Neidio i'r prif gynnwys

#DREIGIAUCYMRU – EICH ARWYR CYMRU LEDLED Y WLAD!

Fel rhan o gyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer pencampwriaeth UEFA EURO 2020, mae CBDC, mewn partneriaeth efo Cadw, wedi lansio ymgyrch arbennig ledled y wlad dros yr haf.

Fe laniodd 26 draig, #DreigiauCymru, mewn meysydd hanesyddol ar draws Cymru dros y dyddiau cyn i’r garfan cael ei gyhoeddi ar ddydd Sul 30 o Fai. Mae pob chwaraewyr sydd wedi cael y fraint o gynrychioli Cymru yn y bencampwriaeth wedi cael ei phenodi ar gyfer castell neu faes ledled y wlad. Gall cefnogwyr ymweld â’r dreigiau a chadw nodyn o’i hantur trwy gofnodi’r ymweliad mewn llyfr sticeri digidol ar TogetherStronger.Cymru.

Gall cefnogwyr ymweld â’r dreigiau yn ystod y bencampwriaeth a rhannu hunlun a’r cyfryngau cymdeithasol trwy rannu’r hashnod #DreigiauCymru. Fydd y wefan TogetherStronger.Cymru hefyd yn dangos gweithgareddau CBDC a fydd yn digwydd yn yr ardal leol yn ogystal â gwybodaeth amdano’r maes hanesyddol â’r chwaraewr mae’r ddraig yn cynrychioli.

Mae CBDC yn gweld hanes a diwylliant Cymru, yn ogystal â’r iaith Cymraeg, yn rhan bwysig o’r Gymdeithas a bwriad y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth amdano hanes Cymru trwy annog cefnogwyr i ymweld â meysydd Cadw. Bydd Cadw yn cynnig ad-daliad 20% ar gyfer aelodaeth Cadw i unrhyw aelod o’r Wal Goch yn ystod y bencampwriaeth.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio ar gyfer amgylchedd hanesyddol hygyrch sydd wedi’i ddiogelu’n dda er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Cyflawnir hyn drwy gyflawni prosiectau cadwraeth uchelgeisiol i sicrhau bod treftadaeth adeiledig y wlad yn parhau i gefnogi lles economaidd Cymru, a gweithio’n agos gyda phartneriaid o’r un anian ― fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ― i annog pobl Cymru a thu hwnt i goleddu a mwynhau safleoedd hanesyddol Cymru.

Ewch i weld pa safleoedd sydd yn cymryd rhan a chasglwch eich #DreigiauCymru heddiw!

#DreigiauCymru locations

Castell Coch Cilgerran Castle
Caerphilly Castle Strata Florida Abbey
Caerleon Roman Fortress and Baths Harlech Castle
Chepstow Castle Criccieth Castle
Tintern Abbey Caernarfon Castle
Raglan Castle Beaumaris Castle
Blaenavon Ironworks Plas Mawr
Tretower Court and Castle Conwy Castle
Cardiff Castle Rhuddlan Castle
Ogmore Castle Flint Castle
Kidwelly Castle Denbigh Castle
Laugharne Castle Neath Abbey and Gatehouse
St Davids Valle Crucis Abbey