Neidio i'r prif gynnwys

CANLLAW DIWRNOD GLAWOG CROESO CAERDYDD

Peidiwch â gadael i’r glaw ddifetha’ch diwrnod, mae digon o weithgareddau teuluol cyffrous tra bod y tywydd yn wlyb i’w cael yng Nghaerdydd. Does dim esgus dros aros adre!

Cymerwch olwg ar y rhestr isod i weld rhai o’r mannau diwrnod glawog gorau yn y Ddinas, sgroliwch i lawr ar gyfer adloniant ac atyniadau, hwyl addysgol, teithiau a siopa.

Peidiwch ag anghofio – dim ond cipolwg byr yw hwn ar y nifer o atyniadau sydd yng Nghanol y Ddinas ac o’i chwmpas. Edrychwch ar ein tudalennau Gweld a Gwneud i weld mwy.

ADLONIANT ac ATYNIADAU

ESCAPE ROOMS CAERDYDD

Chwilio am rywfaint o hyfforddiant i’r ymennydd ar ddiwrnod glawog? Mae’r union beth gennym. Dewiswch eich thema o’n 6 ystafell gêm profiad trochol. Byddwch yn derbyn nod benodol a bydd gofyn i chi ddod o hyd i wrthrychau, codau a chliwiau yn yr ystafelloedd.

Gyda 60 munud ar y cloc, bydd angen i chi feddwl yn gyflym, meddwl yn glyfar a gweithio fel tîm os ydych am ddod allan mewn pryd!

TECHNIQUEST

Dau lawr o fodelau difyr, peiriannau rhyfeddol ac arddangosfeydd rhyngweithiol i greu penbleth: lansiwch roced, rhowch gynnig ar lawdriniaeth rithwir, profwch ddaeargryn go iawn a hyd yn oed deimlo grym corwynt!

Mae rhywbeth i bob oedran ei ddarganfod a’i fwynhau, gyda dros 100 o arddangosiadau yn gysylltiedig â phum thema allweddol: gofod, yr amgylchedd, cemeg, gwyddoniaeth fiofeddygol a materion byd-eang.

CANOLFAN Y DDRAIG GOCH

Ni yw cartref hwyl a sbri dan do! Canolfan y Ddraig Goch ym Mae Caerdydd yw lleoliad adloniant gorau’r Ddinas, gyda bwyd blasus a gweithgareddau gwych oll dan yr unto. Ac i goroni’r cyfan dyw hi byth yn bwrw yma chwaith!

Cewch yma sinema ODEON fodern, sy’n gartref i unig sgrîn IMAX ddigidol de Cymru, 26 lôn Bowlio Deg ag ardal arcêd arbennig, Casino Grosvenor 24 awr gyda lolfa chwaraeon foethus, a Simply Gym 20,000 tr. sgwâr o faint!

ARENA IÂ CYMRU

Mae’r rhain yn sesiynau cyhoeddus ar gyfer pawb, gan gynnwys myfyrwyr, sglefrwyr aeddfed a phlant bach, ynghyd â sesiynau gyda’r nos i’r rheiny sy’n hoffi ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith neu’r ysgol.

Mae sglefrio iâ yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu, i ffrindiau neu hyd yn oed i chi a’ch sboner, lle gallwch gael hwyl ar yr iâ. Cofiwch, mae pawb yn gyfartal ar yr iâ – bydd pawb yn cwympo!

GOLFF TREETOP

Dewch i gymryd rhan mewn antur golff mini ar un o’n dau gwrs 18 twll, yn ogystal â chael dewis o goffi, coctêls a bwyd blasus.

Ewch i’r afael â’r Trywydd Trofannol gan lywio drwy’r goedwig law, ac ymweld â Derwen Mam-gu ar hyd yr Afon Gyfrin, sgwrsio â thwcaniaid digywilydd a gwrando am ein llyffantod soniarus wrth i chi aros yng Ngwesty’r Pitz Bug. Neu efallai y byddwch chi’n ddigon dewr i brofi hud yr Hen Anturiaethwr, gyda’i adfeilion temlau a’i olygfeydd. Dysgwch bopeth am Chwedl y Deml Toco Twcan Liwgar wrth i chi lywio o le i le. Mae’r Masg Sanctaidd yn awyddus i gwrdd â chi, ond ceisiwch beidio â deffro’r Pennaeth Cysglyd!

