Beth wyt ti'n edrych am?
GŴYL GWÊN O HAF

15 O BETHAU HWYL I’W DARGANFOD GYDA’CH TOCYN…
Mae’n hen bryd rhoi gwên yn ôl ar wynebau teuluoedd Caerdydd. Mae tîm Dinas sy’n Dda i Blant Cyngor Caerdydd wedi trefnu gŵyl #GWÊNOHAF yn llawn gweithgareddau sy’n ystyriol o blant er mwyn rhoi rhywbeth i chi a’r plant wenu amdano!
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bawb, felly gadewch i ni ddathlu gwydnwch a chyflawniadau ein plant lleol drwy’r cyfan a chanolbwyntio ar eu lles. Gallwch ddod o hyd i weithgareddau ar draws amrywiaeth o themâu gan gynnwys gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau creadigol, chwaraeon ac antur, chwarae a hwyl i’r teulu. Ac a wnaethon ni sôn y bydd ‘na Alpacaod?
A’r peth gorau amdano? DIM OND £2 yw pob sesiwn (plant cyn-oed ysgol – Am Ddim), felly mae’n ddigon hawdd ar eich pocedi!
Mae hwn yn safle bob tywydd felly mae’r hwyl yn parhau boed law neu hindda, mae digon o weithgareddau dan do. Nid oes unrhyw werthwyr bwyd a diod ar y safle felly cofiwch ddod â diod a phecyn cinio os byddwch eu.
- 20 GORFFENNAF I 8 AWST (ar gau ar ddydd Llun)
- 3 SESIWN BOB DYDD – AMSERAU DECHRAU: 10:00/13:30/17:00
PRIF SAFLE’R ŴYL
1. ACTIFYDDION ARTISTIG
O bartïon babanod i weithdai portreadu, o ddosbarthiadau rhoi cynnig ar wnïo i weithdai band a hip hop, mae rhywbeth at ddant pawb sydd am fod yn artistig ac actif yr haf hwn.
2. GWEITHDAI SYRCAS
Ewch â’r hyn rydych wedi’i wneud adref gyda chi, gan gynnwys Cylchoedd Hwla, troellwyr Poi a llusernau. Cewch ddysgu sut i’w defnyddio hefyd, felly byddwch yn barod i gynnal eich syrcas eich hun gartref.
3. PÊL-DROED BWRDD A MWY
Colli’r Ewros yn barod? Wel, cymerwch ran mewn twrnamaint pêl-droed bwrdd cyffrous yn chwarae fel eich hoff wlad. Ai Bale fydd ar y bêl i’ch tîm chi?
LLWYFAN PERFFORMIO
Acrobatiaid, jyglwyr a chomedïwyr yn dod â hwyl i lwyfan awyr agored ynghanol y coed! Bydd yr artistiaid yn newid bob dydd ond byddant yn cynnwys y criw acrobatig Affricanaidd anhygoel, y Black Eagles, Celf Fyw gan John Hicks, sioe Cylchoedd Hwla gan Angie Mack a dyn y tu mewn i falŵn gan Carlos Airhead.
4. SIOE THEATR Y CARNAU
Mae tri charw bach yn gwneud darganfyddiad annisgwyl wrth iddynt ddod ar draws hen theatr yn y goedwig. Oedran: 4+ oed ac yn addas i’r teulu cyfan.
5. SIOE THEATR CRAFANGAU/CLAWS (CYMRAEG A SAESNEG)
Mae Mamgu Mason eisiau sythu’r duwch o’i gwallt. Mae hi eisiau i Mason edrych fel rhywun arall. Dilynwch ni i goedwig gyfareddol, ychydig y tu hwnt i’n bywyd bob dydd gyda stori rymus, hudolus Nia Morais. Oedran 11+
PERFFORMWYR POB MAN
Gallwch fod yn siŵr o haf o wenu wrth i grŵp lliwgar o gymeriadau mewn gwisgoedd, gan gynnwys athrawon ymarfer corff, cadetiaid gofod, cymeriadau ar stiltiau, potiau blodau a changarŵod yn bownsio, orymdeithio trwy’r safle!
