Neidio i'r prif gynnwys

21 Peth i'w Wneud yng Nghaerdydd Yn 2021

Roedd 2020 yn flwyddyn heriol i bawb. Blwyddyn a wnaed yn anos byth i fynd drwyddi oherwydd cau atyniadau, canslo digwyddiadau a gwyliau byw, a phostio gwyliau.

Yma yn Croeso Caerdydd rydym yn gobeithio y bydd 2021 yn flwyddyn llawer gwell. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i edrych ymlaen ato hefyd, dyma ein rhestr o 21 o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd yn 2021 (bysedd wedi croesi).

 

1. Ymweld â’r Techniquest newydd a gwell

Ar ôl pedair blynedd o gynllunio a datblygu, mae canolfan wyddoniaeth a darganfod fwyaf Cymru wedi’i gweddnewid yn sylweddol a bellach yn cynnig 52 o arddangosion newydd sbon. Gall ymwelwyr ddisgwyl amrywiaeth eang o arddangosion arloesol wedi eu gwneud yn bwrpasol – gan gynnwys efelychydd daeargryn, bwrdd llawdriniaeth rhithwir a cherbyd a yrrir o bell. Bydd yr holl arddangosion yn Techniquest yn ymdrin â phum thema allweddol – gwyddoniaeth fiofeddygol, yr amgylchedd, materion y byd, cemeg a’r gofod.

 

2. Mynd i gyngerdd yng Nghastell Caerdydd

Gydag wyth cyngerdd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, mae 2021 yn addo bod yn flwyddyn wych ar gyfer cerddoriaeth fyw yng Nghastell Caerdydd. Gyda pherfformwyr nodedig o bob maes cerddorol, gan gynnwys Foals, Michael Bublé, Ryan Adams, Lionel Richie a Kaiser Chiefs, bydd rhywbeth at ddant pawb. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau yng Nghastell Caerdydd ac archebu eich tocynnau yma.

 

3. Anturio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Cyfleuster antur gwefreiddiol yng nghanol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yw Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Dewch i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden cyffrous ar gyfer ceiswyr antur o bob oed, gan gynnwys Antur Awyr, rafftio dŵr gwyn, ymarferion tiwb a gweithgareddau gwych eraill.

 

4. Artes Mundi 9

Bydd Gwobr gelf gyfoes ryngwladol fwyaf y DU, Artes Mundi, yn dychwelyd ar gyfer y nawfed tro gydag arddangosfa pum mis rhwng 13 Chwefror 2021 a 6 Mehefin 2021 mewn tri lleoliad ledled Caerdydd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39.

 

5. The Hundred

Dewch i brofi’r gystadleuaeth griced wefreiddiol newydd i bawb. Beth yw The Hundred? Saith dinas. Wyth tîm. 100 pelawd. Bydd The Hundred yn cael ei chwarae dros bum wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol a bydd yn ffordd wych i deuluoedd fwynhau criced. Gallwch wylio gemau yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

 

6. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn gartref i gasgliadau celf, hanes naturiol a daeareg cenedlaethol Cymru, dylai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fod ar restr bawb o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd. Os ydych yn ymweld ar gyllideb dynn, dylai hyn fod ar dop y rhestr gan fod yr amgueddfa am ddim.

 

7. Taith Cerfluniau Fforest Fawr

Mae’r daith mewn ardal goetir gyferbyn â’r castell tylwyth teg, Castell Coch. Mae’r llwybr oddeutu milltir a hanner o hyd a’i nod yw mynd â chi ar daith hud a lledrith drwy’r fforest. Ffordd wych i ail-gysylltu â natur i ddod o hyd i ychydig o dawelwch, ac mae’r cwbl am ddim.

 

8. Grand Prix Speedway Prydain Adrian Flux yr FIM 2021

Mae digwyddiad chwaraeon modur dan do mwyaf Prydain yn dathlu ei 20fed flwyddyn yng Nghaerdydd gyda’i SGP Prydain Adrian Flux mwyaf a gorau eto! Hefyd, eleni bydd SGP Prydain Adrian Flux yn rhuo ei ffordd i Gaerdydd gydag ardal selogion llawn gweithgareddau ar lawnt neuadd y ddinas a fydd yn gwefreiddio cefnogwyr gyda styntiau anhygoel, sioeau rhedeg rhydd, sesiynau awtograffau SGP swyddogol, adloniant Monster Energy, a cherddoriaeth fyw.

 

9. Gwyliwch sioe gerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru yw cartref y celfyddydau yng Nghymru. Gydag amrywiaeth eang o sioeau cerdd gwych wedi’u trefnu ar gyfer 2021 gan gynnwys School of Rock, Sister Act, Le Miserables, Grease, We Will Rock You a mwy, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru eleni.

 

10. Parc y Rhath a Llyn Parc y Rhath

Un o’n hoff leoedd yn y ddinas, nad yw digon o dwristiaid ac ymwelwr yn ei weld, mae Parc a Llyn y Rhath yn ddiwrnod allan am ddim ffantastig i unrhyw un a phawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt a garddwriaeth lleol, am fynd am dro mewn lleoliad hyfryd neu os oes gennych blant sydd am fynd yn wyllt mewn parc chwarae mawr, mae Parc a Llyn y Rhath yn berffaith i chi.

