Beth wyt ti'n edrych am?
Popeth y mae angen i chi ei wybod wrth i Fwytai a Bariau agor ar gyfer Bwyta yn yr Awyr Agored yng Nghaerdydd

Er bod cawodydd yn bosibl yr wythnos hon bydd y rhan fwyaf o leoliadau wedi gosod ymbareli a gasebos mawr i’ch cadw’n sych ac yn glyd. Ond cofiwch ganslo eich bwrdd ymlaen llaw os byddwch yn dewis aros gartre.
Pryd mae lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghaerdydd a Chymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd lletygarwch awyr agored yn ailagor yng Nghymru ddydd Llun 26 Ebrill, ar ôl gweld cyfraddau heintio’r Coronafeirws yn lleihau ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf. O 26 Ebrill gall lletygarwch awyr agored ailagor, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai, bariau a bwytai. Mae atyniadau awyr agored hefyd wedi cael sêl bendith i ailagor ar yr un dyddiad.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi y bydd chwech o bobl o unrhyw nifer o aelwydydd yn gallu cwrdd yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill.
Beth i’w ddisgwyl

Cofiwch y gallai Canol y Ddinas fod yn brysur wrth i letyaeth awyr agored ailagor. Er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, mae capasiti cyfyngedig yn debygol o fod ar waith a allai ei gwneud yn anodd cael bwrdd os nad ydych yn archebu ymlaen llaw. Manteisiwch ar unrhyw orsafoedd diheintio dwylo yn y ddinas ac wrth y mynedfeydd i fusnesau manwerthu a lletygarwch.
Os bydd angen cymorth arnoch, bydd gan Gyngor Caerdydd stiwardiaid diogelwch yn y prif ardaloedd siopa a cherddwyr a fydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Hefyd bydd cenhadon Caerdydd AM BYTH yn patrolio o amgylch Canol y Ddinas i helpu ymwelwyr (byddant yn gwisgo coch). Angen map y gellir ei lawrlwytho? Cliciwch yma.
Beth i’w gofio

- Golchwch eich dwylo
- Gwisgwch orchudd wyneb lle bo’n briodol
- Cadwch bellter cymdeithasol
Pa fusnesau lletygarwch fydd yn agor o 26 Ebrill?
Cofiwch nad yw hon yn rhestr ddiffiniol. Er mwyn osgoi cael eich siomi, edrychwch ar wefannau swyddogol unrhyw fariau, bwytai neu gaffis yr hoffech fynd iddynt ar gyfer eu dyddiadau a’u horiau agor. Rydym yn argymell yn gryf y dylid cadw bwrdd ymlaen llaw.
The Botanist
Heol yr Eglwys

Dewch i ddarganfod gardd gudd o fwyd a diod, lle mae Botanegwyr wedi bod yn fforio ym mhob twll a chornel i ddod â beth toreth o ddanteithion bwyd a diod eithriadol i chi. Does unman yng Nghaerdydd fel The Botanist, gyda gardd do wych, coctels arbennig a bwyd blasus.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Brewhouse and Kitchen
Gerddi Sophia
Mae gan Brewhouse and Kitchen un o’r gerddi cwrw mwyaf yn y ddinas, ac mae yno hyd yn oed seddi dan orchudd ar ffurf cytiau traeth wedi’u hail-lunio. Mae’n agos at Erddi Sophia ac mae’n hawdd cyrraedd yno o Ganol y Ddinas ar hyd llwybr braf trwy Barc Bute. Mae gan Brewhouse and Kitchen enw am gynnig ystod eang o gwrw a bwyd tafarn clasurol.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Chapter Arts Centre
Treganna
Bydd Canolfan Gelfyddydau Chapter yn agor y tu allan am fwyd a diod o 26 Ebrill gyda phabell wych o flaen yr adeilad a seddi ychwanegol dan orchudd a gwresogyddion yn yr ardd gwrw.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
The Coconut Tree
Lôn y Felin

Bydd y bar a’r bwyty Sri Lancaidd arobryn sy’n adnabyddus am ei brydiau bach hynod flasus wedi’u hysbrydoli gan fwyd stryd yn ailagor ei ardal ginio awyr agored ar Lôn y Felin o 26 Ebrill. Mae The Coconut Tree hefyd wedi cadarnhau estyniad i’w cynnig ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’ – gostyngiad 50% o ddydd Llun i ddydd Mercher, tan 31 Ionawr 2022.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Corporation Yard
Treganna
Mae Corporation Yard yn adnabyddus am gynnal digwyddiadau untro poblogaidd yn Nhreganna ac ar hyn o bryd mae’n cynnal nifer o fusnesau bwyd stryd. Maent wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd y lle yn cael ei adnewyddu, er mwyn cynnwys mwy o seddi awyr agored, a bar awyr agored newydd â trwydded. Os ydych chi am roi cynnig ar rywle newydd a chefnogi busnesau annibynnol lleol, mae’n bosibl mai hwn fydd y lle i chi.
Sut mae archebu:Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
DEPOT
Williams Way

