Beth wyt ti'n edrych am?
Haf o Hwyl i Blant a Phobl Ifanc Caerdydd
6 Gorffennaf 2022
Ar ôl llwyddiant Gwên o Haf a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd gŵyl Haf o Hwyl yn cael ei chynnal i blant a phobl ifanc Caerdydd dros wyliau’r haf.
Mae rhaglen Haf o Hwyl Cyngor Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau rhad ac am ddim i blant 0-25 oed ledled y ddinas rhwng mis Gorffennaf a Medi. Mae ein Tîm Caerdydd sy’n Dda i Blant yn cydlynu’r rhaglen sydd â’r nod o gefnogi cenedlaethau’r dyfodol yng Nghaerdydd gyda’u lles cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros yr haf.
Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy’n Dda i Blant Caerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. Mae Caerdydd sy’n Dda i Blant yn cyd-fynd yn agos ag uchelgais y ddinas i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor y DU ar
gyfer UNICEF.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:
“Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’n hymrwymiad i ail-ymgysylltu plant a phobl ifanc Caerdydd â’u dinas wrth roi gwên ar eu hwynebau a chynnig cyfleoedd newydd i ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau a theulu.”
Bydd Haf o Hwyl yn cwmpasu’r canlynol:
• Gŵyl bythefnos ar Lawnt Neuadd y Ddinas
• Gweithgareddau ledled y ddinas
• Rhaglen gelfyddydol a diwylliannol wedi’i churadu gan Actifyddion Artistig
Am fwy o wybodaeth, gweler ein tudalen Haf o Hwyl.