Neidio i'r prif gynnwys

SYNIADAU AMGEN AR GYFER DIWRNOD SANT FFOLANT

Bydd Dydd Sant Ffolant ychydig yn wahanol eleni, ond nid yw hynny’n golygu na allwch wneud ymdrech yn ystod y cyfnod cloi!

Darllenwch am bob un o’n ffyrdd amgen o ddathlu isod…

PROFI DIGWYDDIAD RHITHWIR

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd ar gyfer eich noson Sant Ffolant gartref.

BLASU GWIN CYMREIG

Dathlwch Sant Ffolant gyda phrofiad ar-lein Blasu Gwin Cymreig a Phice ar y Maen gan Loving Welsh Food ddydd Gwener 12 Chwefror 2021 am 19:00.

“Gwahoddwch ffrind am ddim” a mwynhewch noson gyda rhywun rydych chi’n ei garu

Mwynhewch ychydig o win Cymreig braf a chwrdd â Robb Merchant, perchennog gwinllan Whitecastle.

Pwy sydd ddim yn caru pice ar y maen cynnes? Bydd Sian Roberts, o Loving Welsh Food, yn rhannu awgrymiadau da ar sut i wneud pice ar y maen siocled ac oren blasus.

Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a dysgwch fwy am y gwinoedd, pice ar y maen a … Chymru!

Mae tocynnau’n costio £15.00 + ffi archebu (1 tocyn yn cynnwys cartref cyfan) prynwch ar-lein yma: Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd | Teithiau coginio gan Loving Welsh Food.

GWYLIWCH GYNGERDD CERDDORIAETH GLASUROL YN FYW – O GARTREF!

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyflwyno première ar-lein o dri chynhyrchiad newydd gan Gwmni Richard Burton y Coleg ei hun. Mae’r gyfres #InCamera yn cyflwyno, The Moors, Statements After An Arrest Under The Immorality Act a Twelfth Night Remembered.

Mae gan y coleg gyfres gerddoriaeth glasurol hefyd o’r enw #YnFywOrDora, sy’n cynnwys artistiaid rhyngwladol ac yn cael ei ffrydio’n fyw o Neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker CBCDC.

  • 12 Chwefror 2021 07:30pm: CYFRES CANEUON SCHUBERT: IAN BOSTRIDGE ac ANTONIO PAPPANO
  • 21 Chwefror 2021 11:00am: CYFRES PIANO RYNGWLADOL STEINWAY: CLARE HAMMOND

Gweld amserlen lawn y cynhyrchiad yma: Cyfres Piano hyngwladol Steinway: Clare Hammond | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (rwcmd.ac.uk)

Tocynnau ar gyfer pob sioe a chyngerdd: £5.

DDIM YN GALLU PENDERFYNU PA FIDEO I’W WYLIO? RHOWCH GYNNIG AR Y CWIS ‘EVERYMAN RECOMMENDS’!

Efallai bod eu drysau ar gau am nawr ond hoffai Everyman Cinema ddweud ein bod yn gwybod ambell beth am y ffilmiau gorau i’w gwylio – beth bynnag fo’r achlysur! Felly rydym wedi llunio rhai rhestrau gwylio a ysbrydolwyd gan y gweithgareddau a’r arferion newydd yr ydym wedi’u mabwysiadu yn ystod y cyfnod cloi.

Efallai eich bod wedi dod yn brif gogydd newydd eich cartref neu efallai eich bod wedi dod yn athro ysgol byrfyfyr? Beth bynnag fo’r amgylchiadau, mae ganddyn nhw’r ffilm i chi! Everyman Recommends… (everymancinema.com)

RHOI ANRHEGION

Mae’r anrhegion canlynol i gyd yn ddiogel i’w prynu ar-lein, gellir eu defnyddio ar ôl y cyfnod cloi neu eu mwynhau’n rhithiwr!

TALEBAU RHODD AR GYFER BWYTY GREY YN HILTON CAERDYDD

Pan fydd bwytai’n gallu croesawu gwesteion eto, byddwch am wneud yn iawn am ddathliadau coll. Dywedwch wrth y person arbennig yn eich bywyd eich bod yn methu aros i greu atgofion arbennig gyda nhw eto’n fuan drwy anfon taleb rhodd am brofiad bwyta anhygoel ym Mwyty Grey.

Dewiswch o De Prynhawn gyda Phrosecco neu Siampên neu gwnewch syrpreis i rywun gyda Brecinio Prosecco Di-ri i’w fwynhau’n fuan. Mae talebau ariannol hefyd ar gael, y gellir eu defnyddio tuag at wyliau byr yn Hilton Caerdydd.

Gellir prynu talebau rhodd ar-lein a’u hanfon drwy e-bost neu drwy’r post hiltoncardiff.skchase.com.

