Beth wyt ti'n edrych am?
Y DDRAIG FACH YNG NGHANOLFAN RED DRAGON
Gyda’r 6 gwlad yn mynd rhagddi a Dydd Gŵyl Dewi ar y gorwel, bydd Draig Fach Cymru’n lledaenu rhywfaint o hwyl gwladgarol yng Nghanolfan Red Dragon yr hanner tymor hwn.
Ddydd Mercher 23 Chwefror, bydd y creadur del a hudolus hwn yn cwrdd ag ymwelwyr y tu mewn i’r Ganolfan ar yr awr am 1pm, 2pm a 3pm.
Er nad yw hi wedi meistroli’r gallu i anadlu tân neu hedfan, mae’n gwneud cynnydd ysblennydd felly efallai y byddwch yn sylwi ei bod yn fflapio ei hadenydd ac yn chwythu mwg allan o’i ffroenau!
Er mwyn cadw golwg arni, bydd Myrddin y dewin hudol hefyd yn ymuno â’n ffrind tanbaid.
Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni drwy ddefnyddio #RDCbabydragon