Neidio i'r prif gynnwys

Haf Prysur: Eich Canllaw I Beth Sy’n Digwydd Yr Haf Hwn

3 Awst 2022

Mae’n wych gweld yr holl ddigwyddiadau cyffrous yn dod i Gaerdydd yr haf hwn.  Rydym wedi crynhoi saith o’n huchafbwyntiau ac mae rhywbeth i bawb yn digwydd yn ein prifddinas.

1. MWY O AMSER YN AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

4 Awst & 1 Medi @ Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Mynediad am ddim, dim angen cadw lle.

Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod ein horiau agor estynedig nos Iau cyntaf.

Gydag oriau agor estyngedig, bydd cyfle ychwanegol/cyfle arall i chi:

  • Gyfarfod am goffi yn yr amgueddfa.
  • Cymdeithasu gyda ffrindiau yn yr amgueddfa.
  • Mwynhau y celf yn yr amgueddfa.
  • Cwrdd â’ch hoff ddeinosor wyneb-yn-wyneb yn yr amgueddfa.
  • Crwydro drwy’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa.

Mynediad am ddim i’r amgueddfa.

2. Y GANRED: CRICED TAN CYMREIG

7 Awst, 13 Awst, 22 Awst, 26 Awst @ Gerddi Sophia | Angen tocynnau.

Tân Cymreig v Oval Invincibles – 7 Awst

Tân Cymreig v Birmingham Phoenix – 13 Awst

Tân Cymreig v Southern Brave – 22 Awst

Tân Cymreig v Northern Superchargers – 26 Awst

Mae un o’r timau chwaraeon gorau yn y ddinas, Tân Cymreig, yn ôl yn chwarae’r haf hwn (timau dynion a merched) wrth i gystadleuaeth ddiweddaraf y byd criced ddychwelyd i wefreiddio torfeydd gyda chriced cyflym ac adloniant llawn cynnwrf i bob oedran.

Oherwydd bod criced i fenywod wedi’i gynnwys yn rhaglen Gemau’r Gymanwlad, bydd cystadleuaeth y merched yn dechrau ychydig ddyddiau ar ôl y dynion eleni. Fodd bynnag, bydd gweddill y gemau yn dychwelyd i’r fformat gêm ddwbl poblogaidd, gyda thimau dynion a menywod yn chwarae ar yr un diwrnod – gyda thocynnau’n rhoi hawl i gefnogwyr wylio’r ddwy gêm.

Paratowch at ail flwyddyn yn llawn gweithgareddau Y Ganred yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

3. THEATR AWYR AGORED – AS YOU LIKE IT

10 Awst @ Castell Caerdydd | Angen tocynnau.

Mae The Lord Chamberlain’s Men – sydd â hanes yn ymestyn yn ôl i William Shakespeare ei hun – yn eich gwahodd i ymuno â nhw yr haf hwn ar gyfer y comedi disglair, As You Like It. Mae un o gwmnïau theatr teithiol gorau’r DU yn cyflwyno’r ddrama wych hon fel y gwelodd Shakespeare hi am y tro cyntaf – yn yr awyr agored, gyda chast gwrywaidd a gyda gwisgoedd, cerddoriaeth a dawns Elisabethaidd.

Ar wahân i’w gilydd, mae Rosalind a’i ffrind annwyl Celia, y nobl Orlando, a’r gorchfygedig Uchel Ddug a’i lyswyr yn cael eu halltudio ac yn creu bywydau newydd i’w hunain yn Fforest Arden.  Yn rhydd o gyfyngiadau eu bywydau blaenorol, mae cariadon yn cystadlu, ffyliaid yn ffeitio, bondiau teuluol yn cael eu herio, a phawb yn ymryson â’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn driw i chi’ch hun.

Yn eu halltudiaeth, maent yn gorfoleddi ac mae gwir gariad a gwir hunaniaeth yn dod i glawr yn y goedwig. Bydd y giamocs gwledig a’r gerddoriaeth, y chwerthin, y dryswch traws-wisgo a’r holl ymgodymu yn siŵr o ddod â gwên i’r wyneb.

Dewch â chadair a phicnic yn barod i gael eich diddanu a’ch cludo yn ôl drwy amser. Cadwch le yn gynnar i osgoi cael eich siomi!

4. FIM SPEEDWAY GRAND PRIX

13-14 Awst @ Stadiwm Principality | Angen tocynnau.

