Neidio i'r prif gynnwys

CANLLAW CROESO CAERDYDD I ANRHEGION SUL Y TADAU 2021

A yw hi’n amhosib prynu unrhyw beth i Dad? Chwilio am ysbrydoliaeth? Wel daeth y chwilio i ben! Rydym wedi llunio canllaw o anrhegion gwych yn brofiadau a phrydau bwyd i’r teulu ar gyfer  Sul y Tadau yng Nghaerdydd!

MYND Â DAD AM DAITH CWCH ROWND Y BAE

Achubwch ar y cyfle i osgoi’r traffig trwy gymryd y Princess Katharine, ein tacsi dŵr dan do sy’n teithio rhwng Parc Bute yng nghanol y ddinas a’r Lanfa ym Mae Caerdydd. Mae’n gadael y Bae ar yr awr rhwng 10am a 4pm ac yn gadael canol y ddinas am hanner awr wedi’r awr rhwng 10.30am a 4.30pm.

Ymunwch â’r cwch yn y naill ben neu’r llall am fordaith hamddenol awr o hyd, neu ewch un ffordd yn unig er mwyn gallu darganfod popeth sydd gan y Bae a’r ddinas i’w cynnig. NEU yn Newydd i’r tymor hwn y mae ein cwch agored clasurol Singfly sydd ar gael i’w archebu ymlaen llaw ar gyfer grwpiau bach, sy’n ddelfrydol ar gyfer trît preifat i deulu!

Ceir mwy o wybodaeth yma.

DEWCH Â DAD I FIESTA PÊL-DROED AM DDIM

Ar ddydd Sul 20 Mehefin rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pob tad yn cael hwyl fel y gallant ymweld â ni am ddim! Bydd gennym ein holl gemau a gweithgareddau hwyliog arferol i gymryd rhan ynddynt ond y tro hwn cewch herio eich tad!

Ond dyna lle mae’r haelioni’n dod i ben a’r her yn dechrau, gadewch i ni weld pa genhedlaeth yw’r gorau yn Football Fiesta. Archebwch eich tocynnau ar-lein (www.football-fiesta.co.uk/book) a dewch â dad ar y diwrnod.

 

CWRW A BOWLIO YN THE RED DRAGON CENTRE

Eleni bydd yr holl Dadau sy’n bowlio yn Hollywood Bowl ar Sul y Tadau yn cael peint neu ddiod feddal am ddim pan fyddan nhw’n bowlio gyda’u plentyn/plant!*
Dyfynnwch: ‘MAE DAD WRTH EI FODD YN BOWLIO AC YN YFED’ yn y dderbynfa wrth gyrraedd.

Ymunwch â ni ar Sul y Tadau i ddathlu bod yn anhygoel *Un peint am ddim fesul Tad neu ddiod feddal 16 owns fesul archeb pan yn bowlio gyda’i blentyn/blant. Mae’r cynnig yn ddilys Ddydd Sul 20 Mehefin 2021 yn unig. I archebu bowlio, cliciwch yma.

BRENIN CASTELL CAERDYDD

Os yw’n hoff o hanes, beth am archebu taith o amgylch y Castell iddo? Archwiliwch fwy o du mewn Fictoraidd ysblennydd y Castell a thuriwch ychydig yn ddyfnach i stori’r adeilad anhygoel hwn.

Yn nes ymlaen, dylech brynu peint a thamaid i’w fwyta i Dad ar Deras y Gorthwr, sydd ar deras mawr y Castell gyda’r olygfa orau yng Nghaerdydd! Ymlaciwch yn yr ardal eistedd awyr agored dan orchudd a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd o’r Gorthwr Normanaidd a thiroedd y Castell. Archebwch eich tocynnau nawr!

TEIMLO FEL PENCAMPWR GYDA THEITHIAU STADIWM PRINCIPALITY!

Rhowch brofiad VIP i dad gyda thaith o amgylch un o stadia enwocaf y byd. Mae Teithiau Stadiwm Principality wedi ailddechrau gyda llwybr newydd – Cylchdro Gorchest y Pencampwyr – gyda chyfle unigryw i weld Tlws a Choron Driphlyg Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guiness.

Mae tocynnau rhodd ar gael. Archebwch daith yma.

RAFFTIO DŴR GWYN I’R TEULU YN DGRhC

A yw Dad yn ystyried ei hun yn ‘adrenaline junkie’? Rydym yn cynnig gweithgareddau rafftio dŵr gwyn ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno reidio’r dyfroedd gwyllt gyda’i gilydd.

