Neidio i'r prif gynnwys

Creu Newid: WNO yn archwilio rôl y celfyddydau mewn cyfnod o argyfwng

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi comisiynu a chreu cyfres o ffilmiau o dan y teitl cyfunol Creu Newid, sy’n herio ac yn archwilio rôl y celfyddydau mewn cyfnod o argyfwng.

 

Wedi’i lunio mewn ymateb i bandemig Covid-19, mae pob ffilm yn adlewyrchu rhai gwirioneddau anghyfforddus am anghydraddoldeb ariannol, cymdeithasol a hiliol sydd wedi dod yn fwy cyffredin fyth yn ystod y cyfnod hwn, ond hefyd gyda neges gadarnhaol am wneud newid er gwell.

 

Mae’r pum awdur dan sylw – Sarah Woods, Eric Ngalle Charles, Shreya Sen Handley, Edson Burton a Miles Chambers – i gyd wedi bod yn gweithio gyda WNO ar Migrations; comisiwn opera newydd a oedd i fod i agor yn nhymor yr Hydref 2020, ond sydd wedi’i ohirio tan dymor yr Hydref 2021 oherwydd y pandemig.  Ar gyfer Migrations, dylanwadwyd ar yr awduron gan eu profiadau personol eu hunain o fudo i greu cyfres o straeon am hyder a gwytnwch yr ysbryd dynol a sut mae hyn wedi cyfrannu at amrywiaeth y gymdeithas fodern.  Mae Creu Newid yn ehangu ar hyn drwy godi ymwybyddiaeth o faterion anghydraddoldeb ac anghyfiawnder cymdeithasol sydd wedi’u dyfnhau drwy argyfwng Covid-19 a gofyn beth rydym ni fel unigolion ac ar y cyd fel cymdeithas yn ei wneud i greu newid gwirioneddol.

 

Y pum ffilm yn y casgliad yw:

Death of a Fool gan Edson Burton

The Pledge gan Shreya Sen Handley

Stories for Change gan Sarah Woods

If heaven is her father’s land, her father can keep it, Bones, and Fragments gan Eric Ngalle Charles

A Change Gon Come gan Miles Chambers

 

Mae dwy o’r ffilmiau – The Pledge a Death of a Fool – wedi cael eu datblygu ymhellach a’u gosod i gerddoriaeth gan y ddwy chwaer sy’n canu ac yn cyfansoddi o Gymru Eädyth a Kizzy Crawford.  Mae Eädyth wedi cyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd â The Pledge sy’n cynnwys dawns a chân a berfformiwyd gan y soprano Prydeinig-Indiaidd Natasha Agarwal, sydd â hyfforddiant Bharatanatyam (math o ddawns Indiaidd Clasurol).  Mae Kizzy wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth i gyd-fynd â Death of a Fool, gan ddefnyddio cerddoriaeth Vaudeville a awgrymwyd gan Edson Burton fel ysbrydoliaeth, gyda geiriau’n cael eu canu gan y tenor Ronald Samm.

 

Bydd cerddorion o Gerddorfa WNO yn chwarae ar y ddau ddarn, ac mae’r chwaraewr tabla Pritam Singh o Drumatised hefyd yn ymuno â’r tîm o gerddorion ar gyfer The Pledge.

 

 

Bydd y ffilmiau Creu Newid yn cael eu rhyddhau ar y cyd ar 7 Rhagfyr a byddant ar gael i’w gweld ar wefan WNO.

 

Dywedodd Cynhyrchydd WNO, Maris Lyons: “Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae argyfwng rhyngwladol wedi amlygu’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau yn ein cymdeithas yn fwy nag erioed. Mae twf mewn ansicrwydd economaidd, cymdeithasol a chorfforol wedi newid y tir oddi tanom. Fel sefydliad celfyddydol cenedlaethol sy’n ymateb i her y normal newydd ond sy’n dal i fethu â chyflawni gwaith byw mewn theatrau, rydym yn teimlo’n fwy brwd nag erioed bod dod ag artistiaid a syniadau at ei gilydd drwy ryddid mynegiant, yn ein helpu i wneud synnwyr o fyd ansefydlog. Mae ‘Creu Newid’ yn sgwrs artistig o’r math hwn, lle mae awduron, cyfansoddwyr, cantorion a cherddorion, yn dathlu rôl celf i ail-ddychmygu dyfodol o newid cymdeithasol parhaol.”

 

Dywedodd yr awdur Shreya Sen Handley: “Pan ofynnodd WNO i mi gyfrannu at eu prosiect Creu Newid, cytunais ar unwaith. Nid yn unig am ei fod yn berthnasol iawn i’n cyfnod ac yn bwysig dangos sut y gallwn ni oll wneud rhywbeth i helpu i wella’r sefyllfa yr ydym ynddi, ond hefyd i bwysleisio bod celfyddyd, a ystyrir yn aml, yn annheg, yn ymgais wamal, â chymaint o rôl i’w chwarae wrth godi ein calonau yn ystod y cyfnod tywyll hwn a’n llywio tuag at y golau. Mae’n brosiect cynhwysol iawn ar adeg pan fo angen cynwysoldeb ac undod yn fwy na dim.”

