Neidio i'r prif gynnwys

Bwytai sy’n cynnig cludfwyd

Rydym wedi llunio canllaw o fwytai sy’n parhau i gynnig cludfwyd yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau ar y diwydiant lletygarwch.

Mae rhywbeth at ddant pawb ar y rhestr.

 

Pieminister

Mae Pieminister yn gweini eu pasteiod nodedig gyda llwyth o seigiau ochr bach, a phwdinau moethus. Felly os ydych chi am gael bwyd Prydeinig traddodiadol a sylweddol yr hydref hwn, rydych chi’n gwybod ble i roi eich archeb tecawê nesaf! Gallwch archebu pasteiod crasboeth a seigiau ochr i ddod i’ch drws trwy deliveroo, neu gallwch chi hyd yn oed archebu ‘Pies in the post’a’u coginio gartref eich hun.

 

 

Grazing Shed

Mwynhewch fwyd cysurlon hen ffasiwn i’ch helpu trwy’r cyfnod atal trwy archebu gan unig gadwyn byrgyrs annibynnol Caerdydd, The Grazing Shed. Bellach gallwch chi archebu tecawês yma, neu hyd yn oed becynnau byrgyrs  er mwyn gwneud eich rhai eich hun gartref.

 

Pho Cafe

Mae Pho Cafê bellach yn dosbarthu eu heitemau bwydlen Fietnamaidd sy’n amrywiol, yn ffres ac yn flasus yn syth i’ch drws. Dewiswch o gawl nwdls pho, cyri, salad, powlenni reis a llawer mwy. Archebwch trwy Deliveroo nawr!

 

Honest Burgers

Yn onest, mae Honest Burgers yn gwneud tecawê bellach! Mae Honest Burgers yn enwog am weini byrgyrs cig eidion o’u cigydd eu hunain, sglodion rhosmari cartref wedi’u torri a’u coginio bob dydd a chwrw lleol o fragdai cyfagos. A wyddoch chi fod Honest Burgers bellach ar agor ar gyfer tecawê yn ogystal â dosbarthu digyffwrdd trwy Deliveroo a dosbarthu trwy Uber Eats

 

Tiny Rebel

Efallai bod tafarndai ar gau tan 9 Tachwedd, ond gallwch bellach gael ein cwrw a’n bwyd wedi’u dosbarthu yn syth i’ch drws gan Tiny Rebel. Ewch draw i order.tinyrebel.co.uk i archebu caniau o gwrw wedi’i fragu’n lleol, sglodion wedi’u llwytho, pitsa, adenydd cyw iâr a mwy!

 

I Giardini Di Sorrento

Mae un o fwytai Eidalaidd traddodiadol mwyaf poblogaidd, sy’n adnabyddus am ei basta ffres a wnaed â llaw, ‘I Giardini di Sorrento’, bellach yn cynnig gwasanaeth tecawê fel y gallwch fwynhau bwyd o ansawdd bwyty gartref. Cliciwch yma i ddarllen y fwydlen a gwneud eich archeb

 

Juniper Place

Unwaith eto mae Juniper Place yn cynnig eu cinio dydd Sul tecawê sydd bob amser yn boblogaidd i’r cyhoedd. Dewiswch rhwng cig eidion wedi’i rostio’n araf, coes cig oen wedi’i rhostio, coron twrci Sir Benfro wedi’i rhostio, a thorth cnau wedi’i rostio. Archebwch ar-lein ar Facebook. Dysgwch fwy yma.

 

 

Curado Bar

Efallai bod y bar ar gau, ond gallwch gael y profiad o Curado gyda’u gwasanaeth dosbarthu i’r cartref. Felly ewch yn glyd, rhowch eich traed i fyny ac archebwch yma.

 

Ydy hi’n well gennych glicio a chasglu o’ch hoff fwytai?  Edrychwch os ydyn nhw ar gael drwy’r platfform archebu ar-lein newydd ‘Your Cardiff’ gan Yoella a chefnogwch fusnesau lleol.