Neidio i'r prif gynnwys

CROESO CAERDYDD – MARCHNADOEDD NADOLIG ANNIBYNNOL

Os ydych chi am gefnogi manwerthwyr a gwneuthurwyr crefftau annibynnol eleni, beth am gael pip ar farchnadoedd Nadolig niferus Caerdydd, sydd yma ac acw o amgylch y ddinas?

O emwaith wedi’i wneud â llaw, dillad vintage a dillad wedi’u hailweithio i ganhwyllau persawr unigryw, caws, gwin a chymaint mwy – mae rhywbeth at ddant pawb.

MARCHNAD NADOLIG CAERDYDD

Llun – Sad: 10:00 – 18:00 / Sul: 10:00 – 17:00

Pan fyddwch yn ymweld â Chaerdydd, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwch yn prynu gwaith gwreiddiol gan bob un o’n gwneuthurwyr talentog: gemwaith arian arbennig, gwaith coed, gwaith celf gwreiddiol ar draws pob cyfrwng, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg a wnaed â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, rhoddion pewter traddodiadol i enwi dim ond ychydig, ynghyd ag amrywiaeth o fwyd a diod tymhorol i greu awyrgylch Nadoligaidd bywiog. Gallwch hefyd sgwrsio â nhw am eu gwaith a’r broses greu, a thrafod comisiynau os dymunwch.

Gallwch ddod o hyd i’r farchnad ar Heol Sant Ioan, Stryd Working, Yr Aes, Heol Hills a  Heol y Drindod yn un o’r prif ardaloedd siopa yng Nghanol Dinas Caerdydd.

Mae rhestr gynhwysfawr o’r holl gyfranogwyr ar gael ar wefan Marchnad Nadolig Caerdydd marchnadnadoligcaerdydd.com.

MARCHNAD NADOLIG ARCÊD DOMINIONS

Mae’r Farchnad Nadolig hon wedi’i lleoli yn Arcêd hardd Dominions, a adeiladwyd yn 1921 gyda phensaernïaeth grand wedi’i chydblethu â ffitiadau cyfoes – bydd digon i ryfeddu ato wrth i chi grwydro o stondin i stondin!

Mae’r Farchnad yn gartref i amrywiaeth o fasnachwyr annibynnol ac unigryw ac mae ar agor tan 24 Rhagfyr – perffaith ar gyfer yr anrhegion munud olaf ‘na.

Mae siopa ‘Dolig yn waith blinedig, felly cofiwch orffwys a bachu tamaid i’w fwyta yn siop goffi Bute & Co yn yr arcêd.

MARCHNAD NADOLIG Y DEPO

Dydd Sul 13 Rhagfyr – 9:00 – 16:00. Slotiau 45 munud ar gael i’w harchebu drwy gydol y dydd.

Os ydych chi’n sownd am rywbeth i’w brynu i’ch anwyliaid y Nadolig hwn, cadwch slot a’i throi hi am Farchnad Nadolig y Depo ar 13 Rhagfyr. Gyda dros 70 o fasnachwyr, bydd rhywbeth at ddant pawb. Ar ôl llwyddiant ysgubol y llynedd, mae’r digwyddiad yn ôl, gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ychwanegol.

Bydd clasuron Nadoligaidd yn chwarae, cornel grefftau i’r plant a bwyd stryd gan bum masnachwr bwyd, gwin a seidr poeth ar gael drwy’r dydd.

Mae’r DEPO wedi’i leoli ar Williams Way, oddi ar Curran Embankment, Caerdydd, CF10 5DY

Prynwch docynnau yma. Marchnad Nadolig – 13 Rhagfyr – DEPO (depotcardiff.com)

SIOP DROS DRO ARCÊD Y GWNEUTHURWYR

Llun – Gwener: 09:30 – 17:30 / Sul – 11:00 – 17:00

Mae Arcêd y Gwneuthurwyr yn ganolfan yng Nghaerdydd sy’n dod â gwneuthurwyr, dylunwyr a chynhyrchwyr talentog, annibynnol ynghyd, pob un wedi’i ddewis am ei ansawdd a’i unigrywiaeth. Daeth y gwneuthurwyr gwych hyn at ei gilydd i gynnig cyfle i bobl Caerdydd brynu cynhyrchion o ansawdd uchel, wedi’u saernïo a’u dylunio’n ofalus.

Dydyn nhw ddim yn stocio eitemau a gynhyrchir ar raddfa fawr, felly gallwch brynu gan wneuthurwyr yr Arcêd gan wybod y cewch gynnyrch unigryw y gallwch chi neu’r derbynnydd ei fwynhau am flynyddoedd lawer.

Fe welwch y siop dros dro yn Arcêd Morgan yng Nghanol y Ddinas.

Ddim yn barod i gamu allan i’r stryd fawr? Dim problem – gallwch brynu gan y gwneuthurwyr ar-lein, a gweld rhai o’r cynhyrchion gwych sy’n cael eu gwneud yma yng Nghymru a’r DU. Dyma chi: ArcêdyGwneuthurwyr.

MARCHNAD CELF A CHREFFT Y NADOLIG PONTCANNA

13 ac 20 Rhagfyr / 10:00 – 15:00

Yma fe welwch farchnad grefftau sy’n arddangos rhai o’r crefftwyr lleol gorau. Fe welwch amrywiaeth o anrhegion unigryw, hardd wedi’u gwneud â llaw, o grefftau pren i ganhwyllau, cerameg a hyd yn oed goed Nadolig lleol Cymreig!

Mwy o wybodaeth yma:  Marchnad Pontcanna | Marchnad Pontcanna.