Yn fwy hamddenol na’r cwrs traddodiadol, mae sesiynau teuluol rafftio dŵr gwyn yn llawer o hwyl i’r teulu cyfan, gan roi cyfle i bawb brofi diwrnodau antur teuluol bythgofiadwy ar y dŵr. Archebwch eich profiad yma.

CHWILIO AM ANRHEG YNG NGHANOLFAN SIOPA DEWI SANT

Os ydych am gyfuno chwilio anrheg Sul y Tadau gyda diwrnod allan yn siopa, Canolfan Dewi Sant Caerdydd yw’r lle i chi. Mae gan y siop ZARA flaenllaw newydd a Hugo Boss amrywiaeth wych o ddillad dynion ac yn John Lewis mae ffasiwn gwych i’w weld ochr yn ochr ag ategolion, teclynnau ac anrhegion eclectig. Os yw bwyd a diod yn fwy at eich dant, galwch draw gyda’r cwmni annibynnol newydd Cold Black Label – triawd o fragdai Cymreig sy’n gwerthu cwrw traddodiadol a chyfoes – neu Sheffs, cwmni annibynnol lleol arall sy’n gwerthu teisennau brau a danteithion blasus.

Waeth beth rydych chi’n chwilio amdano a beth bynnag fo’ch cyllideb, gyda mwy na 150 o siopau yn y Ganolfan fe ddowch o hyd i’ch rhodd berffaith ar Gyfer Sul y Tadau. Dysgwch fwy yma.

RHYWBETH I EDRYCH YMLAEN ATO YN FUTURE INNS CAERDYDD

Os ydych chi’n gweithio ac yn methu dathlu Penwythnos Sul y Tadau, neu os ydych chi eisiau rhoi anrheg i’w mwynhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn, mae ein profiadau rhodd yn cynnwys:

  • Cinio dydd Sul 3 chwrs
  • Cinio 2 neu 3 chwrs
  • Pecyn casino
  • Arosiadau moethus dros nos
  • Cinio, gwely a brecwast

Gweler y rhestr lawn o docynnau rhodd sydd ar gael yma.

TREFNWCH SUL Y TADAU I’W GOFIO YN THE BOTANIST

O ginio rhost Dydd Sul diderfyn a’r Kebabs Crog enwog i beint o Madri ar The Terrace yn annog tîm Cymru yn ei flaen yn erbyn yr Eidal ar ein sgrin awyr agored enfawr, gall The Botanist gynnig popeth sydd ei angen ar gyfer y diwrnod i chi a Dad. Archebwch eich bwrdd ymlaen llaw yma.

BETH AM BRYNU TE PRYNHAWN DYNION I DAD AR SUL Y TADAU YNG NGWESTY CLAYTON CAERDYDD?

Ffurf sawrus ar y Te Prynhawn arferol sy’n addas i’r teulu oll. Wedi’i weini ym Mar a Bwyty Grill lle mae golygfeydd panoramig o’r ddinas.

£19.95 y pen a chaiff Dad beint hefyd – mae’n ei haeddu, wedi’r cwbl!

Ar gael Dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Mehefin Rhaid cadw lle. Ffoniwch 02920 872030 i gadw lle.

AMSER I’R TEULU YN THE COCONUT TREE

Dathlu’r teulu yw’r nod yn The Coconut Tree. Ar Sul y Tadau eleni gallwch ddod â’ch tad am wledd o’r Ynysoedd ar unrhyw adeg rhwng canol dydd a 9pm, a gall e ddewis unrhyw dri saig o’r fwydlen am ddim – ond peidiwch ag anghofio cadw lle!

Telerau ac Amodau: Ni chaniateir defnyddio hwn ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.  Mae rheolwyr yn cadw’r hawl i ganslo’r hyrwyddiad ar unrhyw adeg. Gall tadau ddewis unrhyw dri saig am ddim o’r fwydlen reolaidd. Mae’r cynnig yn ddilys ar 20 Mehefin 2021 ar gyfer ‘bwyta i mewn’ yn unig. Cadwch eich bwrdd yma.

DIOD AM DDIM I DAD AR SUL Y TADAU YN CAFÉ ROUGE

Cadwch eich bwrdd ar gyfer Sul y Tadau – a bydd ‘Dad’ yn mwynhau Diod Am Ddim y Sul y Tadau hwn wrth archebu prif gwrs o’r fwydlen osod neu à la carte!

Lawrlwythwch eich cod yma i fanteisio ar y cynnig hwn ac i wirio’r telerau a’r amodau. Mae cadw lle yn hanfodol. Archebwch ymlaen llaw yma.