Neidio i'r prif gynnwys

DATGELU ENILLWYR GWOBR ARTES MUNDI 9 AM Y TRO CYNTAF I ARTES MUNDI MAE POB UN O’R CHWE ARTIST AR Y RHESTR FER YN DERBYN Y WOBR

FIRELEI BÁEZ (DO) | DINEO SESHEE BOPAPE (ZA)
MEIRO KOIZUMI (JP) | BEATRIZ SANTIAGO MUÑOZ (PR)
PRABHAKAR PACHPUTE (IN) | CARRIE MAE WEEMS (USA

Dydd Iau 17 Mehefin 2021, 19:15: Mae’r rheithgor ar gyfer gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol fwyaf y DU, Artes Mundi 9, yn unfryd unfarn wedi penderfynu dyfarnu’r wobr i bob un o’r chwe artist ar y rhestr fer
eleni mewn cydnabyddiaeth o’r cyfnod yma o gynnwrf cymdeithasol ac economaidd eithriadol ac i gydnabod ansawdd neilltuol eu gwaith unigol, a’r cynnyrch hynod berthnasol sydd naill ai wedi’i greu o’r newydd neu ei
ailgyflunio’n arbennig i’r arddangosfa.

Bydd yr artistiaid Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA) yn derbyn £10,000 yr un.Aelodau’r rheithgor ar gyfer Artes Mundi 9 yw Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020; Elvira Dyangani-Ose, Cyfarwyddwr
oriel y Showroom yn Llundain a Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia.

Detholwyd y chwe artist ar y rhestr fer yn wreiddiol o blith dros 700 o enwebiadau o 90 o wledydd. Er i’r rhestr fer gael ei chadarnhau gyntaf ym mis Medi 2019 – ar adeg prin y gallasai neb fod wedi rhagweld y newid cymdeithasol ac economaidd byd-eang roedd y byd yn carlamu tuag ato – nid cyd-ddigwyddiad mohono yw bod gwaith yr artistiaid i gyd yn sôn am ac yn adleisio’r syniadau a materion cymhleth a heriol y mae angen i ni ymdrin â nhw’n unigol ac ar y cyd o fewn ein cymdeithasau ynghylch cydraddoldeb,
cynrychiolaeth, trawma a braint.

Ym marn aelodau’r rheithgor, “Wrth fyfyrio ar 2020 i’r presennol, bu hwn yn gyfnod o gynnwrf cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd enfawr ac fel rheithgor, rydyn ni wedi cyrraedd penderfyniad unfrydol ar y cyd i ddyfarnu Gwobr Artes Mundi 9 i bob un o’r chwe artist cyfranogol: Firelei Báez,
Dineo Seshee Bopape, Meiro Koizumi, Beatriz Santiago Muñoz, Prabhakar Pachpute a Carrie Mae Weems.”

“Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn cydnabyddiaeth o’r cyd-destun y mae eu gwaith wedi’i gynhyrchu ynddo ac, yn bwysig, mewn cydnabyddiaeth o waith pob un yn unigol sydd y tu hwnt o deilwng ac sy’n arbennig ac yn bwerus o berthnasol heddiw.”

“Gyda’i gilydd mae’r chwe chyflwyniad yn creu arddangosfa gydlynus ac amserol gan fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion a thestunau i’w hystyried. Ar ben hynny, wrth greu cyrff newydd ac uchelgeisiol o
waith i Artes Mundi 9, mae pob artist wedi amlygu cryn gydnerthedd wrth oresgyn y rhwystrau lu’n fyd-eang y mae COVID-19 wedi’u hachosi. Ar y cyd, mae’r arddangosfa’n cyfleu eu lleisiau arbennig a grymus mewn
ffyrdd sy’n gyfoethog, yn feddylgar ac yn werth chweil.”

Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Fel cyfarwyddwr, ac ar ran tîm staff Artes Mundi a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, dw i’n diolch i aelodau’r rheithgor am eu holl waith gan gynnig llongyfarchiadau o waelod
calon i Firelei, Dineo, Meiro, Prabhakar, Beatriz a Carrie. Profiad hynod werth chweil fu cydweithio dros y 18 mis diwethaf gan arwain at arddangosfa amserol a chyfoethog ac sydd, yn weledol ac yn gysyniadol, yn llawn
dealltwriaeth a nerth.”

Wedi’i geni yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac yn byw yn Efrog Newydd, mae’r artist Firelei Báez yn dathlu naratif alltudiaeth a goddrychedd du benywaidd, gan ddychmygu posibiliadau newydd i’r dyfodol drwy ei
phaentiadau dynamig, rhyfeddol, mawr a manwl. Drwy osodwaith ymdrwythol newydd, mae’r artist o Dde Affrica Dineo Seshee Bopape yn faterol ac yn gysyniadol yn ymgysylltu â lle, hanes a chanlyniadau’r fasnach
gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd drwy wrthrychau, defod a chân gan gyflwyno celfyddyd fel rhywbeth sy’n ymgorffori’r potensial o ran cydnabyddiaeth a chyfamod.

Mae triptych fideo teimladwy’r artist o Japan, Meiro Koizumi, Angels of Testimony yn mynd i’r afael â chynhysgaeth yr Ail Ryfel Sino-Japaneaidd (1937-1945), gan ddatgymalu tabŵs diwylliannol a dechrau’r broses iachau drwy gydnabod hanesion cywilyddus. Mae pum gwaith ffilm a fideo’r artist o Puerto Rico,

Beatriz Santiago Muñoz, yn cydblethu’n farddonol i greu gosodwaith haenog o naratifau aflinol sy’n ystyried yr hanesion a’r grymoedd economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol parhaus sy’n siapio Puerto Rico, ei thirwedd, ei phobl a’i diwylliant.Mae Prabhakar Pachpute – y bu ei deulu yn gweithio ym mhyllau glo canol India am dair cenhedlaeth – yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol a rennir â chymuned lofaol Cymru i greu gosodwaith o baentiadau, baneri a gwrthrychau sy’n harneisio eiconograffi protest a chydweithredu.

Mae gwaith yr artist o America,
Carrie Mae Weems, sy’n enwog am ei hymgysylltiad grymus â chynrychiolaeth pobl Dduon a menywod, yn cwmpasu hunaniaeth ddiwylliannol, hiliaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Mae
gosodwaith ffotograffig newydd yn rhoi sylw i’r actifydd hawliau sifil diweddar, John Robert Lewis, o fewn cyd-destun y presennol, tra bydd detholiad o ddarnau mawr o’i hymgyrch celfyddyd gyhoeddus yn ddiweddar yn gofyn cwestiynau am effaith anghyfartal y pandemig ar gymunedau o liw wrth gynnignegeseuon o obaith.

Mae gwaith pob un o’r chwe artist arobryn ar ddangos ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter tan 5 Medi 2021 gyda rhaglen sgrinio o weithiau ychwanegol gan artistiaid yn g39 o fis Gorffennaf – Medi.