Neidio i'r prif gynnwys

HWYL AM DDIM: 5 DIWRNOD ALLAN RHAD YNG NGHAERDYDD YM MIS IONAWR ELENI

Gyda bwrlwm a chyffro’r Nadolig drosodd, yn Croeso Caerdydd rydym yn croesawu’r flwyddyn newydd. Mae’n amser gwych ar gyfer dechrau newydd ac anturiaethau newydd.  Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch ar gyfer beth i’w wneud yng Nghaerdydd ym mis Ionawr, yna rydym wedi llunio ein hargymhellion gorau, am ddim ar gyfer diwrnod allan sy’n addas i’r waled.  Archwiliwch yr awyr agored, byddwch yn egnïol ac amsugno ein diwylliant cyfoethog. Tripiau i’r teulu, dal i fyny gyda ffrindiau neu fannau  unigryw ar gyfer dêt? Fforiwch y gorau o Gaerdydd y flwyddyn newydd hon.

1. Darganfyddwch yr Atyniadau ym Morglawdd Bae Caerdydd

Nid dim ond darn trawiadol a phwysig o beirianneg, mae’r Morglawdd Bae Caerdydd yn gartref i gyfres o ryfeddodau ar y llwybr. Cadwch lygad am y Crocodeil Anferth o lyfr Roald Dahl o’r un enw (felly yn ffodus nid crocodeil go iawn!), Arddangosfa Scott yr Antarctig, campfa awyr agored adiZone, maes chwarae i blant a plaza sglefrio. Os ydych chi’n chwilio am rywle i eistedd ac edmygu’r golygfeydd, mae Coffi Co Porth Teigr yn gweini coffi a chacennau o safon.

2. Fforiwch Warchodfa’r Gwlyptiroedd

Mae Gwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd yn cwmpasu tua 8 hectar o hen forfa heli ac mae’r safle’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn cefn, pysgod a bywyd gwyllt arall.

Wedi’i lleoli ar lannau gogleddol Bae Caerdydd, yn swatio y tu ôl i Voco St David’s, mae’r warchodfa’n rhwydd ei chyrraedd ar hyd rhodfa graean a rhodfa estyll, ac mae ganddi fan gwylio sy’n ymestyn allan dros y dŵr, gan roi’r lleoliad perffaith i wylio adar.

3. Ewch ar eich beic

Mae’n bryd mynd ar ddwy olwyn a fforio yng Nghaerdydd. Boed yn feiciwr proffesiynol neu’n meddwl am roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Mae Caerdydd cefnogi’r mudiad gwyrdd, gan osod lonydd beicio pwrpasol ledled y ddinas. Rydym yn awgrymu edrych ar ein mapiau beicio ar gyfer canol y ddinas, Bae Caerdydd, Pontcanna neu Barc y Rhath i gynllunio eich llwybr.  Neu beth am feicio i mewn i’r ddinas ar y Llwybr Taf pictiwrésg, gyda beiciau hygyrch ar gael i’w rhentu i bawb o ddau leoliad Pedal Power ar hyd y ffordd.

4. Ymweld â’n Hamgueddfeydd Cenedlaethol

Mae Caerdydd yn gartref i nid un ond dau safle Amgueddfa Cymru – yng nghanol y ddinas, fe welwch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sydd â chasgliadau celf, hanes a daeareg, ochr yn ochr ag arddangosfeydd gwadd a thros dro. O gelf argraffiadol i ddeinosoriaid anferth, mae casgliad a fydd o ddiddordeb i bawb.

Ychydig filltiroedd allan o’r ganolfan mewn pentref gwledig, fe welwch Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Fel atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, mae’r amgueddfa bobl hon yn meddiannu tir castell godidog Sain Ffagan. Dros yr hanner canrif diwethaf, ail-adeiladwyd dros hanner can adeilad gwreiddiol o wahanol leoliadau yng Nghymru ac o gyfnodau hanesyddol gwahanol yn y parc 100-erw hwn. Camwch yn ôl mewn amser gyda chipolwg diddorol iawn ar Gymru a fu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle am ddim cyn i chi ymweld ag amgueddfa.cymru

5. Ewch am Dro yn y Parc

Mwynhewch dawelwch un o’r parciau syfrdanol ledled y ddinas. Mae gormod i’w cyfrif ond dau o’n hoff rai yw Parc y Rhath a Pharc Fictoria. Mae Parc y Rhath yn barc hanesyddol rhestredig Gradd 1 sy’n cynnwys llyn gwneud 30 erw sy’n berffaith ar gyfer pysgota a chychod, Goleudy Coffa Scott, Oval Llandennis, gardd wyllt, gardd fotaneg a gardd bleser.

Yn y cyfamser mae Parc Fictoria yn barc hanesyddol rhestredig Gradd 2, y dyfarnwyd safon ansawdd y Faner Werdd iddo. Fforiwch yn y gerddi, ymgolli yng ngolygfeydd, arogleuon a synau natur a chadwch olwg am gerflun Billy y Morlo, safle seindorf Haearn Bwrw a chanopi ffynnon Haearn Bwrw. (Efallai dylech wisgo’n gynnes ar gyfer tywydd Gaeafol Cymru!)

 

P’un a ydych yn darganfod lleoedd newydd neu’n ailymweld â hen ffefrynnau, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau Caerdydd y mis Ionawr hwn!