Neidio i'r prif gynnwys

Sêr rhyngwladol yn barod i danio ar gyfer y Tân Cymreig

Mae’r Tân Cymreig wedi sicrhau sêr Lloegr Jonny Bairstow, Jake Ball ac Ollie Pope ar gyfer ail flwyddyn The Hundred.

Mae Bairstow yn dychwelyd ar ôl cyfnod byr ffrwydrol gyda’r tîm y llynedd pan sgoriodd ddau 50 yn olynol yn ei ddwy gêm i’r Tân Cymreig cyn ymuno ar gyfer ei ddyletswyddau gyda thîm Lloegr.

Mae tîm y merched yn croesawu’r chwaraewraig amryddawn Hayley Matthews o India’r Gorllewin, sêr Lloegr, Katie George a Claire Nicholas, sy’n dychwelyd yn 2022 ar ôl optio allan o gystadleuaeth 2021 yn dilyn genedigaeth ei hail blentyn. Mae Matthews yn dychwelyd ar ôl ymgyrch gyntaf drawiadol lle gorffennodd ymhlith y pum prif sgoriwr a’r deg uchaf o ran cipwyr wicedi’r gystadleuaeth.

Mae tîm y Dynion hefyd wedi dewis cadw Ben Duckett ar ôl blwyddyn lwyddiannus fel yr ail brif sgoriwr, gan orffen y tu ôl i Liam Livingstone.

Mae rhai eraill sydd wedi eu cadw yng ngharfan y menywod yn cynnwys Hannah Baker, Lauren Filer, Alex Griffiths, Georgia Hennessy a Nicole Harvey.

Josh Cobb, Matt Critchley, Leus du Plooy, Ryan Higgins a David Payne sy’n ffurfio gweddill y chwaraewyr a gedwir yng ngharfan y dynion.

Bydd llygaid pawb nawr yn troi tuag at Ddrafft The Hundred y Dynion ar 30 Mawrth lle bydd Tân Cymreig yn cael yr ail ddewis y tu ôl i London Spirit.

Mae cystadleuaeth yr Hundred yn dychwelyd ym mis Awst, gan gymysgu criced cyflym o’r radd flaenaf gyda cherddoriaeth ac adloniant sy’n addas i deuluoedd oddi ar y cae. Eleni bydd hyd yn oed mwy o weithgareddau i ddiddanu teuluoedd y tu mewn i gae Gerddi Sophia.

Meddai Katie George, “Rydyn ni i gyd yn awyddus dros ben i ddechrau arni yr haf hwn ac rwy’n falch iawn o fod yn aros gyda’r tîm. Y llynedd gwelsom pa mor swnllyd oedd Gerddi Sophia hyd yn oed gyda llai o dorfeydd a gobeithio y tro hwn gallwn lenwi’r cae a’i wneud yn lle cyffrous iawn i chwarae.”

Ychwanegodd Ollie Pope, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddod yn ôl i’r Tân Cymreig. Roeddwn i’n siomedig iawn o fethu chwarae y llynedd ac rwy’n gobeithio, gyda rhai ychwanegiadau cyffrous yn y Drafft, y gallwn herio brig y tabl.”

Bydd tîm dynion y Tân Cymreig yn dechrau ar eu hymgyrch yn y Ageas Bowl Ddydd Mercher 3 Awst yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth yn erbyn Southern Brave. Bydd y tîm wedyn yn croesawu’r Oval Invincibles yng Ngerddi Soffia Ddydd Sul 7 Awst.  Bydd y menywod yn dechrau’r Ddydd Sadwrn (13 Awst) mewn gêm ddwbl yn erbyn Birmingham Phoenix yng Ngerddi Soffia. Mae gêm gartref olaf y gystadleuaeth yn gweld y Tân Cymreig yn croesawu’r Northern Superchargers am gêm ddwbl Ddydd Gwener 26 Awst.

Cefnogwch y Tân Cymreig gyda’ch ffrindiau a’ch teulu pan fydd The Hundred yn dychwelyd i Erddi Sophia. Mae tocynnau ar werth i aelodau Morgannwg, Sir Gaerloyw a Gwlad yr Haf heddiw, ac i brynwyr tocynnau’r llynedd o yfory ymlaen.  Gall pobl na welodd y gemau drostynt eu hunain y llynedd gofrestru ar thehundred.com i fod gyda’r cyntaf i glywed pa bryd y bydd tocynnau’n mynd ar werth.