Neidio i'r prif gynnwys

TECHNIQUEST: LLE NAD YW GOLAU'R HAUL YN FELYN, MAE'N WYRDD...

GYDA COP26 MOR DDIWEDDAR YN Y NEWYDDION AC EFFAITH NEWID HINSAWDD YN CAEL EI WELD YN AMLACH BOB DYDD, MAE DYSGU AM YR HYN YDYW – A’R HYN Y GALLEM EI WNEUD YN EI GYLCH – YN DRINGO’N UWCH AR AGENDÂU LLAWER O BOBL. YN CHWARAE RHAN WRTH GEISIO SYMLEIDDIO YR HYN SY’N AML YN WYBODAETH EITHAF CYMHLETH, MAE TECHNIQUEST YM MAE CAERDYDD – LLE MAE EITEM NEWYDD SBON WEDI’I LANSIO YN YR ARDDANGOSFA.

Ers i’r Brifddinas Wyddoniaeth newydd gael ei hagor yn llawn yn gynharach eleni, mae miloedd o bobl wedi bod yn mwynhau dros hanner cant o eitemau newydd sbon yn yr arddangosfa sy’n llenwi ei phum parth, ac yn dysgu ohonynt.  Gan edrych ar y Gofod, Cemeg, Gwyddoniaeth Biofeddygol ac, yn hollbwysig, Materion y Byd a’r Amgylchedd, mae llawer o wahanol arddangosfeydd ar gael sy’n archwilio gwyddoniaeth a thechnoleg ar draws ei lloriau arddangos estynedig.

Gan ganolbwyntio ar Barth yr Amgylchedd, ceir arddangosion rhyngweithiol sy’n rhoi cipolwg ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar hinsawdd ein planed a sut mae gwyddonwyr yn mesur y newid hwnnw.

Gall ymwelwyr roi cynnig ar gwis i weld faint maen nhw’n ei wybod am darddiad ein bwyd a faint yw ei daith i gyrraedd eu byrddau cegin; dysgu mwy am y gwahanol nwyon tŷ gwydr a’r hyn y maent yn ei wneud; a darganfod beth mae iâ yn ei ddatgelu am dywydd y ddaear yn mynd yn ôl dros amser.

Nawr mae arddangosyn newydd wedi’i ychwanegu at y gymysgedd, a gyflwynwyd i gyd-fynd â chynhadledd COP26 yn Glasgow y mis hwn. Mae Sonnedix SolQuest, sy’n mynd yn fyw ar 2 Tachwedd, yn brofiad dysgu rhithwir sy’n mynd â’r ymwelydd ar daith drwy waith solar Sonnedix Atacama yn Chile, un o’r gweithfeydd ffotofoltäig solar mwyaf yn y wlad.

Mae cyfranogwyr yn yr ymgais hon yn rhyngweithio â gwahanol rannau o’r gwaith solar, gan ddysgu sut mae ynni o’r haul yn cael ei harneisio a’i drawsnewid yn drydan glân i bweru’r cymunedau cyfagos, a chasglu tocynnau ar hyd y ffordd i gwblhau’r ymchwil a phweru pentref dychmygol gydag ynni 100% adnewyddadwy. Mae’r profiad yn rhoi cipolwg gwych i ymwelwyr o bob oed ar sut mae ynni adnewyddadwy yn gweithio a’r atebion y mae’n eu cynnig i’r newid yn yr hinsawdd; gan ysbrydoli datryswyr problemau yfory i adeiladu dyfodol disglair i bawb.

Parhad…

Dyma lefarydd ar ran Sonnedix, y cwmni sydd wedi creu a gosod yr arddangosfa newydd ar gyfer Techniquest, i esbonio:

“Fel rhan o’n strategaeth ACLl, (Amgylchedd, Cymdeithasol, Llywodraethu) lansiwyd Academi Gynaliadwyedd Sonnedix yn 2020 i’n helpu i fwrw ein targed o gyrraedd 100,000 o ddysgwyr erbyn 2023. Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd o ddarparu gwahanol adnoddau addysgol a phrofiadau dysgu i blant ac oedolion ifanc, gan weithio mewn partneriaeth ag athrawon a sefydliadau yn fyd-eang, a darparu mynediad i gyfleoedd addysg ar bynciau sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd, ynni adnewyddadwy ac ynni’r haul.

“Rydym nawr yn cyflwyno SolQuest, profiad dysgu rhithwir arloesol, gan ddod ag arloesedd a digideiddio i Academi Gynaliadwyedd Sonnedix. Mae SolQuest yn cynnwys taith rithwir i’n gwaith PV solar fwyaf hyd yma, Sonnedix Atacama Solar, yn Chile, gan roi cyfle i ni ddangos i blant ac oedolion ifanc sut mae gwaith PV solar go iawn yn gweithio, a sut i gynhyrchu ynni adnewyddadwy glân tra’n parhau i ddiogelu a gwella’r amgylchedd a gwella bywydau’r cymunedau lleol.”

 

Dywedodd James Summers, Pennaeth Prosiectau Techniquest:

“Rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i gydweithio â chwmnïau fel Sonnedix i wella ein gofod Prifddinas Wyddoniaeth newydd gydag arddangosion arloesol. Bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud fel hyn, i helpu i annog dysgu am wyddoniaeth a’r amgylchedd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, o fudd mawr i ysgolion ac ymwelwyr cyhoeddus o bob oed.”