 

11. Taith Hofrennydd Whizzard

Dewch i hedfan gyda Whizzard Helicopters a mentro i’r entrychion o Lanfa Hofrenyddion Caerdydd gyda thaith olygfaol sy’n rhoi golwg gwahanol ar y byd sy’n hynod arbennig. Maent yn cynnig hediadau wedi’u teilwra lle gallwch hedfan lle bynnag y dewiswch, neu gallwch fynd ar lwybr a argymhellir.

 

12. Llwybr Bae Caerdydd

Ewch ar daith ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, cewch weld golygfeydd ysblennydd o’r bae a Môr Hafren a mwynhewch y môr. Mae Llwybr y Bae yn 10km o hyd ac yn pasio sawl atyniad ar hyd y ffordd o’r Eglwys Norwyaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd a mwy. Lawrlwythwch map y llwybr yma neu ewch i nôl un o’r Ganolfan Groeso.

 

13. Ewich i Eglwys Gadeiriol Llandaf

Ewch i ymweld ag un o eglwysi cadeiriol mwyaf deniadol y DU, a phrofi hanes, treftadaeth a phensaernïaeth ryfeddol. Saif yr eglwys gadeiriol yn “ninas” hynafol Llandaf ac mae’n un o’r safleoedd Cristnogol hynaf ym Mhrydain.

 

14. Profwch Ŵyl Experimentica

Mae Experimentica yn ŵyl gelf fyw yng Nghaerdydd a gynhelir gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter sy’n annog cymryd risg, cydweithredu a chyfnewid rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd. Mae’r ŵyl yn comisiynu ac yn cynnal rhaglen ddeinamig o brosiectau celf, perfformiad a rhyngddisgyblaethol byw ac yn cynnig llwyfan i artistiaid y DU a rhyngwladol ar bob cam o’u gyrfaoedd gyflwyno gwaith arbrofol mewn amgylchedd agored a chefnogol.

 

15. Triathlon Caerdydd 2021

Mae cofrestru ar gyfer Triathlon Caerdydd yn rhoi cyfle i chi gystadlu yn un o driathlonau dinas gorau’r DU. Gyda phob pellter o Super-Sprint i Olympaidd a chyfle i grwpiau oedran gymhwyso ar gyfer Triathlon y Byd, mae rhywbeth ar gyfer pob gallu yn Nhriathlon Caerdydd.

 

16. Archwilio Taith Taf

Ewch ar daith gerdded neu feicio rhwng Bae Caerdydd a Thongwynlais ar hyd 8 milltir o Daith Taf hardd, gan fynd heibio i lawer o brif atyniadau Caerdydd a mannau prydferth naturiol eithriadol ar hyd y ffordd. Mae Taith Taf yn antur awyr agored wych sy’n aml yn cael ei hanwybyddu gan drigolion.

 

17. Darganfod Hanes Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Ewch yn ôl mewn amser yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Saif yr amgueddfa, sy’n cynnig mynediad am ddim, ar dir castell a gerddi godidog Sain Ffagan. Ers 1948, mae dros ddeugain adeilad gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol wedi eu hailgodi yn y parcdir 100 erw, gan gynnwys tai, fferm, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd. Daw Sain Ffagan yn fyw trwy grefftau a gweithgareddau traddodiadol mewn gweithdai lle mae crefftwyr yn parhau i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

 

18. Aros Dros Nos

Ydych chi wedi syrffedu ar yr un pedair wal? Os felly, rydym yn credu ei bod yn hen bryd i chi gael gwyliau yn y wlad hon yng Nghaerdydd pan fydd yn ddiogel gwneud hynny!! Rydym yn credu nad oes rhaid mynd i ffwrdd i gael hoe. Beth am archebu noson yn un o Westai a Sbas Caerdydd a mwynhau ychydig o orffwys ac ymlacio.

 

19. Distyllfa Castell Hensol

Distyllfa jin gyntaf Cymru ar raddfa lawn yw Castell Hensol sydd hefyd yn cynnwys canolfan ymwelwyr, ysgol jin ac uned botelu. Mae wedi’i lleoli yn seleri Castell Hensol sy’n adeilad rhestredig gradd 1 ac yn llawn hanes a threftadaeth.

 

20. Ymweld â Sgwâr Cyhoeddus Castell Caerdydd

Mae Sgwâr Cyhoeddus Castell Caerdydd yn ffordd hyfryd o dreulio’r diwrnod. Gallwch eistedd i lawr ac ymlacio ar lawntiau’r Castell neu wrth y byrddau picnic, dod â’ch picnic eich hun, mwynhau coffi a thafell o gacen o’r bistro, gadael i’r plant chwarae a mwynhau’r golygfeydd hyfryd yn rhad ac am ddim!

 

21. COGINIO AR Y CYD CYMREIG GYDA LOVING WELSH FOOD

Coginio ar y Cyd Cymreig – blas arbennig ar Gymru o ddiogelwch eich soffa! Coginiwch ynghyd â’r cogydd teledu Nerys Howell a’r Gwesteiwr Loving Welsh Food Sian Roberts wrth fwynhau coctel Cymreig, neu ymlaciwch a mwynhewch y coginio, yr awgrymiadau a’r straeon gorau. Mae pob rysáit yn hawdd ei dilyn a gallwch ofyn cymaint o gwestiynau ag yr hoffech. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â info@lovingwelshfood.uk