Neidio i'r prif gynnwys

SEIBIANNAU GWESTY ADEG Y NADOLIG

Cynigion a bargeinion gwestyau Caerdydd dros y Nadolig a gwybodaeth am ddiogelwch.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, allwn ni ddim gwadu hynny. Beth am ddod â’r flwyddyn i ben trwy fwynhau arhosiad dros nos er mwyn ymlacio a hynny yn un o westyau moethus Caerdydd?  Neu rhowch yr anrheg ‘gorffwys ac ymlacio’ perffaith i rywun gyda seibiant mewn sba.  Rydym wedi llunio rhestr o becynnau, gostyngiadau a gwybodaeth ddiogelwch i’ch helpu i gynllunio eich arhosiad tymhorol penigamp yng Nghaerdydd.

Mwynhewch 24 awr o foethusrwydd ym mhrifddinas brydferth Dinas Caerdydd. Y ffordd berffaith o ddianc rhag straen bywyd yn ddiweddar gyda thrîts bwyd, ymlacio’n llwyr yn y Sba a chyfle i gael hwyl wrth siopa Nadolig.

GWESTY’R CLAYTON

Dim ond taith gerdded fer o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, mae Gwesty’r Clayton mewn lleoliad delfrydol.  Cyfle i ailddarganfod hud Caerdydd gyda seibiant gwych o ran ei werth gyda gostyngiad o 20% oddi ar gyfraddau Swper, Gwely a Brecwast. Gyda mannau cyhoeddus ac ystafelloedd gwely diogel a helaeth, mae Gwesty’r Clayton yn berffaith ar gyfer cyplau, teuluoedd neu griw o ffrindiau.

Neu os ydych am fod yn ddarbodus, cewch ystafell yn cychwyn am £50 y noson os gwariwch chi £50 ar fwyd amser swper yn y Grill Bar & Restaurant. Lleoliad canolog, yn ddelfrydol ar gyfer gweld y golygfeydd, bwcio hyblyg heb angen talu ymlaen llaw, a chanslo am ddim hyd at 2pm ar y diwrnod cyn cyrraedd.

GWESTY’R GYFNEWIDFA

Beth am sbwylio anwylyd gyda seibiant Nadoligaidd yng ngwesty bendigedig y Gyfnewidfa’r Nadolig hwn?  Gyda phrisiau’n cychwyn ar £159 y cwpl neu £165 y teulu, mae’n fargen!

Tra byddwch yno, cewch fwyd ym mwyty newydd ‘Tempus Fugit’ ar ddyddiau Gwener a Sadwrn yn ystod Rhagfyr.  Dewiswch dri chwrs o’r fwydlen ‘Festive Express’ am £25 y pen neu o’r fwydlen ‘Festive Choice’ am £35 y person.

THE PARK PLAZA

Ydych chi’n bwriadu gwneud cymaint o siopa â phosibl yng Nghanol y Ddinas?

Ymlaciwch ar ddiwedd diwrnod prysur yng Ngwesty’r Park Plaza a dianc rhag straen bywyd yn ddiweddar gyda thrîts bwyd, gwelyau cyfforddus ac amser i ymlacio’n llwyr yn y Sba.

Canol wythnos
Pecyn yn cynnwys:
• Te Prynhawn Nadoligaidd NEU Swper 3 chwrs â chanhwyllau
• Dewch o 1.00pm ymlaen fel y gallwch fwynhau 24 awr o ymlacio, byddwch yn sicr o gael eich cofrestru erbyn 2.00pm.
• Defnydd o’r pwll nofio cynnes dan do 20m, y bath sba a’r cadeiriau ymlacio wrth ochr y pwll am awr.
• Defnydd llawn o’r gampfa ar 2 lawr sydd â’r offer ymarfer diweddaraf.
• Aros dros nos mewn Ystafell Uwch-radd
• Brecwast Cymreig Llawn
• Gostyngiad o 10% ar unrhyw driniaeth Sba 50+ munud a drefnir ymlaen llaw cyn cyrraedd – Triniaethau Sba
• £64.50 y person yn rhannu ystafell dau wely neu ddwbl
Ar gael o ddydd Sul i ddydd Iau.

