Neidio i'r prif gynnwys

Liam Gallagher ym Mae Caerdydd

23/05/2022


LIAM GALLAGHER YN CYHOEDDI SIOE ENFAWR YM MAE CAERDYDD I GLOI EI BERFFORMIADAU HANESYDDOL DROS YR HAF

AR DDYDD IAU 15 MEDI BYDD GWESTEION ARBENNIG IAWN GAN GYNNWYS THE CHARLATANS, A LLAWER MWY I’W DATGELU, YN YMUNO Â LIAM GALLAGHER

BYDD TOCYNNAU’N MYND AR WERTH AR DDYDD GWENER 27 MAI AM 10AM DRWY LIVENATION.CO.UK

Mae Liam Gallagher wedi dewis Prifddinas Cymru fel lleoliad olaf ei berfformiadau awyr agored hanesyddol dros yr haf.  Bydd taith seren ‘Roc a Rôl’ Oasis yn dod i ben yn safle awyr agored godidog Pentir Alexandra yn lleoliad hyfryd Bae Caerdydd.

Mae’r perfformiad siŵr o ennill ei le yn hanes cerddoriaeth bop yng Nghymru.  Bydd y cantor chwedlonol a’r eicon modern yn cael haf anhygoel, gyda’i drydydd albwm stiwdio ‘C’MON YOU KNOW’ yn cael ei ryddhau’n fuan a dwy sioe ym Mharc Knebworth eisoes wedi’u gwerthu allan. Y sioe ym Mae Caerdydd ar ddydd Iau 15 Medi fydd y penllanw.  Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar ddydd gwener 27 mai am 10am drwy LiveNation.co.uk

Yn dilyn rhyddhau ei ganeuon syfrdanol “EVERYTHING’S ELECTRIC” a “BETTER DAYS”, mae ei drydydd albwm unigol y mae disgwyl eiddgar amdano, “C’MON YOU KNOW”, yn cael ei ryddhau ar 27 Mai drwy Warner Records. Mae ‘C’MON YOU KNOW’ yn dilyn llwyddiant ysgubol albymau stiwdio blaenorol Liam ‘As You Were’ (2017) a ‘Why Me? Why Not?’ (2019), a sefydlodd ei statws eiconig ar gyfer cenhedlaeth newydd gyfan. Bydd hefyd yn rhyddhau albwm byw newydd ‘Down By The River Thames’ ar ddydd Iau 27 Mai, gyda’r sioe wedi’i recordio ar gwch camlas ar gyfer llif byw arbennig ym mis Rhagfyr 2020. Aeth ei ‘MTV Unplugged’ hefyd yn syth i #1 ar y Siart Albwm Swyddogol. Rhwng ei lwyddiannau fel artist unigol a’i lwyddiant aruthrol gydag Oasis, mae Liam wedi treulio cyfanswm cyfunol o bron i chwe mis yn #1 ar un ar ddeg p albymau, wedi ennill chwe Gwobr Brit, a dwy Wobr Ivor Novello.

Bydd Liam Gallagher yn cynnwys caneuon o ‘C’MON YOU KNOW’  mewn cyfres o sioeau enfawr yr haf hwn, gan gynnwys dwy sioe gefn-wrth-gefn ym Mharc Knebworth sydd eisoes wedi gwerthu pob tocyn. Dyna lle perfformiodd Oasis ddwy o sioeau mwyaf y degawd yn 1996, digwyddiad a gafodd ei bortreadu yn y rhaglen ddogfen ddiweddar ‘Oasis Knebworth 1996’. Bydd y daith yn dod i ben gyda pherfformiad fydd yn siŵr o fod yn un bythgofiadwy yn y lleoliad awyr agored epig sy’n gefnlen i Fae Caerdydd.

Bydd dydd Gwener 27 Mai yn ddiwrnod hynod bwysig i gefnogwyr Liam Gallagher gyda rhyddhau ei drydydd albwm stiwdio unigol ‘”C’MON YOU KNOW”, a’i albwm byw newydd ‘Down By The River Thames’, yn ogystal â’r diwrnod y bydd tocynnau’n mynd ar werth ar gyfer ei sioe enfawr ym Mae Caerdydd.

Bydd The Charlatans yn westeion arbennig iawn, gyda rhagor o artistiaid i’w datgelu cyn hir.

Archebwch yr albwm C’MON YOU KNOW o’r siop swyddogol erbyn 3pm dydd Mawrth, ar gyfer mynediad cynnar i docynnau o ddydd Mercher am 10am.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer E-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, cynigion arbennig, y cynnwys diweddaraf a mwy gan CroesoCaerdydd.com