Neidio i'r prif gynnwys

MAE WWE YN DOD I GAERDYDD!

CYMRU I GYNNAL DIGWYDDIAD STADIWM CYNTAF Y WWEÂŽ YN Y DEYRNAS UNEDIG ERS 30 O FLYNYDDOEDD YN STADIWM Y PRINCIPALITY YNG NGHAERDYDD

Bydd y Digwyddiad Byw Safonol hwn yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 3 Medi, 2022.

STAMFORD, Conn., Ebrill 12, 2022 – Heddiw, cyhoeddodd WWE (NYSE: WWE) y bydd digwyddiad cyntaf y WWE i gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ers mwy na 30 mlynedd yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, Cymru, ar ddydd Sadwrn, 3 Medi, 2022.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru – sy’n gyrchfan ddiwylliannol ac yn gartref i amrywiaeth o chwaraeon. Dyma ganolfan sydd â record fyd-eang o ran cynnal digwyddiadau. Mae Stadiwm y Principality yn gyrchfan i ddigwyddiadau amrywiol o’r radd flaenaf yn ogystal â bod yn gartref cenedlaethol i dĂŽm rygbi Cymru.

Gall cefnogwyr sydd â diddordeb mewn prynu tocynnau o flaen llaw wneud hynny drwy gofrestru ar https://wwe.com/cardiff-2022-presale

Yn ôl John Porco, Uwch Is-lywydd WWE, Digwyddiadau Byw. “Mae Stadiwm y Principality yn lleoliad perffaith ar gyfer cynnal digwyddiad mawr fel hwn. Bydd yn gyfle gwych i groesawu ein cefnogwyr anhygoel o Gymru, yn Ewrop, ac o gwmpas y byd. Bydd y penwythnos yn llawn amrywiaeth o brofiadau WWE a fydd, yn ein barn ni, yn arwain at greu atgofion oesol fel y profwyd pam gynhaliwyd SummerSlam yn Stadiwm Wembley yn 1992”.

Yn ôl Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething. “Bydd Cymru yn lleoliad eiconig ar gyfer dychweliad WWE i’r DU ar ôl 30 mlynedd. Bydd yn arddangos Cymru i gynulleidfa o filiynau yn fyd-eang, gan gynnwys cynulleidfaoedd yn yr UDA. Dyma ddigwyddiad perffaith o fewn blwyddyn enfawr o chwaraeon, adloniant a diwylliant yng Nghymru a fydd yn denu pobl o bedwar ban byd i brofi’r hyn sydd gan ein gwlad i’w gynnig”.

Yn ôl Mark Williams, Rheolwr Stadiwm Principality. “Rydym yn hynod falch bod Stadiwm y Principality wedi’i ddewis gan WWE i gynnal y digwyddiad mawr hwn sy’n tystio i enw da’r stadiwm fel lleoliad o safon fyd-eang. Mae Stadiwm y Principality yn safle unigryw yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma leoliad a fydd yn sicr o gynnig profiadau heb ei ail i gefnogwyr WWE y tu mewn a’r tu allan i’r stadiwm heb son am ddod â budd ehangach i ddinas Caerdydd”.

Bydd gwybodaeth am enw’r digwyddiad, pryd fydd y tocynnau ar gael i’w prynu yn ogystal â gwybodaeth bellach ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael yn fuan.

 

WWE – Pwy ydyn ni?

Mae cwmni WWE yn gwmni sy’n masnachu’n gyhoeddus fel (NYSE: WWE). Mae’n sefydliad yn ymwneud â chyfryngau integredig ac mae’n arweinydd cydnabyddedig mewn adloniant yn fyd-eang. Mae’r Cwmni yn cynnwys portffolio o fusnesau sy’n creu ac yn cyflwyno cynnwys gwreiddiol 52 wythnos y flwyddyn i gynulleidfa’n fyd-eang. Mae WWE wedi ymrwymo i baratoi adloniant sy’n addas i deuluoedd ar eu rhaglenni teledu. Maen nhw’n cynnal digwyddiadau byw premiwm yn ogystal â’r cyfryngau digidol a llwyfannau cyhoeddi. Gellir gweld rhaglenni TV-PG WWE mewn mwy na biliwn o gartrefi ledled y byd mewn 30 o ieithoedd trwy bartneriaid dosbarthu o safon fyd-eang sy’n cynnwys NBCUniversal, FOX Sports, BT Sport, Sony India a Rogers. Mae Rhwydwaith WWE arobryn yn cynnwys y cyfan o ddigwyddiadau byw premiwm, rhaglenni wedi’u hamserlennu a llyfrgell fideo-ar-alw enfawr. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd mewn mwy na 180 o wledydd. Yn yr Unol Daleithiau mae gwasanaeth ffrydio NBCUniversal, Peacock yn gartref unigryw i Rwydwaith WWE. Gellir derbyn gwybodaeth ychwanegol am WWE yn wwe.com a corporate.wwe.com.

Digwyddiadau Cymru a Llywodraeth Cymru

Bydd y digwyddiad stadiwm mawr hwn yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn unol â’i Strategaeth Digwyddiadau Mawr. Mae Digwyddiadau Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol gan gynnwys TĂŽm Digwyddiadau Cyngor Caerdydd i ddenu amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon, diwylliannol a busnes i Gymru, gan gynnwys digwyddiadau byd-eang ysblennydd fel hwn, sy’n codi proffil Cymru ledled y byd ac yn atgyfnerthu enw da Cymru ymhellach fel cyrchfan digwyddiadau o’r radd flaenaf.

 

Cysylltiadau ar gyfer y cyfryngau:

Joel Zietce
WWE
+44 7768 043 874

Joel.Zietcer@wwecorp.com

Anna Chapman
Stadiwm y Principality
+44 7734 900 229
achapman@wru.wales

Cyswllt ar gyfer buddsoddi:
Seth Zaslow
203 352 1026
Seth.Zaslow@wwecorp.com

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.