Penwythnos
• Te Prynhawn Nadoligaidd neu De Prynhawn i Fonheddwyr NEU Swper 3 Chwrs
• Dewch o 1.00pm ymlaen fel y gallwch fwynhau 24 awr o ymlacio, byddwch yn sicr o gael eich cofrestru erbyn 2.00pm.
• Defnydd o’r pwll nofio cynnes dan do 20m, y bath sba a’r cadeiriau ymlacio wrth ochr y pwll am awr.
• Defnydd llawn o’r gampfa ar 2 lawr sydd â’r offer ymarfer diweddaraf.
• Aros dros nos mewn Ystafell Uwch-radd
• Brecwast Cymreig Llawn
• Gostyngiad o 10% ar unrhyw driniaeth Sba 50+ munud a drefnir ymlaen llaw cyn cyrraedd – Dewislen Triniaethau Sba
• £69.50 y person yn rhannu gyda The Prynhawn
• £79.50 y person yn rhannu gyda Swper 3 Chwrs

THE VALE

Wedi’i leoli mewn 650 erw o gefn gwlad gwyrdd yn Ne Cymru, mae’r gwesty’n cynnig siop un stop ar gyfer ymlacio a mwynhau. A yw brecwast hir a hamddenol yn swnio’n dda, neu hoffech chi ddechrau cynnar a thaith gerdded lesol drwy goetir Cymru?  Y naill ffordd neu’r llall, gallai’r gwesty hwn fod yn addas i chi.

Gwyliau Swper, Gwely a Brecwast y Gaeaf:

  • 1 noson mewn llety moethus
  • Brecwast Cymraeg llawn (gweler y fwydlen yn lawrlwythiadau)
  • Swper (gweler y fwydlen enghreifftiol yn lawrlwythiadau)
  • Potel o win am DDIM yn eich ystafell
  • Defnyddio ein cyfleusterau hamdden, pwll a champfa
  • Parcio am ddim
  • WiFi am ddim

A llawer mwy,   ewch i’r wefan.

FUTURE INN

Arhoswch yn Future Inn Bae Caerdydd, a gallwch gamu o’r byd o’ch cwmpas ac ymlacio am eu bod yn aros ar agor i breswylwyr. Arhosiad dros nos, gan gynnwys brecwast Cymreig llawn, a swper 3 chwrs yn y Thomas Restaurant neu De Prynhawn Blas ar Gymru am £54.50 y pen yn unig.

Aros ar gyfer y Nadolig <https://www.futureinns.co.uk/cardiff/christmas/festive-accommodation>
Mae croeso i chi aros yma dros y Nadolig ei hun hefyd.  P’un a ydych yn teithio i fod gyda’ch anwyliaid ac angen lle i aros, neu fod chwant arnoch i gael pryd bwyd twrci blasus wedi’i goginio i chi, mae gennyn ni’r pecyn iawn sy’n addas i’ch anghenion chi.

Twixmas
Yr enw ar y cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yw Twixmas.  Os hoffech fanteisio ar fargenion Dydd San Steffan, Caerdydd yw’r lle i ddod i siopa.  Gyda chanolfannau siopa mawr dan do gyda’ch hoff frandiau o’r Stryd Fawr neu’r arcedau hanesyddol gyda busnesau annibynnol, dyma’r adeg ddelfrydol i ddod i nabod Caerdydd.

HOTEL INDIGO

Ar ôl gwneud eich siopa Nadolig ar Heol y Frenhines, yn yr Arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd ac yn Arcêd y Frenhines, arhoswch yn Hotel Indigo i fwynhau awyrgylch Cymreig.

Beth am noson ar y gwesty? Archebwch o leiaf 3 noson a bydd Hotel Indigo Caerdydd yn rhoi noson am ddim i chi! Gydag arhosiad hir, does dim angen brysio. Dim ond mwy o amser i ymlacio a darganfod. Ond brysiwch – daw’r cynnig i ben ar 30 Rhagfyr 2020. Yn ddilys ar gyfer arosiadau hyd at 31 Mawrth 2021.

Talebau Rhodd – gyda 2020 yn flwyddyn i aros gartref, beth am drin eich anwyliaid i noson haeddiannol i ffwrdd? Mae gennym dalebau anrhegion o £10, £25, £50 a £100. Ffoniwch ni ar 02920 102711 i brynu a byddan nhw’n eu hanfon yn syth i’ch tŷ.

