Neidio i'r prif gynnwys

Nile Rodgers & Chic yn Cyhoeddi Sioe Awyr Agored Enfawr yng Nghaerdydd

Bydd tocynnau’n mynd ar werth am 11am ar ddydd Gwener 14 Mai drwy Soundcrashmusic.com

PWY: Nile Rodgers & Chic + Soul II Soul + David Rodigan + Craig Charles + SoulJam DJ‘s

BETH?  Gŵyl diwrnod cyfan yng Nghaerdydd, yn ein lleoliad awyr agored newydd trawiadol!

YNGLŶN Â NILE RODGERS & CHIC

Ymhlith ffigurau chwedlonol y sîn gerddoriaeth, mae Nile Rodgers yn gwbl eithriadol. Yn ogystal â’i lwyddiannau fel cyfansoddwr, cynhyrchydd, trefnwr a gitarydd sydd wedi ennill sawl GRAMMY, mae hefyd yn dal i fentro i diroedd cerddorol newydd yn gyson ac ehangu ffiniau cerddoriaeth boblogaidd yn llwyddiannus. Fel cyd-sylfaenydd CHIC a Chadeirydd newydd y Songwriters Hall of Fame, arloesodd Rodgers gydag iaith gerddorol a arweiniodd at lwyddiannau mawr fel “Le Freak,” (y sengl werthodd fwyaf erioed yn hanes Atlantic Records!) ac fe sbardunodd hefyd ddyfodiad hip-hop gyda “Good Times”.  Mae Nile Rodgers yn pontio pob math o gerddoriaeth ar draws pob cenhedlaeth gyda chorff o waith sydd wedi sicrhau ei le yn y Rock & Roll Hall of Fame a’r Songwriters Hall of Fame.

Yn fwy diweddar, mae wedi ei benodi’n Brif Gynghorydd Creadigol cyntaf erioed Stiwdios chwedlonol Abbey Road ac fe’i cynhwyswyd ym mherfformiadau “gorau’r ŵyl” yn Glastonbury a Coachella. Arweiniodd hyn at y BBC yn enwebu’r band ar gyfer “Perfformiad Byw Gorau” Gwobrau Cerddoriaeth y BBC ac fe ddywedodd yr LA Times “Nile Rodgers influence stretches all over Coachella, beaming the sound of a better future”.

Mae ei waith yn Sefydliad CHIC a’i gynyrchiadau ar gyfer artistiaid fel David Bowie, Diana Ross, a Madonna wedi gwerthu dros 500 miliwn o albymau a 75 miliwn o senglau ledled y byd, ac mae ei gerddoriaeth ar y cyd â Daft Punk, Avicii, Sigala, Disclosure, a Sam Smith yn adlewyrchu goreuon cerddoriaeth gyfoes.  Gwnaeth Nile Rodgers & CHIC ryddhau eu halbwm stiwdio cyntaf ers 26 mlynedd yn ddiweddar, “It’s About Time”. Cafodd ganmoliaeth frwd a chyrraedd 10 Uchaf siartiau albymau’r DU.

Caerdydd – Dydd Sul 19 Medi, Pentir Alexandra, Bae Caerdydd

The Soundcrash Funk and Soul Weekender yn cyflwyno diwrnod arbennig iawn o Disgo, Soul Reggae a Funk.  Bydd Nile Rodgers & Chic yn perfformio yn y lleoliad awyr agored newydd sbon ym Mhentir Alexandra, Bae Caerdydd mewn digwyddiad enfawr diwrnod cyfan.  Yn ymuno â nhw ar y diwrnod bydd chwedlau Soul y DU, Soul II Soul, Craig Charles, David Rodigan a llawer mwy!

TOCYNNAU:

Bydd tocynnau ar gyfer Nile Rodger & Chic yn mynd ar werth i’r cyhoedd ar ddydd Gwener 14 Mai am 11am ar Soundcrashmusic.com

NILE RODGERS & CHIC

Dydd Sul 19 Medi, Pentir Alexandra, Bae Caerdydd