Neidio i'r prif gynnwys

ARGRAFFIADAETH DDATA YN TECHNQUEST: YNYS ECHNI WEDI'I DISGRIFIO MEWN LLIW A GOLAU

MAE DELWEDDU DATA YN GYMYSGEDD GO IAWN O GELFYDDYD A GWYDDONIAETH. I DROSI RHIFAU AC YSTADEGAU, MAE MESUR GWYNT, DŴR, HEULWEN A BYWYD GWYLLT YN DDELWEDDAU DIRIAETHOL, HAWDD EU DEALL YN RHODD GO IAWN.

Mae arddangosfa newydd sbon dros dro sydd newydd ei hagor yn Techniquest, wedi’i chynllunio gan dîm ysbrydoledig o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd sydd yn rhan o gynllun peilot sy’n ceisio gwneud yn union hynny.

Diolch i gymorth ariannol gan gronfa Arbenigedd SMART Llywodraeth Cymru, mae’r Tîm Technoleg Ffisegu Data (DAPTEC) wedi bod yn ddiwyd yn y ‘Fab Lab’ ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ers misoedd lawer, gan weithio o amgylch yr holl gyfyngiadau a oedd yn gysylltiedig â’r pandemig a’r cyfyngiadau clo cysylltiedig.

Nawr, gyda chymorth Awdurdod Harbwr Caerdydd, Cyngor Dinas Caerdydd, Yard Digital Agency a wardeiniaid Ynys Echni, maent wedi gosod eu prototeip yn Techniquest; gan droi’r data sy’n cael ei gasglu ar Ynys Echni yn rhywbeth sy’n rhoi gwell syniad i bobl ar y tir mawr o’r hyn sy’n digwydd dros y dŵr.

Ni waeth pa mor heulog yw hi yno, neu faint o wylanod neu adar môr eraill sy’n nythu ar yr ynys, neu lle mae’r mannau gorau ar yr ynys i ddod o hyd i bili-palod – drwy gyffwrdd â gwahanol baneli yr arddangosfa, gall ymwelwyr â Techniquest oleuo’r map â lliw, i ddysgu mwy am ecoleg yr ynys sy’n gorwedd mor agos at ein glannau, ond nad oes llawer ohonom wedi llwyddo i ymweld â hi.

Gallwch wylio’r patrymau tywydd newidiol wrth i’r data droi’r ‘Tobleronau’ – gan fod y paneli disgrifio ar siâp y tiwb trionglog adnabyddus hwnnw – i roi argraff o ba mor heulog, cymylog neu lawog yw’r tywydd ar yr ynys ar unrhyw adeg. Wrth i ymwelwyr ryngweithio â’r arddangosiadau, mae’r tîm yn Techniquest yn mynd ati i fwydo’n ôl i grewyr DAPTEC fel y gallant wella’r broses ddata yn barhaus; sicrhau bod y prototeip yn parhau i ddatblygu o ran rhwyddineb defnydd ac eglurder y wybodaeth a rennir.

 

Dywedodd James Summers, Pennaeth Prosiectau Techniquest:

“Mae’r byd yn llawn data sy’n cael ei gasglu’n ddyddiol.  Fodd bynnag, oni bai eich bod yn y maes arbenigedd penodol hwnnw, gall fod yn anodd gwneud y data hwnnw, yn ddiddorol ac yn hygyrch i bawb.   Mae’r prosiect hwn yn helpu i archwilio ffyrdd newydd o gyfathrebu data gan ddefnyddio arddangosiadau rhyngweithiol ffisegol ac sydd yn caniatáu i bobl weld data byw mewn ffordd hawdd ei defnyddio.”

Ac nid y data byw yn unig sy’n cael ei droi’n rhywbeth mwy gweledol.  Dadansoddodd y tîm ddegawdau o ddata a gasglwyd drwy gofnodion data amgylcheddol, llyfrau log wardeiniaid a chyfrifiadau gwylanod blynyddol, i greu cyfoeth o wybodaeth y gall y cyhoedd ei defnyddio’n hawdd ar ffurf argraffiadol.