 

Dywedodd Eädyth Crawford: “Mae cyfansoddi’r darnau hyn ar gyfer WNO wedi bod yn her mor gyffrous i mi ac wedi fy ngwthio allan o’m cylch cyfforddus. Mae wedi bod yn fraint cymryd rhan yn y prosiect ac yn gromlin ddysgu wych i mi’n bersonol, ac mae wedi bod yn wych cael cymorth Kizzy ar hyd y ffordd i’m hysbrydoli. Byddai Kizzy a minnau’n cymryd rhan mewn llawer o ddramâu ysgol wrth dyfu i fyny ac yn mwynhau drama a chanu gyda’n gilydd, rhywbeth yr ydym wedi parhau i wneud gyda’n gilydd hyd heddiw. Rydym wedi ceisio cipio cymaint o’r egni a’r angerdd hwn sydd gennym dros ein celfyddyd yn y darnau hyn ac yn bersonol, rwy’n falch iawn o’r canlyniad.”

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad i’r ffilm o 7 Rhagfyr, ewch i wno.org.uk/creatingchange

 

Diwedd

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

  • Opera Cenedlaethol Cymru yw’r cwmni opera cenedlaethol ar gyfer Cymru, a ariennir gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr i ddarparu operâu ar raddfa fawr, cyngherddau a gwaith allgymorth ledled Cymru ac mewn dinasoedd mawr yn rhanbarthau Lloegr. Rydym yn ymdrechu i gynnig profiadau trawsnewidiol drwy ein rhaglen addysgol a chymunedol a’n prosiectau digidol o’r safon uchaf. Rydym yn gweithio â’n partneriaid i ddarganfod a meithrin doniau operatig ifanc, ac rydym yn anelu at ddangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera yn gelfyddyd werthfawr, berthnasol a rhyngwladol gyda’r pŵer i gael effaith ac ysbrydoli

 

 

  • Creu Newid – Crynodeb

 

Death of a Fool

Mae offeiriad yn rhoi sermon ar lan bedd am glown/ffŵl sydd wedi marw. Mae’r ffilm yn archwilio’r hyn yr oedd y ffŵl hwn am ei gyflawni gyda’i grefft a’r hyn a ildiodd yn y gobaith ‘y gallai ei gelfyddyd oleuo cymdeithas’.

 

The Pledge

Mae’r gerdd hon yn cael ei hysbrydoli gan chwedl y dduwies Hindŵaidd, Durga, sy’n dod i lawr o’r Himalaya bob blwyddyn i ailgynllunio ac ailadeiladu ein byd. Mae hefyd yn galw ar ddyngarwch i weithredu er mwyn gwella’r sefyllfa yr ydym ynddi ledled cymdeithas.

 

Stories for Change

Mae Sarah Woods yn siarad yn y ffilm hon am y straeon rydym yn eu hadrodd, eu clywed a sut rydym yn eu dehongli. Mae hi hefyd yn sôn am herio’r straeon hynny ac fel artistiaid, pa mor bwysig yw ‘creu lle ar gyfer gwahanol straeon.’

 

If heaven is her father’s land, her father can keep it, Bones, and Fragments

Mae’r cerddi hyn yn archwilio rôl y celfyddydau mewn trawsnewid cymdeithasol. Mae’r geiriau yn galw am angen sylfaenol i geisio cariad a derbyniad dynol, waeth pwy ydych chi ac o le’r ydych yn dod.

 

A Change Gon Come

Yn y gerdd hon, mae Miles Chambers yn sôn am bobl drwy gydol ein hanes sydd wedi cael effaith ar y gymuned ddu a’r byd. Unigolion sydd wedi ymdrechu i gael eu gweld a’u clywed fel pobl a pheidio â chael eu barnu, eu cosbi na’u lladd dros liw eu croen. Mae’n gorffen siarad am fyd lle nad yw hyn yn bodoli a sut y dylai pawb wneud newid ‘Rwy’n dweud gadewch i ni wneud i hyn ddigwydd, gadewch i ni beidio â phoeni am sut. Gadewch i ni wneud hynny heddiw, gadewch i ni wneud hynny nawr’.

 

 

  • Am ragor o wybodaeth, lluniau neu gyfweliadau cysylltwch â:

 

Rachel Bowyer / Penny James, Rheolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus (rhannu swydd)

029 2063 5038

rachel.bowyer@wno.org.uk / penny.james@wno.org.uk

 

Christina Blakeman, Swyddog y Wasg

christina.blakeman@wno.org.uk