Mae lleoliad digwyddiadau warws annibynnol mwyaf Caerdydd yn ailagor o 26 Ebrill ar gyfer dychweliad eu digwyddiad poblogaidd ‘Street Food Social’. Cynhelir y digwyddiad yn yr awyr agored gyda byrddau dan orchudd a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith ynghyd â bar gyda thrwydded lawn, a bydd yn cynnwys rhai o’r masnachwyr bwyd stryd gorau yn ne Cymru.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Eli Jenkins
Bae Caerdydd
Bydd Eli Jenkins, y dafarn fwyd boblogaidd ym Mae Caerdydd, yn ailagor ei gardd gwrw steilus ac eang o 26 Ebrill, gyda phrisiau da ar fwyd a diod. Os ydych chi’n bwriadu mynd am ddiod yn yr haul ym Mae Caerdydd cyn bo hir, ystyriwch gadw eich bwrdd ymlaen llaw er mwyn osgoi siom.
Sut mae archebu: Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Gin and Juice
Stryd Fawr

Bydd Gin and Juice, bar jin pwrpasol wrth fynedfa Arcêd y Castell, hefyd yn ailagor. Cewch yno goctels jin arbenigol, cwrw potel arbennig, a diodydd meddwol blasus eraill gyda’r nos. Yn ystod y dydd, maen nhw’n gweini brecwast iach anhygoel, cinio a swper ysgafn ynghyd â sudd wedi’i wasgu’n ffres i buro ac adfywio’r corff.
Sut mae archebu:Yn ôl eu tudalen Facebook, ni fydd y bar yn cymryd unrhyw archebion ar y 26. Bydd hi’n fater o gyrraedd a gofyn.
Juniper Place
Stryd Fawr
Os ydych chi’n hoff o jin crefft, efallai yr hoffech chi gadw bwrdd yn Juniper Place. Mae ar y Stryd Fawr yng nghanol dinas Caerdydd, dafliad carreg o’r Castell, nid dim ond jin sydd ar gael chwaith. Fe welwch amrywiaeth o opsiynau bwyd ar gael o amser brecwast tan amser cinio.
Sut mae archebu? Mae eu gwefan dweud mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu yn ardal awyr agored Caerdydd ond gellir cadw bwrdd y tu mewn o ddydd Llun 31 Mai ymlaen.
Las Iguanas
Mill Lane & Mermaid Quay

Bydd Las Iguanas, sy’n cynnig bwyd a choctels ffres a fel y gwreiddiol o Frasil, Mecsico a gwledydd eraill yn America Ladin, yn ailagor ar 26 Ebrill. Maent yn cynnig 2 goctel am 1 trwy’r dydd bob dydd ac mae eu bwydlen frecwast bellach ar gael bob dydd – gan gynnwys brecinio diderfyn.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Laguna Kitchen and Bar
Heol y Brodyr Llwydion
Mae Laguna Kitchen and Bar yng ngwesty Park Plaza yn gweini bwyd a diod gyda thipyn o steil. Cadwch fwrdd ar eu teras i fwynhau te prynhawn traddodiadol, coctels clasurol, yn ogystal â phrydau Prydeinig modern à la carte.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Mermaid Quay
Bae Caerdydd

Yng Nghei’r For-forwyn cewch ddewis anhygoel o leoedd i fwyta ac yfed y tu allan gyda thoreth o fwytai poblogaidd gan gynnwys Nando’s, Hub Box, Pizza Express, Cosy Club, a mwy i ddewis rhyngddynt. Mae hynny heb sôn am olygfeydd eiconig dros Fae Caerdydd o’r bwytai!
Sut mae archebu: Gallwch ddod o hyd i restr o fwytai ac archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Old Havanah
Stryd Fawr
Bydd y bar a’r bwyty Ciwbaidd yn Ardal y Castell yn ailagor ei ardal yfed a bwyta awyr agored ar 26 Ebrill. Mae gan Old Havana ddiodydd a choctels gwych, golygfa ar Gastell Caerdydd a lleoliad canolog
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Peppermint
Lôn y Felin

Bydd bar a bwyty Peppermint yn ailagor eu teras gardd i’r cyhoedd o 26 Ebrill. Mae gan y sefydliad bar coctels a chegin poblogaidd rywbeth at ddant pawb, gyda rhestr goctels newydd sbon y maent wedi bod yn gweithio arni dros y cyfnod cloi a dewisiadau bwyd sy’n amrywio o pizza a phasta i fwyd stryd a salad.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
The Pen & Wig
Llwyn y Parc
Mae The Pen & Wig yn dafarn sy’n boblogaidd iawn ymhlith pobl leol ac mae’n adnabyddus am ei gardd gwrw wych. Dydy hi ddim ond taith fer ar droed o brif strydoedd siopa Caerdydd, yn swatio’n agos at Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Os ydych chi’n hoffi cwrw go iawn, yna rhaid i chi ymweld â’r dafarn hon!
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Pitch Bar and Eatery
Lôn y Felin
Mae’r bar a bwyty annibynnol sy’n falch o weini bwyd Cymreig syml, gonest a modern gan ddefnyddio cynnyrch lleol o ansawdd da yn ailagor o 26 Ebrill. Ar agor o frecwast tan yn hwyr iawn yn y nos. Mae cadw lle’n hanfodol ond mae bob amser ychydig o fyrddau’n cael eu cadw’n rhydd ar gyfer pobl sy’n galw heibio ar fympwy.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Pieminister
Heol Eglwys Fair