Mae Ynys Echni yn drysor ecolegol go iawn, a erys i lawer yn siâp dirgel, sydd eto i’w ddarganfod ar y gorwel. Ac eto, mae gan yr ynys hanes diddorol iawn.  Mae’r olion dynol cyntaf a ddarganfuwyd yno yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd, tra yn y 18fed ganrif roedd ei safle’n gwneud yr ynys yn berffaith fel canolfan smyglo. Gyrrodd y dyfeisiwr Eidalaidd Guglielmo Marconi y signalau di-wifr cyntaf dros fôr agored o’r ynys hon ym 1897 – ac ar un adeg bu’n gartref i ysbyty ynysu ar gyfer cleifion colera.

Y dyddiau hyn mae’n gartref i amrywiol dechnolegau ynni cynaliadwy, gwyrdd ac mae’n swyddogol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  Bydd arddangosfa prototeip DAPTEC yn cael llety yn Techniquest tan fis Mehefin ar y llawr cyntaf, ym Mharth yr Amgylchedd, i ganiatáu i ymwelwyr â Techniquest ddod ychydig yn nes at ddeall mwy am yr ynys, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu gwneud y daith yno eu hunain.

 

—-DIWEDD—-

NODIADAU

Mae Prosiect Ynys Echni DAPTEC wedi bod dan arweiniad Dr Fiona Carroll, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyfrifiadura ar gyfer Rhyngweithio a Chyfrifiadureg gyda Dylunio Creadigol yn yr Ysgol Dechnolegau gyda Jon Pigott, Uwch Ddarlithydd, Artist, Gwneuthurwr, Dylunydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Paul Newbury, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg (PST) Yard (asiantaeth marchnata technegol yng Nghaerdydd), ac mewn partneriaeth gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd.

Adnoddau

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a thîm y prosiect, ewch i DAPTEC www.daptec.org

Ynglŷn â Techniquest 

Techniquest yw canolfan darganfod gwyddoniaeth fwyaf Cymru yng nghanol Bae Caerdydd.  Mae’n cynnig profiadau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar gyfer pob oedran a gallu, gan ddarparu llwyfan i addysgu, diddanu a gwneud gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb ledled Cymru.

Ynglŷn â Met Caerdydd

Rhoes y Times Higher Education (THE) deitl Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 i Met Caerdydd. Mae’r teitl yn cydnabod Met Caerdydd fel prifysgol flaengar gyda phrofiad myfyrwyr a diwylliant staff rhagorol ac ymchwil ac arloesedd effeithiol. Mae Met Caerdydd yn dathlu perfformiad cryf arall yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2022.  Dringodd 10 lle arall ac mae bellach yn 62 allan o 121 o brifysgolion yn y DU, ac yn drydydd yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ei naid uchaf erioed – 41 lle – yng nghanllaw’r flwyddyn flaenorol.

 

Mae’r Arolwg o Foddhad Myfyrwyr (NSS) wedi gosod Met Caerdydd yn uwch na chyfartaledd y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr unwaith eto. Wedi eu cyhoeddi fis Gorffennaf 2021, mae canlyniadau arolwg yr NSS yn dangos cyfradd bodlonrwydd o 76%. Mae gan Met Caerdydd bwrpas cryf – i ddarparu addysg, ymchwil ac arloesedd o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac sy’n cael ei chydnabod yn broffesiynol mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a’n diwydiant. Elfen allweddol o arlwy’r Brifysgol i fyfyrwyr yw ‘EDGE Met Caerdydd’ – cynnig craidd sy’n galluogi pob myfyriwr unigol i ddatblygu sgiliau Moesegol, Digidol, Byd-eang ac Entrepreneuraidd, profiad, gwybodaeth, hyder a gwydnwch.

 

Mae Met Caerdydd yn cynnwys pum ysgol academaidd ar draws dau safle yn Llandaf a Chyncoed yng Nghaerdydd:  Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd; Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd; Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd; Ysgol Reolaeth Caerdydd, ac Ysgol Dechnolegau Caerdydd, yn ogystal â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Dylunio (PDR) a’r Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant (CAWR), canolfan ymchwil fwyaf newydd Met Caerdydd.

