Neidio i'r prif gynnwys

Tân Cymreig yn barod ar gyfer ail flwyddyn brysur cystadleuaeth y Can Pelawd

Bydd Tân Cymru a Southern Brave yn dechrau cystadleuaeth y dynion yn Southampton Ddydd Mercher 3 Awst. Yna bydd y dynion yn chwarae yng Ngerddi Soffia Ddydd Sul 7 Awst

Mae cystadleuaeth y menywod yn dechrau Ddydd Iau 11 Awst yn The Kia Oval wedi Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022, gyda menywod y tîm Tân yn chwarae gyntaf Ddydd Sadwrn 13 Awst gartref yn erbyn Birmingham Phoenix

I gael gwybod mwy a chofrestru ar gyfer cael blaenoriaeth i’r tocynnau (o 31 Mawrth 2022) ewch i thehundred.com

Mae timau dynion a merched Tân Cymreig yn ôl ar y llain yr haf hwn wrth i gystadleuaeth ddiweddaraf y byd criced ddychwelyd i wefreiddio torfeydd gyda chriced mwy cyflym ac adloniant llawn cynnwrf i bob oedran.

Bydd tîm dynion Tân Cymreig yn herio’r pencampwyr Southern Brave yn y gystadleuaeth yn yr Ageas Bowl Ddydd Mercher 3 Awst am 19:00. Yna byddan nhw’n croesawu’r Oval Invincibles yn eu gêm gyntaf yng Ngerddi Sophia Ddydd Sul 7 Awst.

Oherwydd cynnwys criced i fenywod yn rhaglen Gemau’r Gymanwlad, bydd cystadleuaeth can pelen ‘The Hundred’ y merched yn dechrau ychydig ddyddiau ar ôl y dynion eleni. Fodd bynnag, unwaith y bydd y gystadleuaeth i fenywod yn dechrau ar 11 Awst bydd y gemau’n dychwelyd i’r fformat dwbl poblogaidd, gyda thimau dynion a menywod yn chwarae ar yr un diwrnod – gyda thocynnau’n rhoi hawl i gefnogwyr wylio’r ddwy gêm.

Bydd merched Tân Cymreig ar y llain am y tro cyntaf gartref yn y diwrnod dwbl yn erbyn Birmingham Phoenix Ddydd Sadwrn 13 Awst.

Yn gyffredinol, bydd Gerddi Sophia yn cynnal pedwar diwrnod o gemau’r  Tân Cymreig yn erbyn yr Invincibles ym mis Awst:

  • Dydd Sul 7 Awst Tân Cymreig v Oval Invincibles, (dynion) 14:00
  • Dydd Sadwrn 13 Awst: Tân Cymreig v Birmingham Phoenix, merched 14:30, dynion 18:00
  • Dydd Llun 22 Awst Tân Cymreig v Southern Brave, merched 15:00, dynion 18:30
  • Dydd Gwener 26 Awst: Tân Cymreig v Northern Superchargers, merched 15:30, dynion 19:00

Roedd stadia yn llawn dop y llynedd wrth i’r torfeydd fwynhau criced o’r radd flaenaf ochr yn ochr ag adloniant gan berfformwyr cerddoriaeth amlwg gan gynnwys Jax Jones a Becky Hill hefyd. Mae partneriaeth barhaus y can pelen gyda BBC Music Introducing yn gwarantu blwyddyn arall o gerddoriaeth fyw o’r safon uchaf a pherfformiadau drwy gydol y gystadleuaeth.

Bydd y Can Pelen eleni yn dechrau gydag amddiffyniad pencampwyr y dynion Southern Brave yn erbyn  Tân Cymreig yn yr Ageas Bowl Ddydd Mercher 3 Awst. Bydd enillwyr cyntaf y menywod yr Oval Invincibles yn herio’r Northern Superchargers yn y diwrnod dwbl dynion a menywod cyntaf Ddydd Iau 11 Awst. Bydd y camau grŵp yn dod i ben Ddydd Mercher 31 Awst cyn i’r timau sy’n ail a thrydydd wynebu ei gilydd yn yr Ageas Bowl yn ‘The Hundred Eliminator’ Ddydd Gwener 2 Medi. Bydd yr enillwyr yn wynebu’r tîm sydd ar y brig yn Rownd Derfynol y Can Pelen Ddydd Sadwrn 3 Medi yn Lord’s.