Mae digwyddiad chwaraeon modur dan do mwyaf Prydain yn dychwelyd i Stadiwm Principality Caerdydd.
Mae’r FIM British SpeedwayGP yn dathlu ei 20fed ymweliad â phrifddinas Cymru ers iddo gael ei lansio yno yn 2001, a bydd un o ddigwyddiadau hanfodol speedway y byd yn 2022.
Prin yw’r synau gwell ym myd chwaraeon na phedwar peiriant SpeedwayGP 500cc yn mynd olwyn-wrth-olwyn dan do eiconig Stadiwm Principality, gyda bloedd y dorf a chyrn aer o’r stondinau yn drac cefn gwych.
Mae’r sêr Speedway Tony Rickardsson, Greg Hancock, Jason Crump, Nicki Pedersen, Chris Holder a Bartosz Zmarzlik yn rhai o’r beicwyr sydd wedi cyrraedd y podiwm yng Nghaerdydd, a sut y gallem anghofio’r arwr Prydeinig Chris Harris a oedd yn fuddugoliaethus yn 2007?
A gawn ni weld enillydd Prydeinig arall yn 2022? Ewch i Gaerdydd ar benwythnos sy’n cynnwys digwyddiadau SpeedwayGP a SGP2 – dwbl y rasio, dwbl y cyffro a dau ddiwrnod o wefr fythgofiadwy.

 

5. GARDDWEST HAF

13 Awst (10:30am-4:30pm) @ Castell Caerdydd | Angen tocynnau.

Ymunwch â ni am ddiwrnod ffantastig hwyl yr haf i’r teulu yng Nghastell Caerdydd.

Diwrnod o weithgareddau celfyddydol, theatr a cherddoriaeth fyw
Perfformiad byr o ‘Little Manfred’ oddi wrth awdur ‘War Horse’

Cerddoriaeth fyw ar y llwyfan
‘Orchestra of the Swan’, ‘Military Wives Choir’ a mwy

Y Cymry Brenhinol a Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines (QDG)
Gafr a merlen gatrodol gydag atyniadau chwyddadwy a stondin gweledigaeth nos

Gweithgareddau celfyddydol i bob oed
Dosbarthiadau meistr ar wneud pypedau, dawnsio, arlunio, barddoniaeth ac actio

YN OGYSTAL Â

  • Paentio wynebau
  • Lansiad gardd goffa newydd
  • Stondinau gwybodaeth – Darparwyr gwasanaethau teuluoedd a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog
  • Stondinau bwyd artisan, hufen iâ a diodydd

 

6. CYNGERDD NOSWYL HAF

13 Awst (6.30pm-10pm) @ Castell Caerdydd | Angen tocynnau.

Cyngerdd nos haf yng Nghastell Caerdydd – agored i bawb; teuluoedd y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’r cymuned gyfan.

Yn fyw ar y llwyfan a’r sgrin fawr:

Perfformiad byr o ‘Little Manfred’
Oddi wrth awdur ‘War Horse’
‘The Soldiers’ Art Academy’

Lansiad ffilm fer: ’Veterans’ Stories’
Tystebau cyn-filwyr Cymreig

‘Orchestra of the Swan’
Y gerddorfa enwog, broffesiynol yn fyw ar y llwyfan

Cantorion, perfformwyr, dawns a barddoniaeth
Yn fyw ar y llwyfan: Military Wives Choir,
Maurillia Simpson (Cantores anthem Wembley)
Perfformiadau barddoniaeth a dawns

YN OGYSTAL Â

  • Perfformwyr tân, sioe fflamau a thân gwyllt
  • Stondinau Bwyd Artisan a diodydd
  • Bar siampên/Prosecco

7. WWE CLASH AT THE CASTLE

3 Medi @ Stadiwm Principality | Angen tocynnau.

Bydd digwyddiad stadiwm WWE mawr cyntaf y DU ers dros 30 mlynedd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Medi 3, 2022.

Wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru ac yn gyrchfan diwylliant a chwaraeon sydd â hanes o gynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf – mae Stadiwm y Principality yn lleoliad modern, amlweddog ac yn gartref i dîm rygbi undeb cenedlaethol Cymru.

Mae tocynnau bellach ar werth yn gyffredinol.

Rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych yn mwynhau un o’r nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill yr haf yma yng Nghaerdydd.