Beth wyt ti'n edrych am?
Ffyrdd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd ar 27 Mawrth
Cardiff Half Marathon will take place on Sunday, March 27thand with 15,000people expected to take part in the event the city is expected to be exceptionally busy.

Bydd Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth. Disgwylir i 15,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad, felly disgwylir i Gaerdydd fod yn brysur iawn.
Bydd ffyrdd ar gau yn y Ganolfan Ddinesig o 23 Mawrth er mwyn gosod a chlirio pentref y digwyddiad.
O 5am ddydd Mercher 23 Mawrth tan hanner dydd ar 29 Mawrthbydd Heol y Coleg ar gau o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Rhodfa’r Brenin Edward VII (gellir cael mynediad tan 6am ddydd Sadwrn 26 Mawrth)
O 5am ddydd Iau 24 Mawrth tan ganol dydd ar 29 Mawrthbydd Rhodfa’r Brenin Edward VII ar gau i’r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas. Caniateir mynediad i fusnesau a gwasanaethau brys o ddydd Mercher 23 Mawrth tan ddydd Gwener 25 Mawrth ac ar ddydd Llun 28 Mawrth ond ni chaniateir mynediad ddydd Sadwrn 26 Mawrth a Dydd Sul 27 Mawrth
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 25 Mawrth tan ganol nos ar 27 Mawrth:
Rhodfa’r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
Heol Gerddi’r Orsedd
Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 27 Mawrth:
Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A416
Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin,
Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
Heol y Dug a Stryd y Castell
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 27 Mawrth:
Heol y Gogledd o’r gyffordd â Heol Colum i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (mynediad i’r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua’r gogledd i fyny Heol y Gogledd).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:
Heol Colum
Plas y Parc o’r gyffordd â Plas Sant Andreas i’r gyffordd â Heol Colum.
Bydd y trefniadau mynediad canlynol ar waith ddydd Sadwrn 26 Mawrth a dydd Sul 27 Mawrth:
Ceir mynediad i Beatty Avenue o’r gyffordd â Lake Road North yn unig (gan gynnwys Jellicoe Gardens, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
Bydd mynediad iac oSgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd/Heol Corbett.
Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Lake Road East.
Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso’r llwybr:
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Neville Street
Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert
Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Windsor Road
Stryd Adam, Fitzalan Place yn mynd ar draws Heol Casnewydd
Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy’r brif fynedfa.
- Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa
Os caiff y llwybr ei gwblhau’n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y giât fysus ar Heol y Porth yn cael ei hatal am gyfnod y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 27 Mawrth.