Neidio i'r prif gynnwys

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Dychweliad i Berfformiadau Byw gyda’r opera deuluol Alice’s Adventures in Wonderland

Opera Cenedlaethol Cymru yn Cyhoeddi Dychweliad i Berfformiadau Byw gyda’r opera deuluol Alice’s Adventures in Wonderland.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi y bydd y Cwmni yn dychwelyd i berfformiadau byw gyda pherfformiadau awyr agored o gynhyrchiad Will Todd o’r opera deuluol Alice’s Adventures in Wonderland yr haf hwn.

Dathlodd WNO ei phen-blwydd yn 75 oed ar 15 Ebrill eleni a bydd yn dechrau perfformio’n fyw a chychwyn ar ei  75ain Tymor dathliadol gyda chynhyrchiad lliwgar o stori enwog Lewis Carroll mewn opera a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd yn wreiddiol gan Opera Holland Park. Hwn fydd dychweliad cyntaf y Cwmni i’r llwyfan yn perfformio o flaen cynulleidfa gyhoeddus yn dilyn ffocws y flwyddyn ddiwethaf ar weithgarwch digidol ac ar-lein.

Bwriedir cynnal perfformiadau rhwng 25 Mehefin hyd at 3 Gorffennaf yng Ngerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Caerdydd ym Mro Morgannwg.

Bydd hanes clasurol anturiaethau Alice yn dod yn fyw yn yr opera deuluol hynod hon. Mae sgôr Will Todd, a berfformir gan gerddorfa fach, yn gymysgedd o arddulliau jazz, sioe gerdd ac opera, ac yn cyd-fynd yn berffaith â’r libretto i greu stori hwyliog a difyr sy’n ffyddlon i’r llyfr gwreiddiol. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal rhaglen o weithgareddau i deuluoedd i gyd-fynd â’r cynhyrchiad.

Bydd y perfformiad arddull cyngerdd promenâd yng Ngerddi Dyffryn yn mynd â chynulleidfaoedd o’r di-liw a’r diflas i’r lliwgar, gyda thair set yn eu hamgylchynu. Gwahoddir y gynulleidfa i ddod â blanced gyda nhw a throi i ddilyn taith Alice drwy’r Wlad Hud.

Mae’r cast yn cynnwys yr artistiaid gwadd Fflur Wyn fel Alice, Benjamin Bevan, Feargal Mostyn-Williams, Aoife Miskelly, a Kelvin Thomas, ynghyd ag aelodau o Gorws arobryn WNO mewn rolau blaenllaw eraill. Ar ôl parhau ar-lein yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bydd rhaglen Datblygu Doniau WNO yn dychwelyd i berfformio’n fyw, ac Artistiaid Cyswllt WNO, Aaron O’Hare ac Adam Gilbert, yn perfformio am y tro cyntaf yn y cynhyrchiad ac ein Cymrawd Cyfarwyddo Jerwood newydd, Gareth Chambers, yn ymuno â’r tîm cyfarwyddo.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Aidan Lang ‘Rydyn ni’n falch dros ben o allu perfformio i gynulleidfaoedd byw a pha ffordd well o ddychwelyd na gydag opera deuluol y gall pawb ei mwynhau. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu llawenydd a phrofiad opera fyw unwaith eto.’

Dywedodd y cyfansoddwr Will Todd: ‘Rydw i’n teimlo mor gyffrous y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael cyfle i brofi Alice’s Adventures in Wonderland gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae wedi bod yn ddarn mor hwyliog i ysgrifennu’r gerddoriaeth ar ei gyfer, ac i mi, mae’n ymwneud â sicrhau bod y gynulleidfa, hen ac ifanc, yn cael amser gwych yn gwylio a gwrando ar opera fyw.’

Bydd y tocynnau ar gyfer Alice’s Adventures in Wonderland yn mynd ar werth yn gyhoeddus ar Ddydd Iau 3 Mehefin.

wno.org.uk