Bydd Pieminister ar Heol Eglwys Fair, sy’n enwog am ei basteiod arobryn gyda tatws stwnsh, pys a mwy, yn ailagor ei ardal fwyta y tu allan o 26 Ebrill. Os ydych wir eisiau bwyta yma, rydym yn argymell archebu ymlaen llaw oherwydd prinder byrddau.
Sut mae archebu: Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Pontcanna Inn
Heol y Gadeirlan
Mae Pontcanna Inn ger Gerddi Sophia, daith gerdded fer o Gastell Caerdydd. Mae’n cynnig seddi y tu allan o flaen yr adeilad, a gardd gwrw hyfryd yn y cefn. Mae Pontcanna Inn yn gweini’r bwyd iach, cysurus gorau gydag amrywiaeth o ddiodydd. Angen lle i aros? Maent hefyd yn cynnig llety hyfryd, bwtîc.
Sut mae archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Turtle Bay
Heol Eglwys Fair
Os ydych chi’n dwlu ar fwyd a cherddoriaeth y Caribî, rhaid i chi ymweld â Turtle Bay. Mae Turtle Bay yn dod ag ychydig o baradwys ynys i Gaerdydd gyda’i awyrgylch gwych, a bwyd sydd hyd yn oed yn well! Peidiwch â chael siom, archebwch fwrdd cyn dod.
Sut mae archebu: Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Pho Cafe
Heol yr Eglwys

Mae Pho Cafe’n gweini bwyd stryd ffres ac iach o Fietnam o’u lleoliad newydd yng nghanol y ddinas ar Heol yr Eglwys. Mae Pho Cafe yn fwyty Fietnamaidd â bwydlen amrywiol lle gallwch ddewis o gawl nwdls pho, cyri, salad, powlenni reis, a llawer mwy.
Sut i archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
Gardd Cwrw Fuel a The Grand Bar and Kitchen
Stryd Womanby
Bydd Fuel Rock Club yn agor ardal awyr agored newydd gerllaw eu clwb adnabyddus ar Stryd Womanby. Gan weini eich hoff gwrw roc a rôl, gan gynnwys Iron Maiden’s Trooper, Motorhead’s Road Crew a Beavertown Gamma Ray, mae Fuel yn ymuno â’u cymdogion newydd ar y stryd, The Grand Bar a Kitchen, a fydd yn dod â chwrw crefft a bwyd stryd blasus gydag arlliw Cymreig.
Sut i archebu? Gallwch archebu ar-lein trwy eu gwefan yma.
The Grange
Grangetown
Mae The Grange yn dafarn boblogaidd gan bobl leol sy’n adnabyddus am weini cwrw crefft, cwrw go iawn a bwyd cartref. Mae gan y dafarn draddodiadol yn Grangetown un o’r gerddi cwrw mwyaf trawiadol a helaeth yng Nghaerdydd ac enillodd Dafarn y Flwyddyn #CAMRA yn 2018.
Sut i archebu? Gallwch archebu trwy e-bostio info@thegrangecardiff.co.uk
The Lookout
Bae Caerdydd
Mae The Lookout ym Mae Caerdydd wedi cael ei weddnewid a’i hadnewyddu’n llawn ac mae bellach dan reolaeth newydd. Mae gan far coctels y glannau un o’r golygfeydd gorau yn y Bae, ac yn yr haf, mae’n lle gwych i wneud y gorau o’r haul gyda’r hwyr. Mae hefyd yn croesawu cŵn.
Sut i archebu? Gallwch archebu trwy e-bostio lookoutbar.cardiff@gmail.com
Gwnewch noson ohoni

Os ydych chi’n bwriadu siopa, sbwyliwch eich hun i noson yn un o westai’r Ddinas. Mae Gwesty Indigo wedi’i leoli’n gyfleus ar Heol y Frenhines ymhlith enwau’r Stryd Fawr, ac mae’r Clayton yn daith gerdded fer o’r orsaf drenau. Mae cynigion ar gael ar gyfer pob achlysur, darllenwch ein blog Gwyliau Gartref yma.
Teithio i Gaerdydd
Mae’n bwysig cynllunio eich taith ymhell o flaen llaw gan y bydd capasiti llai ar drafnidiaeth gyhoeddus. Sicrhewch eich bod yn ymweld â gwefan y darparwr cludiant a gwiriwch yr amserlen ddwywaith rhag ofn bod newidiadau cyn cychwyn. Cofiwch eich gorchudd wyneb a diheintydd dwylo!
Darllenwch y cyngor gan ddarparwyr trafnidiaeth ar ein blog teithio a thrafnidiaeth.