Neidio i'r prif gynnwys

Technolegau laser, sain a natur yn dod ynghyd ar gyfer perfformiad cyntaf erioed EYE Cymru yng Nghastell Caerdydd

Wrth i ni ddod allan o gysgod Covid, nod EYE Cymru yw dod â phobl ynghyd mewn moment drawsnewidiol o fyfyrio a chysylltiad. Mae technolegau laser arloesol a thechnolegau sain 3D, ynghyd â thirwedd a phensaernïaeth y castell, yn cyfuno i greu profiad hudol fydd yn ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob oed.

Wedi’i ddatblygu ar gyfer byd wedi Covid, ar ôl cyfnod o ddiffyg cysylltiadau dynol a digwyddiadau cymdeithasol, bydd EYE Cymru yn cyfuno celfyddyd goleuadau a sain gyda phŵer byd natur i ddod ag ymdeimlad o optimistiaeth a gobaith wrth i ni ddod allan o gyfnod tywyll.

Bydd Caerdydd yn cynnal perfformiad cyntaf erioed EYE Cymru yng Nghastell Caerdydd ar 14 Hydref 2021 a bydd y sioeau’n cael eu cynnal tan 31 Hydref 2021. Bydd perfformiadau byw ar y penwythnosau yn cynnwys y prif artistiaid, yr eicon Cymreig Gruff Rhys, y canwr a’r cyfansoddwr Nick Mulvey a’r artist geiriau llafar o fri Kae Tempest.

Wedi’i greu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru, bydd EYE Cymru yn dod yn nodwedd bwysig o sin celfyddydau a gwyliau’r DU. Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer pobl o bob oedran gan gynnwys plant dan 2 oed, a gyda thocynnau mynediad i deuluoedd ar gael, mae EYE Cymru yn sioe i’r teulu cyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal perfformiad cyntaf y byd o Eye Cymru EdenLAB yng Nghastell Caerdydd a chefnogi Llywodraeth Cymru yn ei phartneriaeth ag EdenLAB. Ein bwriad ers peth amser oedd datblygu a chyflwyno digwyddiadau cerddoriaeth fyw ymdrochol sy’n gwthio ffiniau’r profiad traddodiadol o gyngherddau. Dyma fan cychwyn ein cynlluniau i ddod â phrosiectau cerddoriaeth cyffrous ac arloesol i Gaerdydd”.

Mynediad Cyffredin mae tocynnau bellach ar gael o £22.50. Tocynnau consesiwn o £12.50 a Thocynnau teulu o £35.

Mwy o wybodaeth am EYE Cymru