor hygyrch, a Chanolfan y Ddraig Goch fydd lleoliad adloniant cyntaf y DU i arddangos y dechnoleg y Nadolig hwn.

 

O lun teuluol o flaen y goeden i streic wrth fowlio, neu hun-lun gyda Blizzard, rydym yn annog gwesteion i rannu #EiliadauHudCDdG ar y cyfryngau cymdeithasol am gyfle i ennill trît arbennig.

 

Dywedodd Emma Constantinou, rheolwr marchnata Canolfan y Ddraig Goch: “Bydd y Nadolig hwn yn teimlo’n wahanol iawn i Nadoligau’r gorffennol ond ar ôl popeth sydd wedi digwydd yn 2020, gallai pob un ohonom wneud gyda bach o hwyl yr ŵyl.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrch eiliadau hud yn dod ag ychydig o oleuni i ymwelwyr â’r Ganolfan. Yn ogystal â’r gwychder gweledol, gobeithiwn greu hyd yn oed mwy o sypreisys i rai o’n hymwelwyr lwcus.

 

“Wrth gwrs, wrth gynllunio ein digwyddiadau Nadolig, ein prif bryder oedd diogelwch pobl ac mae popeth wedi’i drefnu’n ofalus i sicrhau ein bod wedi creu pocedi o lawenydd yn y Ganolfan, y gall pobl eu mwynhau ar bellter diogel oddi wrth ei gilydd.

 

“Mae brandiau’r Ganolfan wedi gweithio mor galed eleni, yn yr amgylchiadau mwyaf heriol, ac allan nhw ddim aros i groesawu cwsmeriaid yn ôl cyn gynted â phosib.”

 

Ers ailagor i’r cyhoedd yn yr haf, mae Canolfan y Ddraig Goch wedi cyflwyno llu o fesurau iechyd a diogelwch gyda lles ymwelwyr a staff wrth wraidd popeth.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan y Ddraig Goch a’r lleoliadau sydd ar agor, ewch i https://thereddragoncentre.co.uk/ neu dilynwch y Ganolfan ar Facebook.