Beth wyt ti'n edrych am?
GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR MIS MAI 2021
Prin o syniadau ar gyfer pethau i’w gwneud â’r plant dros YR hanner tymor?
Cymerwch olwg ar ddim ond rhai o’r tanllwyth o bethau sydd i’w gwneud yng Nghaerdydd yn ystod Gwyliau Ysgol mis Mai:
CHWARAE’N FLÊR YNG NGHASTELL CAERDYDD
Gwnewch eich marc ar o gerflun Snoop a gynlluniwyd gan fyfyrwyr Prifysgol De Cymru a chewch weld eich gwaith celf yn ymddangos yn A Dog’s Trail gan Dogs Trust
Mae angen archebu, gwnewch hynny yma.
GOSTYNIAD 50% AR GYFER TEULUOEDD YN HOLLYWOOD BOWL
Mae ar agor o 9am yng Nghanolfan y Ddraig Goch ac os ydych chi’n archebu ac yn bowlio cyn 11am cewch 50% i oddi ar y pris wrth ddefnyddio cod EARLYBIRD2150.
YSGOL BÊL-DROED CLWB PÊL-DROED DINAS CAERDYDD
Hyfforddwch fel yr Adar Gleision yr hanner tymor y Sulgwyn hwn gyda’r ysgol bêl-droed pedwar diwrnod yn cael ei chynnal yn y Tŷ Chwaraeon.
EWCH I YMWELD Â CHASTELL CAERDYDD WRTH IDDO AILAGOR
Castell Caerdydd
Beth am grwydro’r Castell ar eich cyflymder eich hun? Dringwch y Gorthwr Normanaidd, ewch i’r Firing Line a’r Llochesi Rhyfel, darganfyddwch yr olion Rhufeinig a rhyfeddwch ar Ystafelloedd y Castell.
RHAFFAU UCHEL COEDLAN YN AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN
Dewch i ddringo, siglo, cydbwyso a simsanu eich ffordd trwy’r coed a gweld golygfeydd ar Sain Ffagan fyny fry cyn gwibio yn ôl i’r ddaear ar y wifren.
RAFFTIO I’R TEULU YNG NGHANOLFAN DŴR GWYN RYNGWLADOL CAERDYDD
Archebwch brofiad teuluol gwefreiddiol i gael dos o hwyl a sbri yn y dyddiau hynny i ffwrdd o’r ysgol yr Hanner Tymor hwn.
MARCHNAD GELF A CHREFFT Y SULGWYN
Mwynhewch frownis siocled, pice ar y maen cynnes a llawer mwy ar lefel uchaf Plass Roald Dahl, Bae Caerdydd rhwng 29 a 31 Mai.
SIOE THEATR HOOF YNG NGHANOLFAN GELFYDDYDAU CHAPTER
Antur hudol i’r golau mawr gyda Theatr Iolo a Kitsch & Sync gyflwyno: HOOF!