PWLL A CHAMPFA RHYNGWLADOL CAERDYDD

Cyfleuster gwych i’r teulu yng nghanol Bae Caerdydd, a fydd yn rhoi oriau o hwyl i’r teulu cyfan! Rydym yn falch iawn o’r Pwll Hamdden cyffrous sy’n cynnwys Llithrennau Dŵr, Powlen-Ofod ac Afon Araf; i gyd wedi’u gwarantu i gynnig pendro go iawn! Mae gennym hefyd strwythur chwarae plant bach a llithren ar gyfer ein nofwyr bach!

Yna pan fydd yn amser i ymlacio; mwynhewch ein Hystafell Iechyd gyda Sawna, Ystafell Stêm a Baddon Sba, ac yna coffi o’ch dewis yn ein Caffi cyfeillgar ar y safle.

FIESTA PÊL-DROED 

Parc Ffans Pêl-droed dan do cynta’r byd. Wedi’i gynllunio gan arbenigwyr sydd wedi creu Parciau Cefnogwyr i’r clybiau a’r digwyddiadau mwyaf ledled y byd, mae’r lleoliad parhaol cyntaf bellach ar agor yng Nghaerdydd.

Gyda dros 20 o gêmau a gweithgareddau gwahanol – o’r Radar Cyflymder Ergyd i Bŵl Pêl-droed, o Her y Trawst i’r Balans D’Or a llwyth o gyfleoedd i dynnu lluniau – mae rhywbeth ar gael yn bendant i bawb.

TEITHIAU

CASTELL CAERDYDD

Wedi’i leoli o fewn parcdiroedd hardd yng nghanol y brifddinas.  Bu unwaith yn gaer Rufeinig, yn gadarnle Normanaidd ac yn gampwaith Gothig Fictoraidd, mae muriau a thyrau tylwyth teg Castell Caerdydd yn cuddio 2,000 o flynyddoedd o hanes.

Am ffi fechan ychwanegol gallwch ddilyn ôl troed teulu Bute, gan fynd yng nghwmni un o’n tywyswyr arbenigol ar daith ddiddorol ac addysgiadol o’r trigfannau byw Fictoraidd ysblennydd. Mae’r daith yn para tua 50 munud ac yn hanfodol os ydych chi am dyrchu’n ddyfnach i hanes yr adeilad anhygoel hwn.

TEITHIAU BBC CYMRU WALES

Ydych chi erioed wedi meddwl sut caiff effeithiau sain eu rhoi ar eich hoff bodlediadau? Neu sut brofiad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’r tywyswyr cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i’r llenni yn  BBC Cymru. Ewch i’r stiwdios teledu a radio o’r radd flaenaf i ddarganfod cyfrinachau gwneud rhaglenni’r BBC.

Ar eich taith cewch:

  • Ymweld ag un o ystafelloedd newyddion mwyaf y BBC, llawn technoleg flaengar gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a chamerâu robotig
  • A chael cipolwg ar orielau teledu a chyfleusterau darlledu eraill

HWYL ADDYSGOL

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol canolfan ddinesig hardd Caerdydd ac mae’n gartref i gelf a hanes naturiol o safon ryngwladol, gan gynnwys casgliadau celf, hanes naturiol a daeareg cenedlaethol, ynghyd âg arddangosfeydd teithiol o bwys a rhai dros dro.

Os ydych am sefyll a syllu, mae digon i blesio’r llygad – o baentiadau Argraffiadol i ddinosoriaid enfawr.  Er mwyn darganfod mwy, gallwch ddilyn amrywiaeth o lwybrau oriel i’ch tywys o amgylch yr Amgueddfa. Gyda rhaglen brysur o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae gennym rywbeth i ryfeddu pawb, beth bynnag fo’ch diddordeb – ac mae mynediad am ddim!

PROFIAD Y BATHDY BRENHINOL

Dewch i ddarganfod 1,100  flynyddoedd o hanes yn Profiad y Bathdy Brenhinol. Dysgwch am y broses o fathu darnau arian, o baratoi’r disgiau metel plaen i greu eich darn arian eich hun.