VOCO ST DAVIDS

Fancy a night in a lavish hotel overlooking the picturesque waters of Cardiff Bay? You’re in luck, Voco St Davids have exclusive offers ahead of time in their early access sale. We’ve put together some of our most popular vouchers, and you don’t have to wait till Black Friday to get your hands on them.

GWESTY’R HILTON

Trefnwch eich arhosiad yng Ngwesty’r Hilton gyda’r cynnig Dream Away Family a chael yr hyblygrwydd sydd ei angen arnoch a gostyngiad o hyd at 20% oddi ar y cyfraddau arferol. Gallwch ganslo am ddim hyd at 24 awr cyn cyrraedd, ac nid oes angen blaendal. Mwynhewch ystafelloedd teulu mawr.  Caiff plant 5 oed ac iau fwyta am ddim ac mae bwydlen flasus ar gael i blant 6 i 12 oed. Hefyd, gallwch drefnu sesiwn nofio i’ch teulu a mwynhau’r pwll cynnes dan do.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch hyd yn oed drefnu sesiwn yn yr Ystafell Gemau a Ffilmiau i Deuluoedd? Ar gael yn rhad ac am ddim ac yn llawn popgorn a lluniaeth.

GWESTY’R ANGEL

Beth am wneud y gorau o ddathliadau’r Nadolig a thretio’r teulu i seibiant cofiadwy yng Ngwesty’r Angel? Yn agos iawn at ddathliadau’r Nadolig yng Nghastell Caerdydd! Mwynhewch amser arbennig gyda’r teulu, heb angen golchi’r llestri. Ymlaciwch a threulio’r amser yn adfer eich egni!

23 RHAGFYR
Wrth gyrraedd y gwesty, cewch eich croesawu gan dîm cyfeillgar y dderbynfa ac wedyn gallwch fwynhau eich noson gyntaf gyda ni’n bwyta oddi ar fwydlen Gymreig y Castells.

NOSWYL NADOLIG
P’un a ydych yn cyrraedd neu’n mwynhau eich ail ddiwrnod, rhowch o’ch amser i fwynhau mins pei a the a choffi gyda ni, wedyn cewch hamddena yn dysgu am y gwesty a gwneud eich siopa Nadolig munud olaf yn ardaloedd siopa gwych Caerdydd. Ymunwch â ni gyda’r nos ar gyfer derbyniad croeso a gynhelir gan ein tîm. Cewch bryd rhagorol o fwyd yn ein bwyty gydag adloniant byw ac wedyn gallwch ymlacio weddill y noson. Caiff gwesteion sy’n mynd i’r offeren ganol nos frandi a mins pei wrth ddychwelyd.
DYDD NADOLIG
Ar ôl i chi agor eich anrhegion, mwynhewch frecwast hamddenol a gwneud beth bynnag yr hoffech yn ystod y bore cyn mwynhau cinio Nadolig traddodiadol 4 cwrs gyda phianydd yn chwarae’n fyw. Byddwn yn gweini coffi a chacen Nadolig yn ystod araith y Frenhines a gyda’r nos, bydd bwffe gala gwych ar gael, os oes digon o le gennych!

GŴYL STEFFAN
Ar ôl cysgu’n hwyr, dewch i ymuno â ni am frecwast hamddenol a threulio’r diwrnod fel y dymunwch neu gymryd rhan yn ein Cwis Gŵyl Steffan hwyliog. Gyda’r nos, byddwn yn cynnal derbyniad diodydd a chewch swper gala pedwar cwrs penigamp, a ddilynir gan adloniant byw a dawnsio.
ARHOSIAD NADOLIGAIDD TAIR NOSON O £305.00 Y PERSON / ARHOSIAD NADOLIGAIDD PEDAIR NOSON O £395.00 Y PERSON / YCHWANEGIAD i UNIGOLYN – £25.00 Y NOSON / PLANT YN RHANNU GYDA DAU OEDOLYN O £75.00 Y PLENTYN (HYD AT 16 OED) 4 OED A LLAI’N RHANNU AM DDIM GYDA DAU OEDOLYN