Beth wyt ti'n edrych am?
A Dog's Trail with Snoopy Wedi ei Ohirio

Dywedodd llefarydd ar ran Dogs Trust: “Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio A Dog’s Trail with Snoopy tan dymor y gwanwyn 2022. Roedd i fod i gael ei gynnal yng Nghaerdydd yr hydref hwn.
“Er y gallai’r llwybr ddigwydd yn ddiogel yn yr awyr agored, mae llawer o ansicrwydd o hyd ac mae’r cyfyngiadau parhaus yn debygol o barhau ar ryw ffurf i mewn i’r hydref, a allai effeithio’n sylweddol ar nifer yr ymwelwyr â’r ddinas a’r lleoliadau y gellir eu defnyddio.
“Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn ergyd galed i bawb, ac er ei bod yn siomedig gorfod gohirio, teimlwn mai dyma’r peth iawn i’w wneud yn yr hinsawdd sydd ohoni i sicrhau bod y llwybr cystal ag y gall fod i bawb sy’n ymweld. Drwy symud y digwyddiad i dymor y gwanwyn 2022, gallwn sicrhau ei fod yn llwyddiant a chodi arian i barhau i wella lles cŵn yng Nghymru.
“Rydym yn parhau i gynllunio’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni a hoffem glywed gan fusnesau a hoffai noddi Snoopy yn ogystal ag artistiaid sy’n awyddus i wneud eu marc ar y ci mwyaf eiconig yn y byd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.adogstrail.org.uk.“