TALEBAU RHODD AR GYFER POB ACHLYSUR YNG NGWESTY’R FRO

Ar gyfer anrheg foethus y Dydd Sant Ffolant hwn, talebau rhodd Gwesty’r Fro yw’r rhodd ddelfrydol i anwylyd sydd wir wedi cael popeth.

Mae ein talebau rhodd yn cynnig rhywbeth i bawb, p’un a ydych chi’n prynu diwrnod moethus i mam, prynu  triniaeth sba i ffrind  yn sba dydd mwyaf Cymru neu’n rhoi seibiant golff i dad, rydym yn siŵr, beth bynnag a ddewiswch, y bydd taleb rhodd Gwesty’r Fro’n brofiad i’w gofio.

Gellir prynu talebau rhodd mewn tair ffordd, fel e-daleb y gellir ei lawrlwytho o’r wefan, fel talebau wedi’u postio y gellir eu hanfon yn uniongyrchol at y prynwr neu’r derbynnydd neu gallwch brynu eich un chi naill ai yn nerbynfa ein gwesty, desg sba neu ddesg siop golff.

TALEBAU RAFFTIO DŴR GWYN YN DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Rhowch rywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato, ar ôl y cyfnod cloi! P’un a ydyn nhw’n arbenigo ar chwaraeon dŵr neu’n ddechreuwr pur, mae DGRhC yn siŵr o gynnig y gweithgaredd perffaith i wneud i’ch calonnau rasio!  Beth am fynd â nhw ar sesiwn Rafftio Dŵr Gwyn neu Ganŵio? (Efallai nid yw hyn ar gyfer y rhai gwangalon) Os ydyn nhw ychydig yn llai mentrus, trefnwch gwrs Ioga Padlfyrddio (ie, mae hynny’n rhywbeth go iawn)!

Prynwch dalebau rhodd ar-lein yma: Talebau Anrheg Rafftio Dŵr Gwyn, Plant ac Oedolion Prynu Ar-lein | DGRhC – Caerdydd, De Cymru

TEIMLO’N LWCUS? CYMERWCH RAN YNG NGHYSTADLEUAETH ‘TEIMLO’R CARIAD’ CANOLFAN SIOPA DEWI SANT!

Bob wythnos y mis hwn, byddan nhw’n rhedeg cystadleuaeth i rannu’r cariad a’ch sbwylio! Ewch i’w gwefan am 10am bob dydd Llun drwy gydol mis Chwefror i ddarganfod y gwobrau diweddaraf.

Cliciwch yma a llenwch y ffurflen: Teimlwch y cariad ym mis Chwefror | Canolfan Siopa Dewi Sant (stdavidscardiff.com).

BWYD BENDIGEDIG!

Nid oes noson dêt gyflawn heb wledd.

BLAS AR GAERDYDD

Awydd creu argraff ar eich partner gyda rhywbeth wedi’i goginio gartref? Edrychwch ar ein blog ‘Blas ar Gaerdydd’, yn llawn ryseitiau gan fwytai yn y Ddinas! Felly byddwch yn greadigol, coginiwch, a phrofi golygfeydd, arogleuon a blasau sîn fwyd hyfryd Caerdydd o gartref. BLAS AR GAERDYDD – RYSEITIAU GAN GOGYDDION LLEOL • Croeso Caerdydd

.

SIOPAU CLUDFWYD

Gwell gennych archebu o gartref? Dim problem, dyma gipolwg bach ar y bwytai niferus yn y ddinas sy’n dal i fod ar agor ar gyfer tecawê! Chwiliwch Deliveroo ac Uber Eats.

  • THE GRAZING SHED
  • PHO CAFÉ
  • HONEST BURGER
  • DUCHESS OF DELHI

Neu am rywbeth ychydig yn wahanol, archebwch ‘Becyn Pasta Ffres’ gan Bella Italia a mwynhewch ei goginio gyda’ch gilydd gartref! Paratowch bryd Eidalaidd blasus ar gyfer dau neu bedwar o bobl gyda phasta ffres a sawsiau crefftus, wedi’u gwneud yn ffres bob dydd gan ein ffrindiau yn La Tua Pasta. Beth am sbwylio rhywun arall (neu chi eich hun), neu fwynhau noson ddêt gyda phryd o basta ffres Eidalaidd perffaith. Bella at Home (bellaitalia.co.uk)


Beth am gael rhywfaint o ysbrydoliaeth noson ddêt yn barod at pan fydd y cyfyngiadau COVID19 wedi llacio? Cymerwch olwg ar ein blog yma: Syniadau Dêt Caerdydd • Y llefydd gorau ar gyfer eich noson ddêt yng Nghaerdydd (croesocaerdydd.com).