Neidio i'r prif gynnwys

CYNLLUNIWCH EICH GWYLIAU GARTREF YNG NGHAERDYDD

Cynigion, Bargeinion a Gwybodaeth Am Ddiogelwch Gwestai Caerdydd

Ydych chi wedi syrffedu ar yr un pedair wal? Os felly, rydym yn credu ei bod yn hen bryd i chi gael gwyliau gartref diogel yng Nghaerdydd! Nawr bod mesurau COVID19 yn caniatáu i westeion aros mewn llety hunangynhwysol, efallai eich bod yn ystyried dianc am ychydig ddyddiau.  Rydym yn credu nad oes rhaid mynd i ffwrdd i gael hoe.

Rydym wedi llunio rhestr o becynnau, disgowntiau a gwybodaeth am ddiogelwch i roi hyder i chi a’ch helpu i gynllunio eich gwyliau gartref gorau yng Nghaerdydd.

 

Park Plaza

Mae Park Plaza Caerdydd yng nghanol y ddinas a bydd gwesteion yn teimlo’n gartrefol ym moethusrwydd cain y gwesty pedair seren soffistigedig hwn.

Gwyliau'r Pasg

Dihangwch rhag diflastod y cyfnod clo a sbwylio’ch hun gyda noson yn y Park Plaza, gyda the prynhawn blasus wedi’i fwynhau ym mhreifatrwydd eich ystafell foethus eich hun.

Mae ein pecynnau yn cynnwys:

  • Te Prynhawn Traddodiadol wedi’i weini i’ch ystafell
  • Gwydraid am ddim o fizz
  • Dŵr Mwynol
  • WIFI am ddim
  • Llety un noson gyda brecwast ysgafn

£62.50 y pen y noson yn seiliedig ar 2 berson yn rhannu; £105.00 y noson i un person  (Ar gael rhwng 27 Mawrth a 11 Ebrill, 2021)

Archebwch ar 02920 111111 neu e-bostiwch reception@parkplazacardiff.com

Gwely a Brecwast y Gwanwyn

Cynlluniwch eich taith i ddianc y Gwanwyn hwn ac ymunwch â ni i ymlacio!

Sbwyliwch eich hun gyda noson yn y Park Plaza gyda chinio a diodydd yn yr ystafell. Defnyddiwch y gwesty fel man cychwyn i fanteisio ar y parciau lleol, safleoedd hanesyddol ac o 12 Ebrill, siopa ynghanol y ddinas.

Mae ein pecynnau yn cynnwys:

  • Llety un noson gyda brecwast ysgafn
  • WIFI am ddim
  • Dŵr Mwynol
  • Moethus ac ymlaciol

£89.00 yr ystafell, y noson yn seiliedig ar 2 berson yn rhannu; £85.00 y noson i un person.  (Ar gael rhwng 27 Mawrth a 30 Ebrill, 2021)

Archebwch Ar-lein neu ffoniwch y gwesty’n uniongyrchol ar 02920 111 111 neu e-bostiwch: reception@parkplazacardiff.com

Gwybodaeth am Ddiogelwch Park Plaza

Mae’r gwesty wedi cael cydnabyddiaeth safonol y diwydiant, “Barod i Fynd,” gan Visit Britain sy’n profi bod gennym brosesau clir ar waith ac ein bod yn dilyn canllawiau’r diwydiant a Llywodraeth Cymru ar lendid ac ymbellhau cymdeithasol.

Mae Gwesty’r Fro mewn 650 erw o gefn gwlad prydferth Cymru; profiad golff, gwesty a sba pedair seren – nid dim llai nag ysblennydd.

Swper, Gwely a Brecwast o £145

Rydym nawr ar agor a’r gwanwyn yw’r amser perffaith i fwynhau dihangfa foethus i’r Vale Resort. Yn ystod eich arhosiad, gallwch fwynhau crwydro harddwch De Cymru – ry’n ni dafliad carreg o lwybrau cerdded anturus, llwybrau arfordirol trawiadol a thraethau hardd.

Gallwch hefyd fwyta’n dda gyda’n bwydlen cludfwyd Pedwar Ban Byd a weinir i’ch ystafell, y mae llawer ohonynt yn cynnwys balconi fel y gallwch fwynhau golygfeydd ysblennydd o fryniau hyfryd Cymru. Arhoswch gyda ni o’r 12fed o Ebrill a gallwch ddewis bwyta’n al fresco ar ein teras yng nghefn y gwesty, yn edrych dros ein cyrsiau golff pencampwriaeth.