Meddai Jake Ball, bowliwr cyflym 2021 Tân Cymreig: “Roedd y can pelen yn wych y llynedd, roedd yn beth gwirioneddol arbennig i fod yn rhan ohono. Y criced, y gerddoriaeth, y tân gwyllt – roedd yn awyrgylch gwych!  Methu aros tan y 3ydd o Awst yn erbyn y pencampwyr presennol yn yr Ageas Bowl!”

Bydd tocynnau’n parhau i fod yn fargen anghredadwy i deuluoedd gyda phrisiau’n £5 i blant dan 16 oed ac am ddim i blant pump oed ac iau.  Bydd hyd yn oed mwy o weithgareddau o gwmpas y cae i ddiddanu teuluoedd ochr yn ochr â chriced o’r radd flaenaf ar y cae.    A bydd prynwyr tocynnau yn gallu dewis eu seddi eu hunain eleni gyda pharthau sy’n ystyriol o deuluoedd ym mhob lleoliad.

Bydd tocynnau’n parhau i fod yn fargen anghredadwy i deuluoedd gyda phrisiau’n £5 i blant dan 16 oed ac am ddim i blant pump oed ac iau.  Bydd hyd yn oed mwy o weithgareddau o gwmpas y cae i ddiddanu teuluoedd ochr yn ochr â chriced o’r radd flaenaf ar y cae.    A bydd prynwyr tocynnau yn gallu dewis eu seddi eu hunain eleni gyda pharthau sy’n ystyriol o deuluoedd ym mhob lleoliad.

Bydd cefnogwyr yn gallu cael eu dwylo ar docynnau mewn dwy ffenestr flaenoriaeth, yn gyntaf ar gyfer deiliaid tocynnau 2021, mynychwyr ac aelodau ddiwedd mis Chwefror a’r ail ffenestr ar 31 Mawrth i unrhyw un sydd wedi cofrestru drwy thehundred.com. Yna bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol ar 20 Ebrill.

Bydd gemau unwaith eto’n cael eu darlledu’n fyw ar Sky Sports a’r BBC gydol y gystadleuaeth ar ôl i fwy na 16m  wylio’r Can Pelen ar y teledu yn unig yn 2021.

Bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol Ddydd Mercher 20 Ebrill ar thehundred.com. Ar gyfer deiliaid tocynnau 2021, mynychwyr ac aelodau, bydd tocynnau ar gael ddiwedd mis Chwefror.  Bydd ail ffenestr yn agor Ddydd Iau 31 Mawrth i unrhyw un sydd wedi cofrestru yn thehundred.com am fynediad i docynnau â blaenoriaeth i’r digwyddiad eleni.

Meddai Sanjay Patel Rheolwr Gyfarwyddwr The Hundred, “Helpodd The Hundred i dyfu’r gêm y llynedd. Gyda mwy na 500,000 o docynnau’n cael eu gwerthu a’u rhoi allan ac 16 miliwn yn gwylio ar y teledu – gyda hanner ohonyn nhw’n newydd i griced – gwelsom gynulleidfa newydd yn mwynhau’r gêm am y tro cyntaf. Allwn ni ddim aros am y cyfle i adeiladu ar hynny eleni, gan ddod â chriced o’r radd flaenaf a diwrnod allan anhygoel i’r teulu i gefnogwyr ledled Cymru a Lloegr.”

Yn ystod blwyddyn gyntaf The Hundred gwerthwyd 510,000 o docynnau a’u rhoi allan wrth i’r gystadleuaeth groesawu cefnogwyr newydd a phresennol. Roedd caeau ar draws y wlad wedi gwerthu allan ac aeth 19% o’r holl docynnau a werthwyd i blant dan 16 oed. Nid oedd 55% o brynwyr tocynnau The Hundred wedi prynu tocyn ar gyfer criced yn y wlad hon o’r blaen tra bod y niferoedd ar draws y gystadleuaeth ar ei uchaf erioed yn unrhyw le yn y byd ar gyfer digwyddiad criced i fenywod.