Beth wyt ti'n edrych am?
BLE GALLWCH CHI WYLIO EWRO 2020 YNG NGHAERDYDD
Mae Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf yn Ewro 2020 ac allen ni ddim fod yn fwy balch. I ddathlu, ry’n ni wedi llunio rhestr o leoliadau lle gallwch wylio’r gemau a chefnogi’r bois yn ddiogel yn y Brifddinas.
Cofiwch, mae mesurau diogelwch yn dal i fod ar waith felly archebwch eich byrddau ymlaen llaw a chael eich masg yn barod.
Sylwer: ar adeg cyhoeddi’r blog hwn roedd y sefydliadau hyn yn dal i gymryd archebion, ond mae’r Ddinas yn brysur iawn ar ddiwrnodau gêm felly byddem yn argymell archebu ymhell ymlaen llaw a sicrhau bod ganddynt le ar eich cyfer.

BLE I WYLIO
CHAPEL 1877

Awydd tamaid o fwyd cain wrth wylio’r gêm? Yna Chapel 1877 yw’r lle i chi. Mae’r capel tri llawr sydd wedi’i adnewyddu yn fwyty cyffrous yng Nghaerdydd. O brydau blasus mewn amgylchedd moethus i ginio bob dydd, coffi a choctels.
Maen nhw’n dangos gemau Cymru i gyd yn eu hystafell ddigwyddiadau. Mae’r byrddau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch yma: Chapel 1877 | Bar Gastro Moethus a Bwyty Cain yng Nghaerdydd.
MARCO PIERRE WHITE

Am wylio’r Ewros yn rhywle arbennig? Mae Marco Pierre White Steak House Bar & Grill yn dangos pob gêm yn eu lolfa bar hardd ar Lefel 6 Arcêd Dominions, Heol-y-Frenhines. Gyda theras to â golygfeydd godidog o Gaerdydd, mae eu bar coctels a’u lolfa foethus yr un mor drawiadol. Bachwch ddiod, gwerthfawrogwch y golygfeydd, suddwch i mewn i un o’r cadeiriau breichiau moethus a joiwch y gêm.
Nid oes angen archebu lle; mae tracio ac olrhain a mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith. Gallwch ddysgu mwy am MPW a gweld y fwydlen yma: Marco Pierre White | Gwefan Swyddogol
THE BOTANIST

Mae’r bwyty’n argymell archebu ymlaen llaw i sicrhau sedd ar gyfer y digwyddiad mawr, ond gall pobl alw draw hefyd ar sail y cyntaf i’r felin. Er bod y rhan fwyaf o gemau am ddim, bydd angen tocynnau i wylio rhai www.thebotanist.uk.com/sports
Mae’r gemau hyn yn costio £10 y pen ac yn cynnwys peint o Madri Exceptional i’w fwynhau ar Y Teras. Bydd byrddau’n cael eu dyrannu ar hap ond bydd pob un yn gallu gweld o leiaf un sgrin. Dechreuwch dymor chwaraeon 2021 gyda’r Botanist.
THE MERCURE CARDIFF NORTH

Gwesty’r Mercure Gogledd Caerdydd yw’r lle perffaith i fwynhau’r Ewros. Beth am archebu bwrdd a mwynhau’r awyrgylch, gyda staff sylwgar a detholiad eang o gwrw a gwin? Mae’r gwesty hefyd wedi cwblhau’r achrediad Covid All Safe and Good to Go i roi tawelwch meddwl i chi. Manteisiwch ar ein cynnig Ewros arbennig gyda byrgyr a pheint am ddim ond £12 y person.
Ffoniwch 02920 589932 neu e-bostiwch hb539-f01@accor.com i gadw bwrdd. Mae byrddau ar gael ar gyfer uchafswm o 6 a bydd canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn berthnasol. Rhaid archebu ymlaen llaw.
OWAIN GLYNDWR

Awydd gwylio’r gêm mewn tafarn draddodiadol? Mae Owain Glyndŵr yn addo dangos pob munud o Ewro 2020 – wnewch chi ddim colli munud yma! Sbwyliwch eich hun i blât blasus o fwyd tafarn i’w fwynhau wrth wylio.
Maen nhw’n disgwyl bod yn brysur iawn drwy gydol y twrnament, felly rhaid archebu. Dyma’r wefan: Tafarn Chwaraeon yng Nghaerdydd | Tafarndai yng Nghaerdydd gyda Sky Sports | Owain Glyndŵr (greatukpubs.co.uk).
BREWHOUSE CARDIFF

Os ydych chi am fod yng nghanol y ddinas, trowch hi am y Brewhouse i wylio’r gêm ar y sgriniau mawr. Mae’r lleoliad hwn yn adnabyddus am ei frwdfrydedd dros gerddoriaeth a chwaraeon byw – delfrydol ar gyfer gemau Ewro 2020. Gallwch archebu pizza blasus ar gyfer hanner amser hefyd.
Cofiwch, mae ‘na awr lawen a gostyngiad i fyfyrwyr ar gael ar ddiwrnodau penodol. Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth ac i archebu bwrdd: http://www.brewhousecardiff.com/.
BETH I’W WELD A’I WNEUD
RHODFA BALE YNG NGHANOLFAN SIOPA DEWI SANT

Wrth i fis o bêl-droed rhyngwladol ddechrau a gyda chefnogwyr Cymru’n breuddwydio am lwyddiant yn yr Ewros, mae’r gefnogaeth i dîm Rob Page bellach ar y map gan fod stryd yng Nghaerdydd wedi cael ei hailenwi’n ‘Rhodfa Bale’. Mae’r stryd, y tu mewn i Ganolfan Dewi Sant Caerdydd, wedi’i hailenwi dros dro i ddangos cefnogaeth i Gymru, gan roi’r cyfle i gefnogwyr gymryd hunlun gyda’r arwydd stryd yn ystod twrnament yr Ewros.
Mae arwyddion stryd ‘Rhodfa Bale’, a enwyd ar ôl capten a phrif sgoriwr ein gwlad, a aned yng Nghaerdydd, rhwng siopau gemwaith Goldsmiths a Crouch ac, ar y lefel uchaf, rhwng siopau ffasiwn Stradivarius a Bershka.
Gall cefnogwyr gymryd hunlun gyda’r arwydd stryd newydd drwy gydol yr Ewros, sy’n dod i ben ddydd Sul 11 Gorffennaf. Dysgwch fwy yma: www.stdavidscardiff.com
YMWELWCH Â’R MONOLITH EWRO 2020 YNG NGHASTELL CAERDYDD

Mae 26 o fonolithau draig, #DreigiauCymru, wedi’u gosod mewn safleoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae pob chwaraewr a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn y twrnament yr haf hwn wedi cael castell neu safle hanesyddol rywle yn y wlad. Beth am dynnu hunlun gydag un Gareth Bale yng Nghastell Caerdydd?
Gallwch ymweld, a chofnodi eich cynnydd i gwblhau’r llyfr sticeri digidol ar www.togetherstronger.cymru/cy. Rhagor o wybodaeth yma: Dreigiau Cymru – Eich arwyr ar draws Cymru! • Newyddion • Castell Caerdydd.