Neidio i'r prif gynnwys

Llythyron Caru gan yr Ivy Caerdydd

Dathlwch Ddydd Sant Ffolant gyda llyfryn, diodlen goctels a phwdin arbennig

Mae’r Ivy Caerdydd wedi ymuno â Letters of Note i roi rhodd i’w drysori i giniawyr ar Ddydd Sant Ffolant. Mae Love yn llyfryn arbennig a luniwyd gan Shaun Usher, sy’n cynnwys casgliad o’r llythyron caru mwyaf angerddol a ysgrifennwyd erioed, wedi’u hail-ddychmygu gan The Ivy Collection gyda gorchudd a rhagair pwrpasol. Bydd y llyfr yn cael ei gynnig i’r holl westeion sy’n archebu bwrdd yn y bwyty ddydd Llun, 14 Chwefror.

Wedi’i hysbrydoli gan gariad, bydd diodlen goctels arbennig, a gynlluniwyd i wneud i hyd yn oed y mwyaf oergalon wrido, hefyd ar gael i westeion o ddydd Gwener 11 i ddydd Llun 14 Chwefror, ochr yn ochr â Pillow Talk (£17.95), pwdin moethus i’w rannu sy’n cynnwys parfait eirin gwlanog a mafon, mousse siocled gwyn, losin popio a saws mafon.

Gan ddathlu cariad o bob math, mae’r triawd o goctels yn anrhydeddu rhai o’r llythyron caru mwyaf eiconig o’r oes a fu. O Napoleon to Joséphine (£9.75), sy’n cynnwys Altos Tequila Blanco, granadila a sblash o prosecco ac Oscar Wilde’s Secret Affair (£9.50), gyda Jin Beefeater, sudd lemwn a surop agafe, i His Immortal Beloved (£9.75), wedi’i ysbrydoli gan Beethoven ac yn cynnwys gwirodlyn coffi, hufen dwbl ac Amaretto; bydd gwesteion yn siŵr o gwympo mewn cariad â’r trîts arbennig hyn.

Meddai Matt Glister, Rheolwr Cyffredinol yr Ivy Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o ymuno â Letters of Note i ddathlu’r negeseuon mwyaf pwerus o gariad ar Ddydd Sant Ffolant. Edrychwn ymlaen at sbwylio ein gwesteion i gopi o’r llyfryn, a bwydlen o ddanteithion ffansi, a fydd yn paru’n berffaith â’ch hoff brydau ar ein bwydlen.”

Mae cynigion arbennig Dydd Sant Ffolant ar gael o ddydd Gwener 11 Chwefror i ddydd Llun 14 Chwefror, gyda gwesteion yn cael mwynhau bwyty rhamantus, hardd a gwasanaeth cyfeillgar.

I archebu bwrdd a mwynhau copi o Love ar ddydd Llun, 14 Chwefror, ewch i https://theivycardiff.com/