I archebu ewch i https://www.valeresort.com/offers/spring-dinner-bed-breakfast-break-from-145-per-couple/

Gwybodaeth am ddiogelwch

Yn ystod y cyfnod rhyfedd ac anodd hwn lles a diogelwch ein gwesteion a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth. Mae nifer o addasiadau wedi’u gwneud ledled y safle gan gynnwys glanhau trylwyr, gorsafoedd diheintio mewn mannau cyhoeddus, diheintydd dwylo personol yn yr ystafell, system coridor unffordd, arwyddion ymbellhau cymdeithasol a llawer mwy.
Rhagor o wybodaeth yma: Eich Diogelwch | Vale Resort

Mercure Gogledd Caerdydd

Mae Gwesty Mercure Gogledd Caerdydd dafliad carreg o ganol dinas Caerdydd a’i holl atyniadau, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, a Bae Caerdydd – dewis ardderchog i westeion. Mae 132 ystafell wely’r gwesty wedi’u hadnewyddu ac yn cynnig gwelyau cyffyrddus, cawodydd pŵer, setiau teledu 46 modfedd a Wi-Fi am ddim, sy’n golygu y gallwn roi gwarant o gysur!

Swper Am Ddim

Os archebwch chi i aros gyda ni yn ystod mis Ebrill, Mai a Mehefin, mae eich swper arnom ni (swper un cwrs fesul gwestai, fesul arhosiad).

Cliciwch yma i archebu: Gwesty yng Nghaerdydd – Gwesty Mercure Gogledd Caerdydd – ALL (accor.com)

Yn amodol ar argaeledd, ddim i’w ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gynnig arall, telerau ac amodau’n berthnasol.

(caniateir teithio anhanfodol yn unol â chyfyngiadau COVID-19 presennol y llywodraeth)

Gwybodaeth am Ddiogelwch

I roi tawelwch meddwl i’n gwesteion, mae’r gwesty wedi bod ar agor drwy gydol y pandemig ac mae mesurau #allsafe Covid Mercure ar waith yn y gwesty. Mae gan y gwesty achrediad #goodtogo hefyd. Mae’r gwesty’n glynu wrth ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru felly gwiriwch y rhain ar yr adeg archebu.

Future Inn Cardiff Bay boasts 197 spacious, air-conditioned en-suite bedrooms with all the amenities you would expect of a 4-star hotel.

Cardiff Easter Break

Available between 27th March and 19th April 2021.

  • Overnight stay
  • Full Welsh breakfast
  • Taste of Wales Afternoon Tea
  • All for £57 per person!

Tel: 02920 487111 / Email: reservations.cardiff@futureinns.co.uk / Select ‘Cardiff Easter Break’ when booking online.

Safety Information

“As an increased precaution and protection for our staff and our guests, from the 21st of September 2020 Future Inns will be conducting contactless temperature checks upon arrival at our hotels. Upon check in to the hotel, or for non-residents using our restaurants our reception team will carry out contactless temperature checks for all guests. Should any guest fail a temperature check they will be offered a second check after 15 minutes. In the event of a failed second temperature check, guests will unfortunately not be permitted to stay at the hotel and their reservation will be cancelled free of charge.”

Mae ein 122 ystafell fwtîc hyfryd yn adlewyrchu tamaid o’r brifddinas yn eu cynllun unigryw eu hunain.

Profiad Bwyta yn yr Ystafell

Un aelwyd yn unig.

Pecyn yn cynnwys:

  • Uwchraddio am ddim i ystafell well
  • Potel o Prosecco wrth gyrraedd
  • Bwyta yn yr ystafell – bwydlen 3 chwrs (atodedig)
  • Brecwast yn Bute & Co y bore canlynol

Cliciwch yma i archebu neu ffonio gwesty yn uniongyrchol ar 02920 102711. Ar gael tan 31 Mai 2021.

Gwybodaeth am Ddiogelwch Gwesty Indigo:

Gan gydnabod yr ansicrwydd parhaus a chynyddol y mae coronafeirws (COVID-19) yn ei achosi ledled y byd, ein prif flaenoriaeth yw iechyd a lles ein gwesteion a’n gweithwyr.  O gofio hynny, rydym am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau yr ydym wedi’u cymryd mewn ymateb i’r pandemig. I ddarllen yr adroddiad ymgynghorol teithio llawn, cliciwch yma.

Mae Gwesty voco Dewi Sant Caerdydd wedi’i leoli mewn man anhygoel ym Mae Caerdydd, gyda golygfeydd gwych o’r bae a Marina Penarth.

Gwerthiant y Gwanwyn

Arhoswch yn hirach Arbedwch Fwy.  Mae anturiaethau’n aros.

Nawr yw’r amser perffaith i gynllunio eich anturiaethau gyda’n Harwerthiant Gwanwyn. Archebwch ddihangfa y gwanwyn neu’r haf hwn a mwynhewch 30% oddi ar arosiadau o 3 i 14 noson.  Felly beth am aros yn hirach ac arbed mwy.