Ychydig o fanylion am y daith ffatri – Mae ein gwasgfeydd yn bathu oddeutu 750 o geiniogau bob munud, yn gyflymach nag y gall y llygad weld! Gall ein gwesteion ddechrau eu casgliadau darnau arian gan fynd â darn arian arbennig adref gyda nhw, y gwnaethant helpu ei fathu. Gydag un bathiad bydd eich disg wag yn troi’n ddarn arian o’r DU. Mae’r darn arian a gaiff ei fathu yn newid ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn.

TAITH Y SENEDD

Dyma gartref Siambr ac Ystafelloedd Pwyllgor Senedd Cymru ac mae oriel gyhoeddus ym mhob un sy’n rhoi rhwydd hynt i’r cyhoedd fynd i mewn ac ymddiddori yn y trafodaethau sy’n helpu i lywio eu bywydau, ac yno hefyd ceir arddangosfeydd a digwyddiadau o safon ryngwladol trwy’r flwyddyn.

Mae’r Senedd yn gwbl dryloyw ar y lefelau cyhoeddus gyda chaffi a siop ar y lefel uchaf, lle caiff y cyhoedd fwynhau paned o de a chacen gri ar ôl mynd heibio i’r gwiriadau diogelwch, a phori drwy’r llenyddiaeth a’r anrhegion crefft sydd ar gael o bob cwr o Gymru.

EGLWYS GADEIRIOL LLANDAF

Eglwys Gadeiriol y seintiau Pedr a Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy yw mam-eglwys Esgobaeth Llandaf ac fe saif ar un o safleoedd Cristnogol hynaf gwledydd Prydain.

Saif y Gadeirlan yn hen “Ddinas Llandaf” y mae llawer ohoni bellach yn ardal gadwraeth. Er iddo gael ei amgylchynu ar bob ochr gan ddinas fodern brysur Caerdydd, mae ardal gadwraeth Llandaf yn parhau i fod yn gymharol ddigyfnewid ac yn rhyfeddol o dawel.

TAITH PYLLAU GLO CYMRU

Dewch draw a dysgu am hanes Rhyngwladol glo Cymru ac am y bobl a wnaeth y glo yn fusnes byd-eang. Mae’n RHAID i chi fynd i’r Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda fel rhan o’ch ymweliad. Caiff ymwelwyr fwynhau profiad unigryw mewn pwll glo go iawn yng nghymoedd de Cymru.

Yn arddangos cymunedau glofaol Cymoedd byd-enwog y Rhondda, mae’r atyniad poblogaidd i deuluoedd yn cynnig cipolwg ar ddiwylliant  a chymeriad cyfoethog yr ardal.

SIOPA

CANOLFAN SIOPA DEWI SANT

Wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru, mae Dewi Sant Caerdydd yn gyrchfan siopa pennaf Cymru.  Gyda thros 40 miliwn o siopwyr yn heidio trwy’r drysau bob blwyddyn, mae Dewi Sant wedi sicrhau bod canol dinas Caerdydd bendant ar y map fel un o’r mannau gorau ar gyfer manwerthu yng ngwledydd Prydain.

Gyda thros 180 o siopau, caffis a bwytai i’w fforio, Dewi Sant yw’r cyrchfan delfrydol am ddiwrnod allan, p’un ai a ydych yn bwriadu adlonni’r teulu, cael cinio amheuthun gyda ffrindiau neu ddod o hyd i’r eitem berffaith honno ar gyfer eich wardrob.

YR ARCEDAU FICTORAIDD AC EDWARDAIDD

Heb os, mae’r arcedau Fictoraidd, sy’n un o elfennau mwyaf ysblennydd dinas Caerdydd, wedi denu siopwyr am dros ganrif gyda’u cymysgedd eclectig o fusnesau annibynnol. Mae’r arcedau’n rhoi agwedd wahanol ar siopa yng Nghaerdydd, a hwythau gerllaw canolfan siopa fawr newydd Dewi Sant.

Pa adeg bynnag fyddwch yn ymweld â’r ddinas, mae’r arcedau’n llawn cynnwrf pobl o bob oedran; gallwch weld gweithwyr yn heidio tuag at Fresh Baguette a Crumbs amser cinio, siopwyr Sadwrn yn cael saib dros baned o de yn Barkers, a myfyrwyr yn torri eu gwallt a thocio eu barfau yn y llu o siopau torri gwallt.