Neidio i'r prif gynnwys

NADOLIG CARWSÉL YN YR IVY CAERDYDD

Mae’r Ivy Caerdydd yn dathlu’r Nadolig gyda gosodiad Nadoligaidd a choctels fersiwn gyfyngedig wedi’u creu mewn cydweithrediad â Fodca Grey Goose

 

Y tymor hwn, cofleidiwch eich ysbryd Nadoligaidd wrth i Ivy Caerdydd ddathlu gyda gosodiad llawen ar thema carwsél i westeion a phobl sy’n pasio heibio ei fwynhau, yn ogystal â bwydlen goctels fersiwn gyfyngedig a thriawd o bwdinau, sydd ar gael o ddydd Mercher, 17 Tachwedd.

 

I’r rhai sy’n dymuno cael diod Nadoligaidd fel trît, mae tîm bar y brasserie yn gweini nifer o goctels pwrpasol, gan gynnwys y Pear Noel (£11.75), cymysgedd amheuthun sy’n cynnwys Fodca Grey Goose La Poire, gwirodlyn siocled gwyn, hufen Gwyddelig a surop gellyg, a’r Coffi Carousel (£9.50), fersiwn foethus o goffi Gwyddelig gyda Fodca Grey Goose Vodka, coffi, siwgr a hufen siocled gwyn. Mae creadigaethau ychwanegol yn cynnwys Carwsél 75 (£11.95), ymasiad blasus o Gin Bombay Sapphire Premier Cru, gyda lemwn Murcia, cassis, bricyll, Fernet Branca a Prosecco, ac ar gyfer y rhai sy’n hoff o tequila, y Papaloma (£9.75), fersiwn gynnes a gaeafol ar Paloma clasurol Mecsico gyda Tequila PATRÓN Reposado, Aperol, lemwn, tonig Fever-Tree Indiaidd, a chwerwon grawnffrwyth.

 

I’r rhai sydd â dant melys, mae’r prawf yn y pwdin gan y gall gwesteion fwynhau cyfres o ychwanegiadau pwdin Nadoligaidd, gan gynnwys mins peis bach cynnes (£4.75), wedi’i weini â  hufen cnau cyll a brandi, Pwdin Nadolig wedi’i stemio sy’n dod â dŵr i’r dannedd (£8.25), gydag almonau, cyrens cochion a hufen brandi, a’r ymladd peli eira (£9.50), sy’n cynnwys hufen iâ brandi, a saws siocled gwyn, bara sinsir, a hufen.

 

Meddai Matt Glister, Rheolwr Cyffredinol The Ivy Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda’n ffrindiau yn Fodca Grey Goose i gynnig coctels unigryw a blasus y Nadolig hwn. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i’r bwyty i ddathlu tymor yr ŵyl gyda ni.”

 

 

Os nad oedd hynny’n ddigon, mae bwydlen y brasserie yn cynnig detholiad o brydau gaeafol i’ch cynhesu, gan gynnwys Cawl Pwmpen a Phwmpe Cnau Menyn Rost gyda thriffl ricotta, castanwydd, cnau pinwydd a saets crenshlyd (£6.95) a Phastai Bugail y Gwyddau gyda moch mewn blancedi, tatws stwnsh hufennog a saws llugaeron (£18.95).

 

-DIWEDD-

 

Dylech gyfeirio ymholiadau at Grayling – TheIvyCollection@grayling.com 

 

Cyfeiriad: 69/70 Dewi Sant, Canolfan Dewi Sant, Caerdydd CF10 1GA

Gwefan: https://theivycardiff.com/