 

Mae gan y Brifysgol tua 20,000 o fyfyrwyr o 143 o wledydd sydd wedi cofrestru ar raglenni yng Nghaerdydd a gydag 16 o bartneriaid cydweithredol ledled y byd, lle mae myfyrwyr yn astudio ar gyfer graddau Met Caerdydd. Nod ei ymrwymiad i wella rôl addysg mewn cysylltiadau rhyngwladol a diplomyddiaeth ddiwylliannol yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu’n ddinasyddion byd-eang.

Mae gan y Brifysgol hanes hir-sefydledig o ran cyflogadwyedd myfyrwyr gyda 94.8% o raddedigion Met Caerdydd mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.

 

Y Brifysgol yw’r gyntaf yng Nghymru i ennill y Siarter Busnesau Bach nodedig a’r marc Menter Gymdeithasol i gydnabod ei gwaith gyda busnes, a’i hymrwymiad i gefnogi myfyrwyr mewn gweithgareddau menter ac entrepreneuriaeth.   Gyda hanes cryf o fentrau cynaliadwy a ‘rhinweddau gwyrdd’, dringodd Met Caerdydd 63 o leoedd yn y tabl cynghrair cynaliadwyedd annibynnol People & Planet 2021, gan ddod yn gyntaf yng Nghymru ac yn gydradd 5ed yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r Brifysgol bellach yn datblygu Uwchgynllun i gyflawni Sero Net ar gyfer ei champysau erbyn 2030.

 

Mae academïau Byd-eang Met Caerdydd (Iechyd a Pherfformiad Dynol; Gwyddor Bwyd, Diogelwch Eiddo a Diogelwch Personol; a Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Ddynoliaeth) yn dwyn ynghyd arbenigedd ymchwil i ddatblygu dulliau rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac effeithiol o ymdrin â rhai o’r heriau mwyaf ystyfnig sy’n effeithio arnom yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Met Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi’n Brifysgol Noddfa ac mae ganddi hanes ers tro o ddarparu ‘Ysgoloriaethau Noddfa’ ar gyfer israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig, a staff academaidd.

 

Cronfa SmartExpertise 

https://businesswales.gov.wales/expertisewales/cy/cymorth-chyllid-i-fusnesau/smart-expertise

Mae SMARTExpertise yn rhan o gyfres integredig o raglenni a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i roi cymorth i fusnesau a sefydliadau ymchwil yng Nghymru i fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd a ddatblygwyd drwy brosesau ymchwil, datblygu ac arloesi. Yn para 6 blynedd (2014-2023) nod SMARTExpertise yw cynyddu masnacheiddio ar Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (R,D&I) o fewn sefydliadau ymchwil mewn cydweithrediad â diwydiant.

Beth yw nodau’r gronfa SMARTExpertise? 

Annog busnesau ac ymchwilwyr i gydweithio ar brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg sy’n strategol bwysig.

Helpu i sicrhau cyllid dilynol a enillwyd yn gystadleuol

Er mwyn cynorthwyo twf arbenigedd a chapasiti Ymchwil a Datblygu mewn sefydliadau ymchwil a diwydiant gan greu Clystyrau Arloesi

 

Ynglŷn â YARD

https://weareyard.com/

 

Ynglŷn ag Awdurdod Harbwr Caerdydd

Rheolir Ynys Echni gan Awdurdod Harbwr Caerdydd https://cardiffharbour.com/

Mae gan Ynys Echni 1,300 o rywogaethau wedi’u cofnodi a chaiff ei gwerthfawrogi am ei glaswelltir arfordirol, ei chlogwyni morol a’r silffoedd creigiog a’r hafnau cysylltiedig, cennin gwyllt, slorymod, gwyfynod, glöynnod byw, clychau’r gog a’i nythfa fridio o wylanod cefnddu lleiaf

Ynys Echni sydd â’r ail boblogaeth fwyaf o wylanod yng Nghymru, sy’n cynrychioli tua 3% o boblogaeth fridio gwledydd Prydain o’r rhywogaeth benodol hon. Mae’r gwylanod cefnddu lleiaf wedi’u categoreiddio ar hyn o bryd fel ambr a’r gwylanod penwaig wedi eu categoreiddio fel coch ar restr yr Adar sy’n destun Pryder Cadwraeth 4 (BoCC 4).