Ac nid dim ond drwy’r arddangosion newydd y mae Techniquest wedi ymgysylltu â’r newid yn yr hinsawdd eleni. Mae ‘Ymgyrch y Ddaear’ yn gyfres o weithdai a ariennir ledled y DU gan Gymdeithas y Canolfannau Darganfod Gwyddoniaeth, i helpu i ehangu dealltwriaeth o’r pwnc pwysig hwn ac a fu’n boblogaidd gydag ymwelwyr â’r ganolfan drwy gydol hanner tymor.

Dywedodd James Paine, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Techniquest a gynhaliodd y gweithdai hyn:

“Y nod oedd nid yn unig esbonio’r sefyllfa bresennol yr ydym yn ei chanol, ond hefyd i ddeall y gobaith sydd yna o hyd, os ydym i gyd yn meddwl yn fwy gofalus am yr hyn rydyn ni’n ei ddefnyddio, beth rydyn ni’n ei wneud a pha effaith mae hynny’n ei gael ar y byd o’n cwmpas.

“Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn ymgysylltu â’r gweithgareddau ac bod yn rhan fach o ddod â’r cyfan at ei gilydd.  Gobeithio y gallwn wneud mwy o’r math yma o waith yn y dyfodol hefyd.”


Ynglŷn â Techniquest 

Techniquest yw canolfan darganfod gwyddoniaeth fwyaf Cymru yng nghanol Bae Caerdydd.  Mae’n cynnig profiadau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar gyfer pob oedran a gallu, gan ddarparu llwyfan i addysgu, diddanu a gwneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb ledled Cymru.

Ynglŷn â Sonnedix

Mae Sonnedix Power Holdings Limited (ynghyd â’i is-gwmni, Sonnedix) yn Gynhyrchydd Pŵer Annibynnol (IPP) solar byd-eang gyda llwyddiant blaenorol yn darparu gweithfeydd ffotofoltäig solar perfformiad uchel cystadleuol o ran cost i’r farchnad. Mae Sonnedix yn datblygu, yn adeiladu, yn berchen ar ac yn gweithredu gweithfeydd pŵer solar yn fyd-eang, gyda chyfanswm capasiti o bron i 5GW, gan gynnwys pibell ddatblygu o fwy na 2GW.
Mae Sonnedix yn parhau i ehangu ei ôl troed byd-eang ar draws gwledydd yr OECD, gyda thros 350 o weithfeydd solar yn gweithredu, yn ogystal â channoedd o MW yn cael eu hadeiladu neu ar wahanol gamau datblygu ledled y byd.

Ynglŷn â’r Prosiect Prifddinas Wyddoniaeth

Mae’r project, a ddatblygwyd i lwyr drawsnewid Techniquest ac i amrywio ei chynulleidfa, wedi’i ariannu gan UKRI a Chronfa Wyddoniaeth Ysbrydoledig y Wellcome Trust, y Moondance Foundation, y Garfield Weston Foundation a chronfa ‘Buddsoddi i Arbed’ Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith adeiladu hefyd wedi cynnwys gwaith ar y cyd gan y Rheolwyr Projectau Lee Wakemans; HLM Architects; a Hydrock Engineers.

Y Wellcome Trust

Mae Wellcome yn cefnogi gwyddoniaeth i ddatrys yr heriau iechyd brys sy’n wynebu pawb.  Rydym yn cefnogi ymchwil darganfod i fywyd, iechyd a lles, ac rydym yn ymgymryd â thair her iechyd fyd-eang: iechyd meddwl, gwresogi byd-eang a chlefydau heintus. Rydym yn sefydliad elusennol byd-eang sy’n ariannol ac yn wleidyddol annibynnol.

UKRI –

UKRI – UK Research and Innovation (UKRI) yw’r ariannwr cyhoeddus mwyaf o ran ymchwil ac arloesi yn y DU, gyda chyllideb o dros £8bn. Mae’n cynnwys saith cyngor ymchwil o ran disgyblaethau, Innovate UK a Research England. Rydym yn gweithredu ar draws y wlad gyfan ac yn gweithio gyda’n partneriaid niferus mewn addysg uwch, sefydliadau ymchwil, busnesau, llywodraeth ac elusennau.

Ein gweledigaeth yw system ymchwil ac arloesi ragorol yn y DU sy’n rhoi cyfle i bawb gyfrannu ac i elwa, gan gyfoethogi bywydau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Ein cenhadaeth yw dod â phobl ynghyd, bod yn gatalydd a buddsoddi mewn cydweithrediad agos ag eraill i adeiladu system ymchwil ac arloesi gynhwysol, ffyniannus sy’n cysylltu darganfyddiadau â ffyniant a lles y cyhoedd.

Cronfa Gwyddoniaeth Ysbrydoledig y Wellcome Trust

Mae’r Gronfa Gwyddoniaeth Ysbrydoledig, partneriaeth rhwng UKRI a Wellcome, wedi buddsoddi £30 miliwn mewn canolfannau gwyddoniaeth ledled y DU, gan eu galluogi i adfywio eu canolfannau, eu cynnig i’r cyhoedd ac i ddatblygu rhaglenni ymgysylltu STEM mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.