6. Y BABELL HAPUS
Wythnosau 1 a 2. Dewch i ysgrifennu ar y Wal Cariad, printio crysau t, chwarae gemau gardd enfawr a gemau eraill wedi’u trefnu, gwneud jariau diolchgarwch a chael eich ffilmio fel seren mewn pabell a fydd yn llawn hwyl a hapusrwydd.
Yn ystod wythnos 3, bydd Grassroots yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai yn amrywio o addurniadau wal Larkdesign, y Wal Sylfaen Ddiogel ac amrywiaeth o weithgareddau cerddoriaeth llawn egni ar y dydd Sul olaf.
7. ALPACAOD ANHYGOEL
Tu allan i’r Babell Hapus, bydd Platfform yn dod â dau alpaca hardd i’r safle a fydd yn sicr o godi eich calon! Mae ein ffrindiau blewog wedi dod yr holl ffordd o’r Andes (drwy Drefynwy) i gwrdd â chi.
8. PEDAL EMPORIUM
Engage in bike-powered antics at Cardiff’s favourite fun factory, saddle up and re-“cycle” bubbles, spin paint and even power a disco without even plugging into the mains!
9. PROMO CYMRU/THE SPROUT
Fel rhan o’r ŵyl, mae TheSprout yn comisiynu 10 o bobl ifanc greadigol i greu ac arddangos eu gwaith celf ar y safle mewn dathliad o dalent eithriadol ein pobl ifanc.
10. SIOEAU BMX INSPIRE
Bachwch le yn y blaen i weld sioeau BMX byw gan feicwyr di-ofn ac eofn yn perfformio campau anhygoel. Dilynir y sioeau gan weithdai lle gallwch ddysgu i reidio BMX fel arbenigwr.
11. GREEN SQUIRREL
Bydd Green Squirrel yn creu nifer o ddarnau cydweithredol o gelf stryd sy’n arddangos problemau ac yn tynnu sylw at y negeseuon sy’n bwysig i bobl ifanc am yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.
12. PABELL CAERDYDD AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CYMRU
Ymchwiliwch i gelf a hanes ym mhabell yr Amgueddfa, sy’n cynnwys straeon, hwyl gyda symudiadau a rhigymau, gweithdai gwneud a sesiynau cwrdd â’r Rhufeiniaid a’r Celtiaid.
13. CHWARAEON CAERDYDD
Sboncen, athletau, tenis, pêl-droed, pêl-fasged cadair olwyn, rygbi, rhedeg rhydd a thenis bwrdd yw rhai o’r chwaraeon y gallwch roi cynnig arnynt dros y tair wythnos yn ardal wych Chwaraeon Caerdydd.
14. COLEG CAERDYDD A’R FRO
Mae ystod wych o gyrsiau cyffrous ar gael gan Dîm Coleg Caerdydd a’r Fro gan gynnwys Gwallt a Cholur, Minecraft, gweithdai Drama, Cod a Drôn, DJ am y dydd, Sesiynau Gwneud a Rasio a llawer mwy.
15. PABELL GYMORTH Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
Gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch o’r babell ddefnyddiol hon, gyda gweithgareddau fel gwasanaethau deiet, therapi lleferydd a llu o gysylltiadau i helpu gydag ystod o faterion blynyddoedd cynnar
Cofiwch archebu eich tocyn o flaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi!
Cofiwch, dim ond detholiad yw hyn o’r gweithgareddau niferus y mae’r Ŵyl Gwên o Haf wedi’u trefnu ar eich cyfer yn ystod Gwyliau’r Ysgol! Mae digwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ledled y ddinas – gallwch ddod o hyd i amserlen y digwyddiadau yn yr erthygl hon, a’r rhai sy’n digwydd mewn ardaloedd eraill ar wefan Gŵyl Gwên o Haf.