Archebwch erbyn 11 Mai ac arhoswch cyn 5 Medi 2021.  Telerau’n berthnasol*.  Cliciwch yma. i ymuno.

Gwybodaeth am Ddiogelwch Voco Dewi Sant:

Wrth i’r byd addasu i normau a disgwyliadau teithio newydd, rydym yn gwella’r profiad i chi – westeion ein gwesty – drwy ailddiffinio glendid a chefnogi eich lles drwy gydol eich arhosiad. Rydym wedi ehangu ein hymrwymiad i lendid, darllenwch Yma

Gwesty’r Clayton yw un o westai mwyaf canolog y ddinas, ger rhai o olygfeydd mwyaf eiconig Caerdydd, siopau a hybiau busnes.

Cysurau’r Cyfnod Clo

AR GAEL:  27 Mawrth 2021 – 16 Mai 2021

Mwynhewch y noson orau bosib i mewn o £95 yn unig! Mae pecyn Cysurau’r Cyfnod Clo yn cynnwys swper tri chwrs a photel o swigod yn eich ystafell wely am brofiad ciniawa clyd a brecwast y bore wedyn yn eich ystafell.

Peidiwch ag aros… archebwch y fargen hon heddiw. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael!

  • Pryd nos tri chwrs Tabl d’Hote a photel o swigod wedi’i weini i’ch ystafell wely.
  • Brecwast llawn yn eich ystafell gan gynnwys ein ‘Brecwast Bywiogrwydd’
  • Wi-Fi am ddim drwy’r gwesty.
  • Canslo am ddim hyd at 2pm y diwrnod cyn cyrraedd.
  • Cysylltwch â ni neu cliciwch Yma i archebu amser ar gyfer swper a brecwast.

Cofrestrwch ar Click on Clayton i dderbyn gostyngiad pellach o £10 y noson oddi ar eich arhosiad.

Chwarae Chwarae

Mae Gwesty Clayton yn cyflwyno'r diweddaraf mewn technoleg ystafell lân uwch - system glanweithdra bwrpasol o'r enw Anolyte fogging, sy'n cynnig haen ychwanegol o ddiheintio i westeion er mwyn rhoi hyder iddynt yn eu diogelwch pan fyddant yn aros yma.

Mae Hilton Caerdydd wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, gyferbyn â Chastell Caerdydd.

Cynnig Breuddwydiol i Deuluoedd

Cynnig Breuddwydiol i Deuluoedd

Archebwch eich gwyliau gyda’r hyblygrwydd mae ei angen arnoch ac arbed hyd at 20% oddi ar y cyfraddau arferol. Gallwch ganslo am ddim hyd at 24 awr cyn cyrraedd, ac nid oes angen blaendal. Mwynhewch ystafelloedd teulu mawr.  Caiff plant 5 oed ac iau fwyta am ddim ac mae bwydlen flasus ar gael i blant 6 i 12 oed. Hefyd, gallwch drefnu sesiwn nofio i’ch teulu a mwynhau’r pwll cynnes dan do.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch hyd yn oed drefnu sesiwn yn yr Ystafell Gemau a Ffilmiau i Deuluoedd? Ar gael yn rhad ac am ddim ac yn llawn popgorn a lluniaeth. Cadwch leyma.

Gweithio o’r Hilton Caerdydd o £63 y dydd.

Pan nad yw’r soffa’n gweithio i chi mwyach, mae ystafelloedd gwesteion yr Hilton gyda desgiau gwaith ar gael i’w defnyddio yn ystod y dydd. Os oes angen i chi ganolbwyntio ar brosiect mawr, cynnal cyfarfod ar-lein heb unrhyw ymyrraeth neu ddim ond angen lle cyfforddus i ganolbwyntio.  Cadwch leyma.

Mae Gwesty’r Angel yn eiddo Fictoraidd coeth a mawreddog gyda 102 o ystafelloedd gwely en-suite traddodiadol a naw ystafell gyfarfod a digwyddiadau.

Pecyn Pizza a Prosecco o £75

Arhosiad dros nos, brecwast y bore canlynol, gan gynnwys pizza a Prosecco i’ch ystafell erbyn 9.45pm! Cod Promo:  GBB. Archebwch ar-lein yma.

Cynnig Teulu Gwych Cymreig o £75

Gwyliau gartref gwely a brecwast gydag opsiwn i blant fwynhau swper am ddim gyda dau oedolyn sy’n talu. Cod Promo:  GBB

Gwybodaeth Diogelwch Gwesty'r Angel

Dysgwch sut mae Gwesty’r Angel Caerdydd yn cadw eu gwesteion a’u staff yn ddiogel yn ystod y pandemig gyda’u haddewid ‘arhoswch gyda hyder’.